{"id":170,"date":"2025-09-23T16:44:54","date_gmt":"2025-09-23T15:44:54","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/?p=170"},"modified":"2026-03-05T14:14:06","modified_gmt":"2026-03-05T14:14:06","slug":"datblygiad-proffesiynol-parhaus-ar-ymrwymiad-10-diwrnod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/cy\/datblygiad-proffesiynol-parhaus-ar-ymrwymiad-10-diwrnod\/","title":{"rendered":"Datblygiad Proffesiynol Parhaus a\u2019r ymrwymiad \u201810 Diwrnod\u2019"},"content":{"rendered":"<h2>Yr Ymrwymiad 10 Diwrnod i DPP Staff Ymchwil<\/h2>\n<p>Mae Prifysgol Caerdydd, a hithau\u2019n un o lofnodwyr y <a href=\"https:\/\/researcherdevelopmentconcordat.ac.uk\/\">Concordat Cefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr<\/a>, wedi ymrwymo i sicrhau bod ein staff ymchwil yn cymryd rhan mewn o leiaf <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/research-support\/how-we-support-research-staff\/professional-and-career-development-for-researchers\/meeting-your-development-needs\/10-day-cpd-commitment\">10 diwrnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP)<\/a> pro rata bob blwyddyn. Mae bodloni&#8217;r ymrwymiad hwn yn gyfrifoldeb ar y cyd rhyngoch chi (yr ymchwilydd), eich rheolwr(wyr) a&#8217;r sefydliad.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ymrwymiad Sefydliadol<\/strong> &#8211; Mae\u2019r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd, cymorth strwythuredig, anogaeth ac amser i staff ymchwil gymryd rhan mewn o leiaf 10 diwrnod o ddatblygiad proffesiynol pro rata y flwyddyn, gan gydnabod y bydd ymchwilwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn ystod eang o sectorau cyflogaeth.<\/li>\n<li><strong>Ymrwymiad y Rheolwyr<\/strong> &#8211; Byddwn yn cefnogi rheolwyr staff ymchwil yng Nghaerdydd i fodloni eu rhwymedigaeth i neilltuo isafswm o 10 diwrnod y flwyddyn pro rata er mwyn i ymchwilwyr ymgymryd \u00e2 datblygiad proffesiynol, gan gefnogi ymchwilwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng cyflawni eu hymchwil a\u2019u datblygiad proffesiynol eu hunain.<\/li>\n<li><strong>Ymrwymiad yr Ymchwilwyr<\/strong> &#8211; Er mwyn elwa&#8217;n llawn ar yr ymrwymiad sefydliadol, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud defnydd llawn o&#8217;r amser a neilltuir a manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir ichi ymgymryd ag ystod o weithgareddau datblygu. Mae&#8217;r Concordat yn gofyn bod yr holl staff ymchwil yn cymryd perchnogaeth ar eu gyrfa, gan adnabod y cyfleoedd i weithio tuag at eu hamcanion gyrfaol. I gefnogi hyn, anogir staff ymchwil i gynnal cynllun datblygu gyrfaol cyfoes a chreu portffolio o dystiolaeth sy&#8217;n dangos eu profiad y gellir wedyn ei ddefnyddio wedyn i gefnogi ceisiadau am swyddi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Efallai y bydd datblygiad proffesiynol 10 diwrnod yn ymddangos yn llawer, ac efallai mai eich cwestiwn cyntaf fydd \u201cSut ar y ddaear bydda i&#8217;n mynd i allu gwneud hynny?\u201d. Ond mae&#8217;n haws na\u2019r hyn a dybiwch, yn enwedig unwaith y byddwch chi\u2019n deall nad yw pob datblygiad yn seiliedig ar y dysgu cydamserol traddodiadol mewn &#8216;ystafell ddosbarth&#8217;! Mae&#8217;r adran nesaf yn ymchwilio ychydig yn ddyfnach i&#8217;r hyn yw &#8216;datblygiad&#8217; go iawn a\u2019n gobaith yw y bydd yn eich ysbrydoli i fod ychydig yn fwy creadigol wrth ymgymryd \u00e2\u2019ch DPP.