{"id":356,"date":"2026-03-05T12:00:16","date_gmt":"2026-03-05T12:00:16","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/?p=356"},"modified":"2025-07-21T20:23:36","modified_gmt":"2025-07-21T19:23:36","slug":"maer-cyfnod-adolygu-datblygiad-a-pherfformiad-yn-agosau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/cy\/maer-cyfnod-adolygu-datblygiad-a-pherfformiad-yn-agosau\/","title":{"rendered":"Mae\u2019r cyfnod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn agos\u00e1u!"},"content":{"rendered":"<p>Nid yw\u2019r broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn rhywbeth sy\u2019n cyffroi pobl fel arfer, ond mae\u2019r broses ei hun ac ychydig bach o ymdrech ymlaen llaw gennych chi\u2019n eich helpu i sicrhau bod y flwyddyn o\u2019ch blaen yn un lwyddiannus a chynhyrchiol!<\/p>\n<p>Mae&#8217;n gyfle i chi ystyried eich cyflawniadau yn ystod y flwyddyn flaenorol, gosod nodau newydd a sicrhau bod y camau i\u2019w cymryd i ddatblygu eich gyrfa a datblygu eich hun yn broffesiynol yn glir. Fodd bynnag, gall hefyd fod yn broses frawychus i lawer o bobl. Nod y blog hwn yw egluro diben a manteision y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad, gan gynnwys arfer gorau, er mwyn eich helpu i elwa i\u2019r eithaf ohoni.<\/p>\n<h2>Y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad \u2013 y &#8216;pwy&#8217;, y &#8216;pryd&#8217;, a\u2019r &#8216;sut&#8217;<\/h2>\n<p>Nid ymarfer ticio blychau\u2019n unig yw\u2019r broses hon. Mae\u2019n gyfle gwerthfawr i ymchwilwyr ystyried ac adolygu eu gwaith a\u2019u datblygiad dros y flwyddyn flaenorol. Mae modd rhannu\u2019r broses yn elfennau allweddol i\u2019ch helpu i ddeall pwy ddylai gymryd rhan yn y broses, pryd mae cyfarfodydd Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn cael eu cynnal, a sut mae\u2019r broses yn mynd rhagddi.<\/p>\n<p><strong>Pwy!<\/strong> \u2013 Dylai pob aelod o\u2019r staff, waeth pa lwybr gyrfaol y mae\u2019n ei ddilyn neu ble mae arni yn ei yrfa, gael ei wahodd i gyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad gyda\u2019i reolwr llinell (neu adolygydd enwebedig), oni bai ei fod yn gweithio <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/for-new-staff\/probation\">cyfnod prawf<\/a>. Os felly, bydd angen dilyn proses wahanol. Bydd y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn berthnasol i\u2019r rhai sy\u2019n gweithio cyfnod prawf ar \u00f4l iddyn nhw gwblhau eu cyfnod prawf.<\/p>\n<p><strong>Pryd!<\/strong> \u2013 Dylai cyfarfodydd Adolygu Datblygiad a Pherfformiad gael eu cynnal bob blwyddyn rhwng mis Chwefror a mis Mai. Os bydd aelod o\u2019r staff wedi bod yn absennol am gyfnod sylweddol yn ystod y flwyddyn (e.e. absenoldeb rhiant, absenoldeb ymchwil ac ati), efallai na fydd angen iddo gymryd rhan ar yr adeg arferol. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai amcanion yr aelod o\u2019r staff gael eu hadolygu ar \u00f4l iddo ddychwelyd i\u2019r gwaith.<\/p>\n<p><strong>Sut!<\/strong> \u2013 Mae angen llenwi ffurflen hunanfyfyriol a chael cyfarfod ar \u00f4l hynny gyda\u2019r adolygydd i drafod cynnwys y ffurflen honno &#8230;<\/p>\n<p><strong>Y FFURFLEN<\/strong> \u2013 Mae llenwi\u2019r ffurflen yn rhan hanfodol o\u2019r broses. Diben hynny yw eich helpu i ystyried eich cyfraniad dros y 12 mis diwethaf, trafod eich lles ac unrhyw beth arall a allai fod wedi cael effaith ar eich gwaith, ac ystyried sut rydych chi wedi datblygu\u2019n broffesiynol a datblygu eich gyrfa. Bydd strwythur y ffurflen yn arwain y drafodaeth yn ystod y cyfarfod ac yn sicrhau bod pob pwnc perthnasol yn cael ei drafod.<\/p>\n<p>Mae llenwi&#8217;r ffurflen yn feddylgar ac yn onest yn hollbwysig, gan y bydd yn dylanwadu ar deimlad a chyfeiriad cyffredinol y cyfarfod. Wrth wneud hynny, dylech chi ystyried cyfeirio at yr amcanion y gwnaethoch chi gytuno arnyn nhw yn ystod eich cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad diwethaf, <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/manage-people-and-projects\/recruitment-and-immigration\/creating-the-role\/writing-a-job-description\/generic-job-descriptions\">y disgrifiad o\u2019ch swydd<\/a> a\u2019r meini prawf ar gyfer <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/academic-staff\">Academydd Caerdydd<\/a> a <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/promotions-and-banding\/academic-promotion\/apply-for-academic-promotion\">dyrchafiadau academaidd<\/a>, gan gynnwys y <a href=\"https:\/\/researcherdevelopmentconcordat.