{"id":433,"date":"2025-12-09T19:20:33","date_gmt":"2025-12-09T19:20:33","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/?p=433"},"modified":"2025-12-16T18:27:42","modified_gmt":"2025-12-16T18:27:42","slug":"llywio-gyrfaoedd-ymchwil-gyda-fframwaith-datblygu-ymchwilwyr-vitae-2025","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/cy\/llywio-gyrfaoedd-ymchwil-gyda-fframwaith-datblygu-ymchwilwyr-vitae-2025\/","title":{"rendered":"Llywio Gyrfaoedd Ymchwil gyda Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae 2025"},"content":{"rendered":"<p>Mewn oes lle mae ymchwil yn fwyfwy rhyngddisgyblaethol, cydweithiol, ac wedi\u2019i hysgogi gan effaith, nid yw datblygiad proffesiynol ymchwilwyr erioed wedi bod yn bwysicach. Dyna lle mae <a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/vitae-researcher-development-framework\/\">Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr (RDF) Vitae 2025<\/a> yn dod i mewn. Mae\u2019n fersiwn wedi&#8217;i hadnewyddu a&#8217;i hail-lunio o&#8217;r fframwaith gwreiddiol o 2010, sydd wedi\u2019i greu i gefnogi ymchwilwyr wrth iddyn nhw lywio eu gyrfaoedd ag eglurder, pwrpas a\u2019r gallu i addasu.<\/p>\n<h2>Beth yw RDF Vitae 2025?<\/h2>\n<p>Fframwaith yw <strong>RDF Vitae 2025<\/strong> sy&#8217;n arwain y sector ac sy&#8217;n manylu ar <strong>wybodaeth, sgiliau, ymddygiadau a gwerthoedd<\/strong> ymchwilwyr effeithiol. Wedi\u2019i ddatblygu drwy ymgynghori helaeth \u00e2 rhanddeiliaid \u2013 gan gynnwys ymchwilwyr, prifysgolion, arianwyr a chyflogwyr \u2013 mae RDF 2025 yn dangos tirwedd esblygol ymchwil a\u2019r rolau amrywiol y mae ymchwilwyr yn eu chwarae mewn cymdeithas.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r fframwaith wedi&#8217;i strwythuro o amgylch y tri maes crynodedig canlynol:<\/p>\n<p>1 &#8211; <strong>Ymchwilydd<\/strong> \u2013 Gwerthoedd ac ymddygiadau personol a phroffesiynol.<\/p>\n<p>2 &#8211; <strong>Ymchwil<\/strong> \u2013 Gwybodaeth a sgiliau i ymgymryd \u00e2 gwaith ymchwil a&#8217;i gyflwyno.<\/p>\n<p>3 &#8211; <strong>Cymunedau Ymchwil<\/strong> \u2013 Sgiliau i ymgysylltu, cydweithio a chyfrannu at amgylcheddau ymchwil ehangach.<\/p>\n<p>Mae pob maes wedi&#8217;i rannu&#8217;n <strong>is-feysydd a disgrifyddion<\/strong>, sydd wedi&#8217;u rhannu ymhellach yn <strong>gyfnodau<\/strong> sy&#8217;n cynrychioli lefelau datblygiad cynyddol. Mae&#8217;r dull hwn, sy&#8217;n seiliedig ar gyfnodau, yn caniat\u00e1u i ymchwilwyr weld eu sefyllfa bresennol a sut olwg byddai ar dwf ym mhob maes.<\/p>\n<h2>Pam mae\u2019r RDF yn bwysig Manteision Allweddol<\/h2>\n<p>Mae RDF 2025 yn cynnig llu o fuddion i ymchwilwyr ym mhob cyfnod gyrfa \u2013 o ymchwilwyr \u00f4l-raddedig i uwch academyddion a gweithwyr proffesiynol sy\u2019n gweithio mewn rolau sy\u2019n gysylltiedig ag ymchwil.<\/p>\n<h3>1. Eglurder a Strwythur<\/h3>\n<p>Mae\u2019r fframwaith yn cynnig iaith gyffredin ar gyfer datblygu ymchwil, gan ei gwneud yn haws canfod, mynegi a myfyrio ar sgiliau a chymwyseddau. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol mewn lleoliadau rhyngddisgyblaethol neu wrth bontio rhwng sectorau.<\/p>\n<h3>2. Hunanasesu a Myfyrio<\/h3>\n<p>Gall ymchwilwyr ddefnyddio\u2019r RDF i feincnodi eu galluoedd presennol, canfod cryfderau, a nodi meysydd i\u2019w gwella. Mae\u2019r model cyfnodau yn annog ymarfer myfyriol ac yn cefnogi dysgu parhaus.<\/p>\n<h3>3. Cynllunio Gyrfaol<\/h3>\n<p>Boed yn anelu at swydd academaidd, r\u00f4l yn y diwydiant, neu swydd polisi, mae&#8217;r RDF yn helpu ymchwilwyr i gynllunio llwybrau gyrfaol a sicrhau bod gweithgareddau datblygu yn cyd-fynd \u00e2 nodau hirdymor. Mae\u2019n cefnogi dilyniant fertigol a symud ochrol ar draws sectorau.<\/p>\n<h3>4. Cymorth i Oruchwylwyr a Sefydliadau<\/h3>\n<p>Nid ar gyfer ymchwilwyr unigol yn unig y mae&#8217;r RDF. Mae&#8217;n offeryn gwerthfawr i oruchwylwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol, a chynghorwyr gyrfaoedd, gan eu helpu i arwain a chefnogi datblygiad ymchwilwyr mewn ffordd strwythuredig ac ystyrlon.