<\/p>\n<h2>Pa fathau o DPP sydd ar gael?<\/h2>\n<p>Isod ceir trosolwg o&#8217;r mathau o weithgarwch datblygu proffesiynol a fydd o fudd i chi\u2019r ymchwilydd yn eich r\u00f4l bresennol ac i gyrraedd eich dyheadau gyrfaol yn y dyfodol. Ynghyd \u00e2&#8217;r adnoddau cynllunio DPP a grybwyllir yn y blog diwethaf (Gwyliwch y Bwlch! \u2013 asesu a mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;ch anghenion datblygu), bydd y trosolwg hwn yn eich helpu i ddewis ystod amrywiol o weithgareddau i ddiwallu eich anghenion datblygu ac i feddwl sut y gallwch fanteisio&#8217;n llawn ar yr isafswm o 10 diwrnod a ddyrennir ichi bob blwyddyn i wneud datblygiad proffesiynol parhaus.<\/p>\n<h3>Dysgu Ffurfiol<\/h3>\n<p>Mae&#8217;n debyg mai dysgu ffurfiol yw&#8217;r math o weithgarwch datblygu mae pob un ohonon ni fwyaf cyfarwydd ag ef, a&#8217;r un sy&#8217;n gysylltiedig agosaf \u00e2&#8217;r term &#8216;hyfforddi a datblygu&#8217;. Fel arfer, bydd y rhain yn gyfleoedd diffiniedig i gael gwybodaeth a sgiliau newydd, gyda&#8217;r nod o feithrin capasiti at y gwaith dan sylw, yn ogystal \u00e2\u2019ch rhagolygon cyflogi presennol ac yn y dyfodol. Yn gyffredinol, rydyn ni\u2019n eu hystyried yn weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth dan arweiniad addysgwr\/hyfforddwr neu d\u00eem o hyfforddwyr.<\/p>\n<p>Yn achos gweithgareddau dysgu ffurfiol, fel arfer byddech chi\u2019n disgwyl gwybod pa rai yw\u2019r canlyniadau neu\u2019r amcanion dysgu cyn ichi gymryd rhan. Ymhlith y gweithgareddau yn y categori hwn hwyrach bydd cyrsiau byr \u201csut i\u201d i helpu i ddatblygu sgil benodol, neu hwyrach eu bod yn rhaglenni gweithgarwch tymor hwy sy&#8217;n arwain at ddatblygu sgiliau meddal yn ehangach, megis arweinyddiaeth. Efallai yn rhan o hyn bydd dysgu wedi&#8217;i gyfarwyddo neu wedi&#8217;i hwyluso mewn gr\u0175p a gyflwynir yn fyw (yn gydamserol) naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, neu hwyrach eu bod yn fodiwlau anghydamserol &#8216;hunanwasanaethu&#8217; (ar-lein yn gyffredinol) ichi eu cwblhau wrth eich pwysau eich hun.<\/p>\n<p>Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu ffurfiol i staff ymchwil:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/research-careers\/cardiff-researcher-programme\">Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Caerdydd<\/a> &#8211; Ein rhaglen o hyfforddi a datblygu i staff a gyflogir ar lwybr gyrfaol ymchwil yn unig.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/training-courses\">Rhaglen Datblygu Staff<\/a> &#8211; Cyrsiau a rhaglenni i\u2019r holl staff, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/training-courses\/mandatory-training\">hyfforddiant gorfodol<\/a> a <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/training-courses\/leadership-and-management\">datblygu arweinyddiaeth a rheoli<\/a>.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/learning-and-teaching-development\/about-the-cardiff-learning-and-teaching-academy\">Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd<\/a> &#8211; Cymorth i addysgwyr ddatblygu eu hunain, sy&#8217;n cynnwys cynllun achrededig <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/awards-and-recognition\/cardiff-university-education-fellowship-programmes\">Rhaglen Cymrodyr Cyswllt Prifysgol Caerdydd<\/a> i\u2019r rheini sydd newydd ymuno \u00e2 byd addysgu, yn enwedig felly staff ymchwil sy&#8217;n ymgymryd ag addysgu\u2019n achlysurol.