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/Y-Concordat-Hybu-Datblygiad-Gyrfa-Ymchwilwyr-2019.pdf\">Concordat Datblygu Ymchwilwyr<\/a>. Gallwch chi ddod o hyd i\u2019r ffurflen, gan gynnwys canllawiau pellach, ar y fewnrwyd <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/training-and-development\/your-performance\/how-pdr-works\/forms\">yma<\/a>. Ar \u00f4l i chi lenwi\u2019r ffurflen, bydd angen i chi ei chyflwyno i&#8217;r adolygydd o leiaf wythnos cyn eich cyfarfod fel bod ganddo amser i\u2019w darllen a\u2019i hystyried.<\/p>\n<p><strong>Y CYFARFOD<\/strong> \u2013 Y cyfarfod sydd wrth wraidd y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad. Yn ystod y cyfarfod hwn, byddwch chi a\u2019r adolygydd yn cael trafodaeth ddwyffordd ynghylch eich gwaith a\u2019ch datblygiad dros y 12 mis diwethaf. Bydd yr adolygydd yn eich annog i rannu eich meddyliau a\u2019ch adborth ar sail yr amcanion y gwnaethoch chi gytuno arnyn nhw\u2019n flaenorol, cyn rhannu ei asesiad ei hun. Gyda&#8217;ch gilydd, byddwch chi\u2019n gwerthuso eich cynnydd, yn cydnabod eich cyflawniadau ac yn ystyried eich sefyllfa bresennol yn y gwaith (gan gynnwys unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai fod wedi cael effaith arnoch chi). Mae unrhyw newidiadau mewn perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf yn cael eu hystyried drwy roi adborth i&#8217;ch helpu i ddeall beth rydych chi&#8217;n ei wneud yn dda neu beth y gallech chi ei wella. Bydd y cyfarfod hefyd yn rhoi cyfle i chi gynllunio a thrafod gweithgareddau yn y dyfodol ar gyfer datblygu eich gyrfa a datblygu eich hun yn broffesiynol yn unol \u00e2\u2019ch dyheadau, gan gynnwys ystyried eich lles personol.<\/p>\n<p>Dylech chi dreulio cyfran dda o&#8217;r cyfarfod yn canolbwyntio ar baratoi a chytuno ar amcanion SMART i lywio eich gwaith dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys dogfennu unrhyw nodau a allai fod gennych chi ar gyfer datblygu eich gyrfa a datblygu eich hun yn broffesiynol. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cyfrannu at y broses hon cymaint \u00e2 phosib! Bydd amcanion cadarn ac ystyriol yn sicrhau eich bod chi a\u2019ch rheolwr llinell yn deall beth a ddisgwylir gennych chi yn y gwaith.<\/p>\n<p>Yn olaf, mae\u2019n bwysig nodi nad rhywbeth sy\u2019n digwydd unwaith y flwyddyn yw\u2019r drafodaeth hon. Dylai eich cyfarfod arwain at drafodaethau dilynol drwy gydol y flwyddyn ynghylch cynnydd neu flaenoriaethau sy\u2019n datblygu a newidiadau mewn amgylchiadau unigol. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfarfod ar gael <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/how-pdr-works\/the-pdr-meeting\">yma<\/a>.<\/p>\n<h2>Elwa i\u2019r eithaf o\u2019r cyfarfod<\/h2>\n<p><strong>Cyn y cyfarfod<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ystyriwch eich cyflawniadau:<\/strong> Bydd aelod o\u2019r staff sy\u2019n gallu crynhoi ei gyflawniadau a thynnu sylw at faterion pwysig i\u2019w trafod yn helpu\u2019r adolygydd i roi adborth mwy ystyrlon a defnyddiol. Cymerwch amser i ystyried eich cyflawniadau, gan gynnwys nodi amcanion rydych chi wedi\u2019u cyflawni a chyfraniadau sylweddol rydych chi wedi\u2019u gwneud.<\/li>\n<li><strong>Paratowch dystiolaeth:<\/strong> Casglwch dystiolaeth sy\u2019n cefnogi eich cyflawniadau. Gallai tystiolaeth o\u2019r fath gynnwys cyhoeddiad, cyflwyniad, cais am grant neu adborth cadarnhaol gan gydweithwyr.<\/li>\n<li><strong>Nodwch heriau:<\/strong> Byddwch yn onest o ran unrhyw heriau rydych chi wedi\u2019u hwynebu, ac ystyriwch sut y gallech chi fod wedi mynd i\u2019r afael \u00e2 nhw\u2019n wahanol.<\/li>\n<li><strong>Gosodwch nodau ar gyfer y dyfodol:<\/strong> Ystyriwch eich dyheadau gyrfaol a nodau realistig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Sicrhewch fod y nodau hyn yn bodloni meini prawf SMART. Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ystyried (e.e. ymchwil newydd, llwybr gyrfaol gwahanol)? Os felly, efallai y byddwch chi am ofyn cyngor yr adolygydd yn ystod y cyfarfod.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Yn ystod y cyfarfod<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Byddwch yn agored ac yn onest:<\/strong> Ewch ati i gael sgwrs agored a gonest gyda\u2019r adolygydd. Manteisiwch ar y cyfle i drafod eich cyflawniadau, unrhyw gyfyngiadau neu broblemau ac unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol ers eich cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad diwethaf. Tynnwch sylw hefyd at unrhyw broblemau o ran eich llwyth gwaith y gallai fod angen cymorth arnoch chi i ymdrin \u00e2 nhw. Dylech chi osod a chytuno ar amcanion realistig a SMART.<\/li>\n<li><strong>Gwrandewch yn astud:<\/strong> Talwch sylw i adborth yr adolygydd. Gofynnwch am eglurhad os bydd angen. Ystyriwch hefyd eu hawgrymiadau\u2019n feddylgar.<\/li>\n<li><strong>Trafodwch eich datblygiad:<\/strong> Dylech chi ystyried effaith ac effeithiolrwydd gweithgareddau dysgu a datblygu a chynllunio gweithgareddau dysgu a datblygu yn y dyfodol, gan ystyried eich anghenion a\u2019ch dyheadau gyrfaol. Peidiwch ag anghofio gwneud unrhyw <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/training-courses\/mandatory-training\">hyfforddiant gorfodol<\/a>. Byddwch yn barod i gytuno ar amserlen i wneud hyn.<\/li>\n<li><strong>Trafodwch eich lles:<\/strong> Peidiwch ag ofni trafod eich lles ac unrhyw bryderon a allai fod gennych chi. Mae eich cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn gyfle gwych i godi unrhyw broblemau a cheisio cymorth os bydd angen.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Ar \u00f4l y cyfarfod<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ystyriwch yr adborth:<\/strong> Ystyriwch yr adborth a gawsoch chi yn ystod y cyfarfod yn ofalus. Ystyriwch sut y gall eich helpu i wella a datblygu.<\/li>\n<li><strong>Cwblhewch y gwaith papur:<\/strong> Dylech chi gytuno ar yr amcanion ac ychwanegu unrhyw sylwadau yn adran 2.4 (\u2018Sylwadau\u2019) o\u2019r ffurflen. Ar \u00f4l hynny, dylech chi lofnodi a dyddio\u2019r ffurflen a\u2019i dychwelyd at yr adolygydd. Cadwch gopi digidol neu gopi ar bapur i chi\u2019ch hun er mwyn i chi allu cyfeirio ato yn y dyfodol.<\/li>\n<li><strong>Paratowch gynllun gweithredu:<\/strong> Cymerwch unrhyw gamau gweithredu y gwnaethoch chi gytuno arnyn nhw yn y cyfarfod. Paratowch gynllun gweithredu clir i\u2019ch helpu i gyflawni eich amcanion, gan nodi\u2019r camau y mae angen i chi eu cymryd, yr adnoddau sydd eu hangen arnoch chi ac unrhyw heriau y gallech chi eu hwynebu.<\/li>\n<li><strong>Cymerwch unrhyw gamau dilynol:<\/strong> Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd \u00e2&#8217;r adolygydd i drafod eich cynnydd a cheisio adborth ychwanegol os bydd angen.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Y Concordat Datblygu Ymchwilwyr:<\/h2>\n<p>Mae egwyddorion y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn cyd-fynd yn agos \u00e2 rhai\u2019r Concordat Datblygu Ymchwilwyr, gan ei bod yn ceisio helpu ymchwilwyr i ddatblygu\u2019n broffesiynol a sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu. Mae\u2019r broses hon yn galluogi sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i\u2019r Concordat drwy gefnogi gyrfaoedd a lles ymchwilwyr yn glir a meithrin amgylchedd sy\u2019n annog adborth a thwf proffesiynol. Drwy gymryd rhan yn y broses, rydych chi\u2019n cyfrannu at yr amcanion ehangach hyn ac yn cymryd cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol.<\/p>\n<p>Mae disgwyl i ymchwilwyr gyfeirio at y <a href=\"https:\/\/researcherdevelopmentconcordat.