{"id":166,"date":"2025-07-23T12:48:38","date_gmt":"2025-07-23T11:48:38","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/?p=166"},"modified":"2026-03-05T14:07:54","modified_gmt":"2026-03-05T14:07:54","slug":"llenwir-bylchau-mynd-ir-afael-ach-anghenion-datblygu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/cy\/llenwir-bylchau-mynd-ir-afael-ach-anghenion-datblygu\/","title":{"rendered":"Llenwi\u2019r Bylchau! \u2013 Mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;ch anghenion datblygu"},"content":{"rendered":"<p><strong>Wrth ichi gynllunio eich gyrfa academaidd lwyddiannus, ddylech chi byth ddiystyru defnyddioldeb deall yr hyn nad ydych chi\u2019n ei wybod, neu&#8217;r hyn na allwch chi ei wneud hyd yn hyn!<\/strong><\/p>\n<p>Mewn blog blaenorol (<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/cy\/blog-rheoli-eich-gyrfa-ymchwil\/\">Rheoli eich Gyrfa Ymchwil<\/a>), buon ni\u2019n trafod sut y gall fframweithiau rheoli gyrfa, megis GROW, eich cynorthwyo i gymharu\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau y bydd eu hangen arnoch er mwyn cyflawni NODAU gyrfaol yn y dyfodol \u00e2\u2019r rheini sydd gennych ar hyn o bryd yn eich REALITI presennol, a thrwy hynny eich helpu i wybod a oes bylchau yno. Bydd y gweithgarwch hwn, sef &#8216;Dadansoddiad o\u2019r Anghenion Hyfforddi&#8217; (DAH) neu &#8216;Ddadansoddiad Anghenion Datblygu&#8217; (DAD), yn eich galluogi i adnabod eich OPSIYNAU datblygu er mwyn llenwi&#8217;r bylchau hynny a DATBLYGU eich gyrfa.<\/p>\n<p>A chithau\u2019n ymchwilydd yng Nghaerdydd sy\u2019n edrych ymlaen at yrfa academaidd, dylech chi fod yn ymwybodol o\u2019r disgwyliadau yn eich r\u00f4l bresennol a\u2019r rolau rydych chi\u2019n anelu atynt yn y dyfodol yn y cyd-destun academaidd a amlinellir yn Nisgwyliadau Perfformiad <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/academic-staff\">Academydd Caerdydd<\/a>. Gall y disgwyliadau hyn, ynghyd \u00e2 meini prawf <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/promotions-and-banding\/academic-promotion\">Cynllun Dyrchafiadau Academaidd<\/a> y Brifysgol, gefnogi eich datblygiad gyrfaol drwy roi syniad clir ichi o\u2019r lefel y dylech chi fod arni ar hyd pob cam o\u2019r ysgol yrfaol academaidd a\u2019r gweithgareddau sy\u2019n gymesur \u00e2 phob un o&#8217;r rolau hynny. Bydd cael yr wybodaeth hon yn eich helpu i osod y nodau y bydd eu hangen arnoch chi er mwyn naill ai gweithio tuag at ddatblygu eich r\u00f4l bresennol i fanteisio ar eich perfformiad, neu baratoi ar gyfer eich r\u00f4l nesaf drwy ehangu eich profiad a\u2019ch enw da, gan sicrhau y gallwch gyrraedd pob un o\u2019r meincnodau angenrheidiol o ran cymwyseddau pan ddaw&#8217;r amser.<\/p>\n<h2>Sut i lenwi bylchau<\/h2>\n<p>Felly, beth wnewch chi os bydd eich DAH\/DAD yn datgelu bylchau yn eich gwybodaeth a&#8217;ch set sgiliau? Yn gyntaf, peidiwch \u00e2 mynd i banig! Mae\u2019n digwydd i bawb! Cofiwch ei fod yn gynnar o hyd yn eich gyrfa a does neb yn disgwyl ichi wybod popeth. Fodd bynnag, dylech chi fod yn rhagweithiol wrth fynd i&#8217;r afael a\u2019r bylchau rydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw, yn enwedig y rheini sy&#8217;n bwysig ichi yn eich swydd bresennol. Gallwch chi wneud hyn yn effeithiol yn sgil <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/other-staff-development-opportunities\/continuing-professional-development\">Datblygiad Proffesiynol Parhaus<\/a>, neu DPP.