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/research-careers\/fellowship-support\/fellowship-support-programme-fsp\">Rhaglen Gymorth i Gymrodyr<\/a> rhaglen gymorth gynhwysfawr i ddarpar gymrodyr ymchwil a fydd yn rhoi&#8217;r cymorth a&#8217;r gefnogaeth angenrheidiol ichi ysgrifennu cynnig cystadleuol ar gyfer cymrodoriaeth.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/research-careers\/public-engagement-programme-2026\">Rhaglen Cyfnewid Gwybodaeth a Datblygu Effaith<\/a> &#8211; Rhaglen hyblyg i&#8217;ch helpu i ddatblygu sgiliau cyfnewid gwybodaeth, effaith, ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyhoedd, datblygu masnachol a dylanwadu ar bolisi cyhoeddus.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/other-staff-development-opportunities\/apprenticeships\">Prentisiaethau\u2019r gweithle i staff<\/a> &#8211; Mae prentisiaethau yn y gweithle yn rhoi\u2019r cyfle i staff gyfuno datblygu sgiliau yn y gweithle \u00e2 dysgu i ffwrdd o\u2019r swydd. Yn y cynllun hwn, caiff pob aelod o staff gyrchu cyfleoedd datblygu mewn ystod eang o feysydd, e.e. dadansoddi data, y cyfryngau cymdeithasol, cyllid a bydd yn caniat\u00e1u i\u2019r sawl sy\u2019n cymryd rhan weithio hyd at lefel 7, neu\u2019r hyn sydd gyfwerth \u00e2 gradd meistr.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/wellbeing-and-support\/wellbeing-support-for-staff\/workshops\">Gweithdai lles<\/a> &#8211; Gweithdai dan ofal T\u00eem Lles y Staff am yr anawsterau cyffredin gan gynnwys rheoli straen ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl.<\/li>\n<li>Cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ffurfiol mewn cydweithrediad \u00e2 phrifysgolion sy\u2019n bartneriaid (gan gynnwys <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/training-courses\/elevate-programme\">Elevate<\/a>, <a href=\"https:\/\/gw4.ac.uk\/gw4-crucible\">Crwsibl y GW4<\/a>, <a href=\"https:\/\/welshcrucible.org.uk\/cy\/home-hafan-cymraeg\/\">Crwsibl Cymru<\/a>, ac ati).<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ymhlith y mathau eraill o hyfforddi a datblygu ffurfiol y mae:<\/p>\n<ul>\n<li>hyfforddiant sgiliau ymchwil a rhaglenni achrededig<\/li>\n<li>sesiynau briffio neu weithdai gan arbenigwyr\/cyrff proffesiynol\/Cymdeithasau Dysgedig ac ati.<\/li>\n<li>gweminarau a\/neu ymweliadau gan gyllidwyr<\/li>\n<li>hyfforddiant gan olygyddion cyfnodolion\/adolygwyr sy\u2019n gymheiriaid<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Dysgu anffurfiol<\/h3>\n<p>Er bod DPP yn gysylltiedig amlaf \u00e2 mathau mwy ffurfiol o ddysgu, mae <strong>gweithgareddau dysgu anffurfiol<\/strong>, megis dysgu gan bobl eraill a dysgu drwy wneud, hefyd yn ddulliau datblygu pwysig. Y rhan orau yw eich bod yn debygol iawn o fod yn cymryd rhan mewn llawer o&#8217;r gweithgareddau hyn eisoes! Fodd bynnag, efallai na fyddwch chi\u2019n cael y budd mwyaf ganddyn nhw os na fyddwch chi\u2019n cymryd yr amser <strong>i fyfyrio<\/strong> <strong>ar eu perthnasedd<\/strong> i ddatblygiad ymchwilydd neu <strong>fynegi eich barn<\/strong> am y rhain. Er enghraifft, hwyrach y bydd cyflwyno mewn cynhadledd fawr ac uchel ei bri yn rhoi\u2019r cyfle ichi ymarfer eich sgiliau cyflwyno (dysgu drwy wneud), datblygu eich rhwydwaith (dysgu drwy wneud) a dysgu gan ymchwilwyr mwy profiadol (dysgu gan bobl eraill). At hynny, efallai y bydd myfyrio ar weithgareddau dysgu anffurfiol yn gyfle ichi ddod o hyd i ragor o fylchau yn eich gwybodaeth a&#8217;ch sgiliau, a thrwy hynny yn eich helpu i ganfod anghenion hyfforddiant a datblygu ychwanegol!