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/Y-Concordat-Hybu-Datblygiad-Gyrfa-Ymchwilwyr-2019.pdf\">Concordat Datblygu Ymchwilwyr<\/a> yn rhan o\u2019u hunanasesiad yn ystod y broses. Mae\u2019r Concordat Datblygu Ymchwilwyr yn nodi bod yn rhaid i ymchwilwyr, wrth gymryd rhan mewn adolygiadau datblygu gyrfa, wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Cymryd cyfrifoldeb am eu gyrfaoedd a nodi cyfleoedd i weithio tuag at eu nodau gyrfaol, gan gynnwys ymgymryd ag o leiaf 10 diwrnod o ddatblygiad proffesiynol bob blwyddyn, pro-rata<\/li>\n<li>Cadw cynllun datblygu gyrfa proffesiynol a\u2019i ddiweddaru\u2019n rheolaidd, gan gynnwys datblygu portffolio o dystiolaeth sy\u2019n dangos eu profiad, a all gael ei ddefnyddio i ategu ceisiadau am swyddi<\/li>\n<li>Chwilio am gyfleoedd i ddatblygu eu hunaniaeth ymchwil a sgiliau arwain ehangach, a manteisio ar gyfleoedd o\u2019r fath<\/li>\n<li>Ystyried cyfleoedd i ddatblygu eu hymwybyddiaeth a\u2019u profiad o\u2019r system ymchwil ehangach drwy, er enghraifft, gyfnewid gwybodaeth, datblygu polis\u00efau, ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd a masnacheiddio<\/li>\n<li>Ystyried a pharatoi ar gyfer amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth mewn sectorau gwahanol drwy, er enghraifft, fanteisio ar fentoriaid, gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol, hyfforddiant a secondiadau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd rheolwyr llinell ac adolygwyr eraill yn y Brifysgol yn gallu cael gwybodaeth am y Concordat Datblygu Ymchwilwyr a dolen i\u2019r adran sy\u2019n rhoi gwybodaeth am eu cyfrifoldebau.<\/p>\n<h2>Adnoddau ategol<\/h2>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=e7bade4e-bf8d-44a4-8050-bf6dd6937f90\">Gosod amcanion a rhoi adborth<\/a> \u2013 eich helpu i ddeall pwysigrwydd gosod amcanion<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/academic-staff\">Academydd Caerdydd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/research-careers\">Rhaglen Ymchwilydd Caerdydd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/home-2\/\">Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<h2>Canllawiau defnyddiol ar y fewnrwyd ar y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad<\/h2>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/about-the-scheme\">Gwybodaeth am y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/pdr-in-2024\">Adolygu Datblygiad a Pherfformiad 2025<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/how-pdr-works\">Sut mae&#8217;r broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn gweithio?<\/a>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/how-pdr-works\/forms\">Llenwi\u2019r ffurflen Adolygu Datblygiad a Pherfformiad<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/how-pdr-works\/the-pdr-meeting\">Y cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/how-pdr-works\/development-planning\">Cynllunio datblygiad<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/help-for-reviewees\">Cael y gorau o\u2019r cyfarfod Adolygu Datblygiad a Pherfformiad<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/help-for-reviewees\/pdr-reviewee-guidance-for-research-only-staff\">Cael y gorau o\u2019r broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad, i ymchwilwyr<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/help-for-reviewers\">Canllawiau ar y broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad i reolwyr<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Nid yw\u2019r broses Adolygu Datblygiad a Pherfformiad yn rhywbeth sy\u2019n cyffroi pobl fel arfer, ond mae\u2019r broses ei hun ac ychydig bach o ymdrech ymlaen llaw gennych chi\u2019n eich helpu [&hellip;]","protected":false},"author":7011,"featured_media":272,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[67,71,65],"tags":[],"class_list":["post-356","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cydnabyddiaeth-gwobr-a-dyrchafiad","category-datblygu-gyrfa","category-hyrwyddo-datblygiad-proffesiynol"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/356","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7011"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=356"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/356\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":410,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/356\/revisions\/410"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media\/272"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=356"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=356"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=356"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}