<\/p>\n<p>Diben y DPP yw cynnal a datblygu&#8217;r wybodaeth a&#8217;r sgiliau sydd eu hangen i berfformio mewn cyd-destun proffesiynol, a hynny mewn ffordd fwriadol. Hwyrach y bydd hyn yn golygu meithrin yr wybodaeth a\u2019r sgiliau sydd gennych chi eisoes er mwyn gwella\u2019ch perfformiad, datblygu eich gwybodaeth a\u2019ch sgiliau cyfredol er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer r\u00f4l ehangach neu ddyrchafiad posibl, neu gael gwybodaeth a sgiliau cwbl newydd at ddibenion newid r\u00f4l (boed hynny yn y byd academaidd neu mewn sector gwahanol yn gyfan gwbl).<\/p>\n<p>Dylai&#8217;r DPP fod yn strategol yn hytrach nag yn un ad hoc. Peth rhwydd iawn yw cofrestru ar gyfer rhywbeth, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn y swydd ers amser maith a&#8217;ch bod o\u2019r farn eich bod eisoes wedi gwneud popeth perthnasol sydd ar gael (ac os yw hynny&#8217;n wir yn eich achos chi, yn y blog nesaf byddwn ni\u2019n edrych ar ystyr &#8216;datblygiad&#8217; go iawn fel y gallwch chi fod yn fwy creadigol o ran yr hyn rydych chi\u2019n ei wneud). Fel y soniwyd mewn blog blaenorol, anelwch at <strong>weithgaredd \u00e2 phwrpas<\/strong> o ran y DPP. Dyw hynny ddim yn golygu na allwch chi ymateb i anghenion sydyn, cyfleoedd neu chwilfrydedd, ond gwnewch yn si\u0175r eich bod yn blaenoriaethu amser ar gyfer y pethau hollbwysig os yw eich adnoddau&#8217;n rhai cyfyngedig.<\/p>\n<p>Bydd ceisio cyngor ac adborth gan ffynonellau dibynadwy, fel eich rheolwr llinell neu eich mentor, yn eich helpu i ddechrau ar eich DPP a\/neu eich cadw ar y trywydd iawn. Bydd y rhain yn sicrhau bod eich asesiad o&#8217;ch gwybodaeth a&#8217;ch sgiliau yn fanwl gywir, bod eich dyheadau yn rhai realistig ac yn gyraeddadwy, a&#8217;ch bod yn parhau i ganolbwyntio ar eich nod. Ac wrth gwrs, cewch hefyd ofyn am arweiniad gan y t\u00eem Datblygu Ymchwilwyr am y cyfleoedd datblygu sydd ar gael ichi, felly cysylltwch \u00e2 ni os bydd angen!<\/p>\n<h2>Cynllunio eich DPP<\/h2>\n<p>Dylai eich DPP fod yn hunangyfeiriedig yn bennaf, a dylai cynllun eich DPP fod yn bwrpasol ac yn benodol i chi a&#8217;ch sefyllfa. Wrth gynllunio eich DPP, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cynnwys mecanwaith adolygu fel y gallwch chi olrhain eich cynnydd ar hyd eich cynllun a sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn addas i&#8217;r diben o hyd o ran eich anghenion cyfnewidiol. Felly mae\u2019n bwysig eich bod bob amser yn cynnwys digon o amser i fyfyrio ar \u00f4l gwneud eich DPP (Beth ddysgoch chi? Sut gallwch chi ei ddefnyddio\u2019n ehangach? A yw wedi dangos unrhyw fylchau eraill?), a chadwch gofnod ysgrifenedig o&#8217;r holl gamau yn y DPP yn ogystal \u00e2&#8217;r dysgu sy\u2019n digwydd ynddo. Mae&#8217;n syndod pa mor gyflym y gallwn ni golli golwg ar yr hyn rydyn ni wedi&#8217;i wneud!<\/p>\n<p>Mae gan Brifysgol Caerdydd nifer o adnoddau a fframweithiau i helpu i gynllunio eich DPP, yn ogystal \u00e2 chyfoeth o adnoddau allanol sydd ar gael ichi.<\/p>\n<h4>Adnoddau a fframweithiau mewnol i&#8217;ch helpu i gynllunio&#8217;ch DPP<\/h4>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/career-directions-for-researchers\/cy\/home-2\/\">Llwybrau Gyrfa i Ymchwilwyr<\/a>\u00a0\u2013 Mae\u2019r adnodd hwn wedi\u2019i greu i ddarparu ystod o adnoddau dysgu gyrfa rhyngweithiol a diddorol ar gyfer Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ar Ddechrau eu Gyrfa, boed yn fyfyrwyr neu\u2019n staff.