<\/p>\n<h4>Dysgu anffurfiol: Dysgu gan bobl eraill<\/h4>\n<p>Bydd gweithio gyda phobl eraill a dysgu oddi wrthyn nhw\u2019n rhoi persbectif newydd ichi, gan eich annog i ystyried ffyrdd gwahanol o weithio a meddwl a defnyddio\u2019n rhain yn ehangach yn eich ymchwil a&#8217;ch gyrfa.<\/p>\n<p>Manteisiwch ar y cyfleoedd i ryngweithio ag ystod o bobl, arsylwi\u2019r hyn a wn\u00e2n nhw, dysgu oddi wrthyn nhw a\u2019u hefelychu, gan gynnwys aelodau eraill o\u2019r staff, uwch-aelodau a chydweithwyr mewn meysydd neu sectorau eraill, gyda&#8217;r nod o ehangu eich gorwelion mewn ffyrdd newydd. Os na fydd y cyfleoedd hynny&#8217;n ymddangos, ewch ati i\u2019w creu! Hwyrach mai rhywbeth eithaf syml fydd hyn megis trefnu ymweliad ymchwil \u00e2 gr\u0175p mewn sefydliad arall, mynd i seminarau adrannol neu efallai cynhadledd fwy ei maint neu lunio prosiect ymchwil ar y cyd. Efallai y bydd &#8216;dysgu gan bobl eraill&#8217; hefyd yn sail i drefniadau mwy ffurfiol, fel cynlluniau mentora a gweithgareddau rhwydweithio, ond y prif wahaniaeth rhwng hyn a dysgu ffurfiol yw bod dysgu gan bobl eraill yn brofiad mwy personol a phwrpasol ar y cyfan.<\/p>\n<p>Ymhlith enghreifftiau &#8216;dysgu gan bobl eraill&#8217; y mae:<\/p>\n<ul>\n<li>cymryd rhan mewn <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/other-staff-development-opportunities\/mentoring\/academic-staff-mentoring-programme\">mentora<\/a> (does dim rhaid i hyn ddigwydd drwy gynllun mentora ffurfiol, ond bydd hyn weithiau\u2019n haws os yw eich rhwydwaith ond megis dechrau)<\/li>\n<li>hyfforddi 1 a 1 a chyngor unigol (e.e., ymgynghoriad gyrfaol)<\/li>\n<li>dysgu cymheiriad i gymheiriad (e.e. cymryd rhan mewn clybiau cyfnodolion)<\/li>\n<li>ymweld \u00e2 chydweithwyr allanol<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/research-support\/how-we-support-research-staff\/professional-and-career-development-for-researchers\/identifying-needs-and-reflecting-on-your-development\/professional-networks-and-networking\">rhwydweithio<\/a><\/li>\n<li>cymryd rhan mewn cynadleddau ymchwil a\/neu ddysgu ac addysgu<\/li>\n<li>cymryd rhan mewn cynlluniau symudedd<\/li>\n<li>cymryd rhan mewn gweithgareddau lles yn y gwaith<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Dysgu anffurfiol: Dysgu drwy wneud<\/h4>\n<p>Efallai bod datblygu eich sgiliau ac ennill profiad yn sgil \u2018dysgu drwy wneud\u2019 yn rhywbeth bwriadol (e.e. cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd, gan eich bod yn gwybod y bydd angen profiad o\u2019r fath arnoch yn eich swydd nesaf neu hwyrach ei fod yn rhywbeth sy\u2019n digwydd ar hap (e.e. cymryd lle cydweithiwr prysur). Waeth pa un ydyw, yn aml dyma&#8217;r ffordd orau ichi ymgymryd a dysgu trochi ac, i lawer o bobl, y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn cadw ac adalw&#8217;r hyn sy&#8217;n cael ei ddysgu. Os ydych chi\u2019n awyddus i ymestyn eich hun yn eich swydd bresennol yna bachwch unrhyw gyfleoedd &#8216;ar y swydd&#8217; a fydd yn eich galluogi i wneud tasgau a gweithgareddau newydd sydd y tu allan i&#8217;ch gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd (a&#8217;r hyn sy\u2019n gyfarwydd iawn ichi!), gyda&#8217;r nod o ehangu a datblygu eich gyrfa.