{"id":475,"date":"2026-02-20T18:09:24","date_gmt":"2026-02-20T18:09:24","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/?p=475"},"modified":"2026-02-20T18:10:36","modified_gmt":"2026-02-20T18:10:36","slug":"475-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/cy\/475-2\/","title":{"rendered":"O Ignite i PlaceNET: Creu Mannau ar gyfer Cydweithio"},"content":{"rendered":"<p>&nbsp;<\/p>\n<h3>Ysgrifennwyd Gan <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/albarrancarrillov\">Dr Veronica Albarran Carrillo<\/a><\/h3>\n<h1>Creu Cysylltiadau ar draws yr Amgylchedd Adeiledig<\/h1>\n<p>Ymunais i \u00e2 Phrifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2024 yn Gydymaith Ymchwil ar y prosiect <a href=\"https:\/\/www.transforminghomes.org.uk\/\">Trawsnewid Cartrefi<\/a>, sef prosiect wedi\u2019i ariannu gan AHRC sy\u2019n ystyried sut i gyd-ddylunio cartrefi a gafodd eu hadeiladu rhwng y ddau ryfel byd a\u2019u gwneud nhw\u2019n addas i genedlaethau\u2019r dyfodol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru, yn Adeilad Bute. Drws nesaf i\u2019r adeilad yn Adeilad Morgannwg, mae <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/osullivankm1\">Dr Kate O\u2019Sullivan<\/a> yn gweithio yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ar y prosiect <a href=\"https:\/\/www.buildzero.ac.uk\/\">BuildZero<\/a> sydd wedi\u2019i ariannu gan EPSRC. Mae\u2019n ymchwilio\u2019r llwybrau i drawsnewid adeiladau\u2019r DU heb echdynnu deunyddiau, heb gynhyrchu carbon a heb gynhyrchu gwastraff.<\/p>\n<p>Er bod ein prosiectau\u2019n croestorri mewn sawl ffordd ac ein bod yn gweithio mewn adeiladau cyfagos, nid oedden ni wedi cwrdd tan i ni\u2019n dau ymuno \u00e2 <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/research-careers\/cynnau-ignite\">Cynnau | Ignite<\/a>, sef rhaglen arweinyddiaeth wedi\u2019i hariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome a\u2019i chynnal yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025. Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar rymuso staff i gyfrannu at ddiwylliant ymchwil cadarnhaol, gan drin a thrafod beth mae\u2019n ei olygu yng nghyd-destun ein gwaith bob dydd ac o fewn yr amgylchedd ymchwil ehangach.<\/p>\n<p>I lawer o bobl, y rhaglen Cynnau oedd y cyfle cyntaf i ni gwrdd \u00e2 chydweithwyr o ysgolion eraill. Yn ystod sesiynau\u2019r prosiect, cafodd Kate a finnau\u2019r cyfle i gwrdd \u00e2 nifer o ymchwiliwr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd sy\u2019n gweithio ar yr amgylchedd adeiledig \u2013 o efeilliaid digidol yn yr Ysgol Peirianneg, i dechnolegau sy\u2019n cefnogi ymarfer corff yn y cartref yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, i weithio gyda phlant i asesu ansawdd aer yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a mwy.<\/p>\n<p>Thema a godwyd dro ar \u00f4l tro yn ein trafodaethau oedd cyfleoedd cyfyngedig i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a staff ar gontractau cyfnod penodol i gysylltu, rhannu eu gwaith, a datblygu rhwydweithiau. Gyda phrosiectau ag amserlenni byr ac amcanion uchelgeisiol, mae\u2019n gallu bod yn anodd datblygu perthnasau yn ein hysgolion ein hunain, heb s\u00f4n am y Brifysgol ehangach.