<\/li>\n<li>Mae gan <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/\">Dyfodol Myfyrwyr+<\/a> Prifysgol Caerdydd adnoddau gwych ar gyfer cynllunio gyrfaol, asesu eich sgiliau, a CVs a chyfweliadau. Mae&#8217;r tudalennau yn benodol ar gyfer myfyrwyr, ond maen nhw\u2019n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn berthnasol i ymchwilwyr ac academyddion hefyd. Cofiwch nad oes modd i staff gyrchu rhai o&#8217;r adnoddau a&#8217;r gwasanaethau (e.e. y gwasanaeth cyngor ar yrfaoedd).<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/other-staff-development-opportunities\/mentoring\/academic-staff-mentoring-programme\">Rhaglen Mentora Staff Academaidd<\/a> &#8211; Anelir y rhaglen mentora staff academaidd at y rheini sy&#8217;n dymuno canolbwyntio ar ddatblygiad gyrfaol a\/neu bersonol. Gallwch chi gynnig eich hun yn fentor neu\u2019n fentorai, neu&#8217;r ddau! Fel arfer, bydd y cynllun fel arfer yn anfon gwybodaeth yn yr Hydref felly cadwch lygad ar Viva Engage a Blas am ragor o wybodaeth.<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/academic-staff\">Adolygiad Datblygu Perfformiad (ADP)<\/a> \u2013 Cyfle mwy ffurfiol yw eich ADP ichi fyfyrio ar eich cyfraniad a\u2019ch datblygiad yn ystod y 12 mis diwethaf, ar eich r\u00f4l yn eich t\u00eem a\u2019ch adran, ac i edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod. Dylai cyfarfod yr ADP fod yn rhan o sgyrsiau parhaus, a bydd eich adolygwr yn eich annog i roi eich barn ar eich perfformiad yn unol \u00e2\u2019r amcanion a osodwyd, yn ogystal ag unrhyw feysydd i\u2019w gwella. I gael gwybodaeth am sut i gael y gorau o\u2019r ADP, ewch i&#8217;n <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/your-performance\/help-for-reviewees\/pdr-reviewee-guidance-for-research-only-staff\">tudalen ar y fewnrwyd<\/a>.<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Adnoddau allanol i&#8217;ch helpu i gynllunio eich DPP<\/h4>\n<p>Os hoffech chi gael cymorth manylach o ran eich anghenion a chynllunio\u2019ch datblygiad, efallai y bydd o gymorth ichi ystyried y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/prosper.liverpool.ac.uk\/\">Prosper<\/a> &#8211; Dull newydd o ddatblygu gyrfaol sy&#8217;n datgloi potensial \u2018ymchwilwyr \u00f4l-ddoethurol\u2019 i ffynnu mewn nifer wahanol o lwybrau gyrfaol yw Prosper. Y nod yn y pen draw yw agor y gronfa dalent enfawr sy&#8217;n bodoli ymhlith ymchwilwyr \u00f4l-ddoethurol y Brifysgol, a hynny er budd yr ymchwilwyr \u00f4l-ddoethurol eu hunain, rheolwyr ymchwilwyr a phrif ymchwilwyr, cyflogwyr, ac economi ehangach y DU.<\/li>\n<li>Cwrs mwy cynhwysfawr <a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/\">Vitae<\/a> ar-lein ar <a href=\"https:\/\/vitae.ac.uk\/resource\/you-and-your-development\/getting-started-with-professional-development-planning\/\">gynllunio datblygiad proffesiynol i ymchwilwyr<\/a>. Yn y cwrs hwn, sy\u2019n rhad ac am ddim i aelodau Vitae (mae gan Brifysgol Caerdydd aelodaeth sefydliadol, ond bydd gofyn ichi greu eich cyfrif rhad ac am ddim eich hun), ceir 5 modiwl a gallwch chi wneud y cwrs wrth eich pwysau eich hun.