<\/p>\n<p>Ymhlith yr enghreifftiau o &#8216;ddysgu drwy wneud&#8217; y mae:<\/p>\n<ul>\n<li>trefnu a\/neu siarad mewn seminarau a chynadleddau<\/li>\n<li>cadeirio paneli<\/li>\n<li>gwneud cais am gyllid (gan gynnwys cyllid annibynnol at ddibenion cymrodoriaeth)<\/li>\n<li>addysgu, darlithio, arddangos ac asesu<\/li>\n<li>cyfrannu at oruchwylio doethurol<\/li>\n<li>ymgymryd \u00e2 gweithgareddau ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyhoedd, allgymorth ac ehangu cyfranogiad<\/li>\n<li>ymgymryd \u00e2 rolau gwasanaeth\/arweinyddiaeth, e.e. pwyllgorau adrannol, cymdeithasau, ac ati.<\/li>\n<li>meithrin partneriaethau a phrosiectau rhyngwladol a chyfrannu atyn nhw<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Y negeseuon pwysicaf un&#8230;<\/h2>\n<ul>\n<li><strong>Cymerwch eich amser <\/strong>i ddod o hyd i\u2019r ystod o sgiliau, y rhinweddau, y mathau o ymddygiad a\u2019r diddordebau sydd gennych eisoes, y rheini rydych chi\u2019n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd, a\u2019r rheini yr hoffech chi eu hennill.<\/li>\n<li><strong>Cymerwch ran ym mhob un o&#8217;r 3 math o ddysgu<\/strong> i ehangu eich datblygiad (peidiwch ag anghofio gofyn yn eich coleg, ysgol ac adran am gyfleoedd datblygu lleol!)<\/li>\n<li><strong>Myfyrio ar <\/strong>y gweithgareddau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y byddwch chi\u2019n ymgymryd \u00e2 nhw <strong>a\u2019u cofnodi<\/strong> er mwyn <strong>gwerthfawrogi&#8217;n llawn eu perthnasedd i&#8217;ch datblygiad<\/strong>. Efallai na fyddwch chi&#8217;n cael y budd mwyaf ohonyn nhw fel arall!<\/li>\n<\/ul>\n<p>Bydd offer fel <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/home-2\/\">Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.vitae.ac.uk\/researchers-professional-development\/about-the-vitae-researcher-development-framework\">Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae<\/a>, a <a href=\"https:\/\/prosper.liverpool.ac.uk\/\">Phorth Prosper<\/a> yn ddefnyddiol i&#8217;ch helpu i ganfod a mynegi\u2019r sgiliau rydych chi wedi&#8217;u datblygu drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau y byddwch chi fel arfer yn eu cymryd yn ganiataol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yr Ymrwymiad 10 Diwrnod i DPP Staff Ymchwil Mae Prifysgol Caerdydd, a hithau\u2019n un o lofnodwyr y Concordat Cefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr, wedi ymrwymo i sicrhau bod ein staff ymchwil [&hellip;]","protected":false},"author":7011,"featured_media":190,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[71,69,65],"tags":[],"class_list":["post-170","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-datblygu-gyrfa","category-gyrfaoedd-amrywiol","category-hyrwyddo-datblygiad-proffesiynol"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/170","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7011"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=170"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/170\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":483,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/170\/revisions\/483"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media\/190"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=170"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=170"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=170"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}