<\/p>\n<h2>O\u2019r syniad i\u2019r fenter: PlaceNET<\/h2>\n<figure id=\"post-441 media-441\" class=\"image align-right\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-content\/uploads\/sites\/656\/2025\/12\/PlaceNET-Initial-Workshop-3.jpeg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"225\" \/><\/figure>\n<p>Pan gododd y cyfle i wneud cais am grant bach drwy\u2019r rhaglen Cynnau, ac o ystyried ein cefndiroedd tebyg, penderfynodd Kate a finnau i gyflwyno cynnig ar y cyd am brosiect sy\u2019n ei gwneud hi\u2019n bosibl i gydweithio a grymuso ymchwilwyr tebyg i ni. Datblygodd y syniad cychwynnol i fod yn PlaceNET \u2013 sef menter o dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sy\u2019n galluogi staff ymchwil sy\u2019n gweithio ar ddatblygu\u2019r amgylchedd adeiledig mewn modd cynaliadwy o bob disgyblaeth i ddod at ei gilydd. Dyma gyfle gwych i roi egwyddorion Cynnau ar waith yn syth ar \u00f4l cwblhau\u2019r rhaglen, ac ar yr un pryd mynd i\u2019r afael \u00e2 her oedd yn teimlo\u2019n bersonol ac a oedd yn berthnasol i lawer o\u2019n cyfoedion.<\/p>\n<p>O bensaern\u00efaeth i ddaearyddiaeth a chynllunio, peirianneg, y gyfraith, seicoleg, a gwleidyddiaeth, mae PlaceNET yn ceisio meithrin cysylltiadau trawsddisgyblaethol, rhannu syniadau, ac ysgogi cyfleoedd ymchwil newydd.<\/p>\n<p>Drwy gynnal gweithdai wyneb yn wyneb amser cinio rhwng mis Mai a mis Hydref, nod y rhwydwaith oedd i:<\/p>\n<ul>\n<li>Dod ag ymchwilwyr at ei gilydd ar draws disgyblaethau<\/li>\n<li>Creu cyfleoedd i rannu ymchwil a chyfnewid syniadau<\/li>\n<li>Datblygu cydweithrediadau sy\u2019n cyfrannu at leoedd iachach, mwy cynaliadwy, a hyfyw<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Yr hyn a gyflawnwyd gennym hyd yma<\/h2>\n<figure id=\"post-439 media-439\" class=\"image align-left\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-content\/uploads\/sites\/656\/2025\/12\/PlaceNET-Workshop-3.jpeg\" alt=\"\" width=\"244\" height=\"180\" \/><\/figure>\n<p>Ymhen chwech mis mae PlaceNET wedi cysylltu \u00e2 50 o ymchwilwyr ar draws y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyfrifiadureg, Busnes, Gofal Iechyd, Seicoleg, Peirianneg, Meddygaeth, WISERD, Daearyddiaeth a Chynllunio, ac Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru. Rydyn ni wedi cynnal chwe gweithdy, gyda 21 o ymchwilwyr yn cyflwyno eu gwaith ac wedi ysgogi trafodaethau bywiog a chysylltiadau newydd. Er bod codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion wedi bod yn her yn y dechrau, roedd cymorth swyddogion ymchwil lleol, gyda rhai ohonyn nhw\u2019n gyd-aelodau o Cynnau, yn werthfawr iawn.<\/p>\n<p>Mae\u2019r digwyddiadau hyn wedi rhoi cyfle i gydweithwyr gysylltu \u00e2 phobl eraill o wahanol ddisgyblaethau a chamau gyrfa ar draws ysgolion. Mae\u2019r brwdfrydedd rydyn ni wedi\u2019i weld yn tynnu sylw at y ffaith bod galw mawr am gydweithio o dan arweiniad them\u00e2u \u2013 nid yn unig yn yr amgylchedd adeiledig ond ar draws cymuned ymchwil ehangach Prifysgol Caerdydd. Ynghyd \u00e2 dysgu am ymchwil a diddordebau ein gilydd, dechreuon ni nodi lle&#8217;r oedd them\u00e2u\u2019n croestorri a lle mae\u2019n bosibl i gydweithio. Rodd yr adborth yn hynod gadarnhaol, gyda llawer \u00e2 diddordeb mewn parhau \u00e2\u2019r rhwydwaith ar \u00f4l y grant cychwynnol.<\/p>\n<p>Mae gan PlaceNET dudalen <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/placenet-research\/\">LinkedIn<\/a> bellach i rannu\u2019r wybodaeth ddiweddaraf ac i eirioli dros waith ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu cyfeirlyfr o ymchwilwyr, a fydd yn cael ei gynnal ar y wefan sydd ar ddod ac a fydd yn bwynt canolog y rhwydwaith. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno \u00e2 PlaceNET, llenwch yr <a href=\"https:\/\/docs.google.com\/forms\/d\/e\/1FAIpQLSfebeEANlmBRhmraYanAowNgRueX3Ymvy3Q5ov0XPWQjNpW1g\/viewform?usp=sharing&amp;ouid=106298181145528877080\">arolwg<\/a> canlynol.<\/p>\n<h2>Edrych tua\u2019r Dyfodol<\/h2>\n<figure id=\"post-440 media-440\" class=\"image align-right\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-content\/uploads\/sites\/656\/2025\/12\/PlaceNET-Initial-Workshop-2.jpeg\" alt=\"\" width=\"194\" height=\"146\" \/><\/figure>\n<p>Rydyn ni bellach yn ceisio sicrhau cyllid i lansio\u2019r ail gam fydd yn canolbwyntio ar atgyfnerthu\u2019r gymuned hon sy\u2019n dod i\u2019r amlwg ac i ymgorffori diwylliant o gydweithio, gwelededd a chydgefnogaeth. Yn y cam hwn, byddwn ni\u2019n datblygu prosiectau ymchwil llai i ymdrin \u00e2 diddordebau tebyg, i gefnogi twf prosiectau cydweithredol a cheisiadau am gyllid ar y cyd. Byddwn ni hefyd yn creu cynnwys digidol i dynnu sylw at ymchwil ein cydweithwyr \u2013 gan gynnwys podleidiad a blog PlaceNET. Drwy\u2019r gweithgareddau hyn, byddwn ni\u2019n parhau i feithrin cysylltiadau rhyngddisgyblaethol a chryfhau cysylltiadau yn y gymuned \u2013 gan fynd i\u2019r afael yn uniongyrchol \u00e2 blaenoriaeth y Brifysgol, \u2018Gadael y seilo\u2019.<\/p>\n<p>Mae PlaceNET yn dangos gwerth cydweithio i lywio diwylliant ymchwil cadarnhaol. Drwy greu cyfleoedd i gynnal trafodaethau agored a chwilfrydedd cyffredin, ein nod yw datblygu cymuned ryngddisgyblaethol sy\u2019n fwy cysylltiedig. Mae wedi bod yn ysbrydoledig i weld ein cydweithwyr yn awyddus i barhau \u00e2\u2019r trafodaethau hyn, gan ein hatgoffa ni bod newid sy\u2019n para yn aml yn dechrau gyda rhywbeth sydd mor syml \u00e2 dod \u00e2 phobl at ei gilydd.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<figure id=\"post-429 media-429\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-content\/uploads\/sites\/656\/2025\/12\/PlaceNet-1.jpg\" alt=\"\" width=\"366\" height=\"211\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"&nbsp; Ysgrifennwyd Gan Dr Veronica Albarran Carrillo Creu Cysylltiadau ar draws yr Amgylchedd Adeiledig Ymunais i \u00e2 Phrifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2024 yn Gydymaith Ymchwil ar y prosiect Trawsnewid [&hellip;]","protected":false},"author":7011,"featured_media":443,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[71,69,65,84],"tags":[],"class_list":["post-475","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-datblygu-gyrfa","category-gyrfaoedd-amrywiol","category-hyrwyddo-datblygiad-proffesiynol","category-rhwydweithiau"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/475","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7011"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=475"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/475\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":478,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/475\/revisions\/478"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media\/443"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=475"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=475"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=475"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}