<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/www.vitae.ac.uk\/researchers-professional-development\/about-the-vitae-researcher-development-framework\/about-the-vitae-researcher-development-framework\">Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae<\/a> yn disgrifio\u2019r wybodaeth, yr arferion a\u2019r priodoleddau sydd gan ymchwilwyr llwyddiannus. Dyma adnodd cynhwysfawr y gellir ei ddefnyddio\u2019n rhan o adolygiad ysgafn neu ei gellir ei astudio\u2019n fanwl. Mae Vitae yn defnyddio&#8217;r Fframwaith yn gyfeirbwynt i lywio\u2019r holl gymorth gyrfaol ac mae ystod o adnoddau yn eu lle i&#8217;ch helpu i ddeall a myfyrio ar eich gwerthoedd, yr hyn sy\u2019n eich cymell, eich arddulliau dysgu a\u2019ch sgiliau.<\/li>\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/libguides.cam.ac.uk\/reflectivepracticetoolkit\/whatisreflectivepractice\">Reflective Practice Toolkit<\/a> Prifysgol Caergrawnt yn ganllaw ymarferol i feddwl am eich gwaith mewn ffordd fwy myfyriol yn ogystal \u00e2 bod yn gymorth defnyddiol at ddibenion dysgu parhaus.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Gair i gloi<\/h2>\n<p>A ninnau wedi llofnodi\u2019r <a href=\"https:\/\/researcherdevelopmentconcordat.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/Y-Concordat-Hybu-Datblygiad-Gyrfa-Ymchwilwyr-2019.pdf\">Concordat Cefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr<\/a> mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod staff ymchwil yn cymryd rhan mewn o leiaf <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/research-support\/how-we-support-research-staff\/professional-and-career-development-for-researchers\/meeting-your-development-needs\/10-day-cpd-commitment\">10 diwrnod o DPP<\/a>, pro rata bob blwyddyn. Mae\u2019r Brifysgol wedi ymrwymo i roi cyfleoedd, cymorth strwythuredig, anogaeth ac amser i staff ymchwil gymryd rhan mewn DPP, tra y bydd rheolwyr staff ymchwil yn cefnogi ymchwilwyr i gydbwyso ffrwyth eu hymchwil \u00e2&#8217;u datblygiad proffesiynol. Efallai eich bod yn meddwl mai llawer iawn yw hyn oll, felly yn y blog nesaf byddwn ni\u2019n edrych ar opsiynau DPP ychydig yn fwy ac y bydd, gobeithio, yn rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth o ran y cyfleoedd i fanteisio arnyn nhw!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Wrth ichi gynllunio eich gyrfa academaidd lwyddiannus, ddylech chi byth ddiystyru defnyddioldeb deall yr hyn nad ydych chi\u2019n ei wybod, neu'r hyn na allwch chi ei wneud hyd yn hyn!","protected":false},"author":7011,"featured_media":181,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[71,69,65],"tags":[],"class_list":["post-166","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-datblygu-gyrfa","category-gyrfaoedd-amrywiol","category-hyrwyddo-datblygiad-proffesiynol"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/166","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/users\/7011"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=166"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/166\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":481,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/166\/revisions\/481"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media\/181"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=166"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=166"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/the-cardiff-researcher\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=166"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}