<\/p>\n<h3>5. Cyd-fynd \u00e2 Diwylliant Ymchwil<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r fframwaith wedi&#8217;i ddiweddaru&#8217;n pwysleisio gwerthoedd megis uniondeb ymchwil, ymchwil agored, a chyfnewid gwybodaeth, gan gyd-fynd \u00e2 mentrau ehangach i feithrin diwylliannau ymchwil iach a chynhwysol.<\/p>\n<h2>Defnyddio RDF at ddibenion Cynllunio Datblygiad Gyrfaol<\/h2>\n<p>Un o gymwysiadau mwyaf pwerus RDF 2025 yw cynllunio datblygiad gyrfaol. Dyma sut gall ymchwilwyr fanteisio i\u2019r eithaf arno:<\/p>\n<h3>1. Dadansoddiad o Anghenion Datblygu<\/h3>\n<p>Mae offer fel Cynlluniwr y RDF a Dadansoddiad Anghenion Datblygu (DNA) yn helpu ymchwilwyr i asesu eu sgiliau presennol a chanfod bylchau. Mae&#8217;r myfyrio strwythuredig hwn yn galluogi datblygiad wedi&#8217;i dargedu ac yn osgoi&#8217;r dasg llethol o geisio mynd i&#8217;r afael \u00e2 phopeth ar unwaith.<\/p>\n<h3>2. Creu Cynllun Datblygu Personol<\/h3>\n<p>Gan ddefnyddio disgrifiadau a chyfnodau&#8217;r RDF, gall ymchwilwyr greu cynllun datblygu personol sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;u dyheadau gyrfaol. Gallai hyn gynnwys mynd i weithdai, ceisio mentora neu ennill profiad mewn arweinyddiaeth neu ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd.<\/p>\n<h3>3. Olrhain Cynnydd<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r RDF yn annog ymchwilwyr i ddogfennu taith eu ddatblygu, sy&#8217;n ddefnyddiol at ddibenion gwerthusiadau, ceisiadau am gyllid a chyfweliadau. Mae&#8217;n helpu i ddangos cyflawniadau mewn ffordd sy&#8217;n berthnasol ar draws disgyblaethau a sectorau.<\/p>\n<h3>4. Integreiddio Sefydliadol<\/h3>\n<p>Mae llawer o brifysgolion a sefydliadau ymchwil yn amlinellu eu rhaglenni hyfforddi i&#8217;r RDF, gan ei gwneud hi&#8217;n haws i ymchwilwyr gael hyd i gyfleoedd perthnasol. Mae&#8217;r integreiddio hwn yn cefnogi dull cydlynol a strategol o ddatblygiad proffesiynol.<\/p>\n<h3>5. Paratoi at REF a thu hwnt<\/h3>\n<p>Defnyddir RDF 2025 hefyd i gefnogi cynllunio sefydliadol ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029, yn enwedig mewn meysydd sy&#8217;n ymwneud \u00e2 phobl, diwylliant a&#8217;r amgylchedd. Mae&#8217;n cynnig strwythur i ddangos sut mae sefydliadau&#8217;n cefnogi datblygiad ymchwilwyr ac yn meithrin diwylliannau ymchwil cynhwysol.<\/p>\n<h2>Sylwadau i gloi<\/h2>\n<p>Mae Vitae RDF 2025 yn fwy na fframwaith \u2013 mae&#8217;n offeryn strategol i rymuso ymchwilwyr i gymryd yr awenau ar eu gyrfaoedd. Drwy gynnig eglurder, hyblygrwydd ac iaith a rennir, mae&#8217;n cefnogi unigolion a sefydliadau fel ei gilydd i adeiladu ecosystem ymchwil ffyniannus.<\/p>\n<p>P&#8217;un a ydych chi newydd ddechrau eich PhD neu&#8217;n arwain t\u00eem ymchwil, mae RDF 2025 yn eich gwahodd i fyfyrio, cynllunio a thyfu. Mewn byd lle mae ymchwil yn fwyfwy cymhleth a chydweithredol, mae&#8217;r fframwaith hwn yn helpu i sicrhau bod ymchwilwyr nid yn unig yn barod i lwyddo ond hefyd wedi&#8217;u hysbrydoli i wneud cyfraniadau ystyrlon i gymdeithas.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mewn oes lle mae ymchwil yn fwyfwy rhyngddisgyblaethol, cydweithiol, ac wedi\u2019i hysgogi gan effaith, nid yw datblygiad proffesiynol ymchwilwyr erioed wedi bod yn bwysicach. Dyna lle mae Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr [&hellip;]","protected":false},"author":7011,"featured_media":421,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[71,65,57],"tags":[],"class_list":["post-433","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-datblygu-gyrfa","category-hyrwyddo-datblygiad-proffesiynol","category-ymwybyddiaeth-ac-ymgysylltu"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/433","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7011"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=433"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/433\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":435,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/433\/revisions\/435"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media\/421"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=433"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=433"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=433"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}