Careers Advice, More, Placements, Preparing for your future, Student Stories, Work Experience

Yr haf y cwrddais i â Boris

Herio fy meddylfryd

Roeddwn i, fel llawer o bobl eraill, yn credu nad oedd Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil ar gyfer pobl fel fi. Dydw i ddim yn ddyn, es i ddim i Rydychen neu Gaergrawnt, a doeddwn i heb astudio PPE. Canfu Adroddiad Bridge, a gyhoeddwyd yn 2016, fod y rhai sy’n cael lle ar y Llwybr Carlam yn llai amrywiol yn gymdeithasol na Rhydychen. Felly, yn feddyliol, roeddwn i wedi diystyried fy hun cyn i mi ddechrau.

Roedd Caerdydd, yn ogystal â bod yn lle gwych ar ddiwrnod gêm rygbi, yn gam gyntaf tuag at fynd i’r afael â rhai o’r tybiaethau hyn – er yn araf deg efallai.

Ar un diwrnod arbennig o gymylog yn fy nhrydedd flwyddyn (mis Hydref arferol yng Nghymru), ces i ebost gan wasanaeth gyrfaoedd fy Ysgol yn hysbysebu interniaethau. Fe wnes i fwrw golwg anymrwymol drostynt pan ddylwn i fod wedi bod yn paratoi ar gyfer seminar siŵr o fod. Ffordd gynhyrchiol o ddifyrru amser, fyddech chi ddim yn cytuno?

Roedd Rhaglen yr Haf ar gyfer Interneion Amrywiol (SDIP) yn un ohonynt. Hon yw menter newydd y Gwasanaeth Sifil i gynyddu symudedd cymdeithasol a chynrychiolaeth pobl BAME ac anabl yn y llywodraeth. Fe gyflwynais i gais. Cystal â thaflu potel â neges ynddi i’r môr, meddyliais i.

Ar ôl gormod o fisoedd, mwy o brofion ar-lein dw i am eu cofio, cyfweliad dros y ffôn bues i bron â’i golli, a sesiwn grio dda siŵr o fod (y drydedd flwyddyn oedd hi wedi’r cwbl), ces i wybod i mi lwyddo tra oeddwn i’n crymu dros fy nhraethawd yn ASSL – pwy ddywedodd erioed bod bywyd myfyriwr yn grand?!

Yr FCO, yr UE a’r acronymau

Ces i wybod y byddwn i yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad am wyth wythnos, gan ddechrau ar 24 Mehefin. I’r rhai eiddgar yn eich plith, ie, dyna’r diwrnod y pleidleisiodd y DU dros ymadael â’r UE. Dw i byth yn hanner gwneud pethau. Cwrddais i â Boris Johnson ar fy niwrnod cyntaf!

Ers hynny

Mae llawer wedi newid ers hynny. Bellach, rwy’n aelod llawn o Lwybr Carlam 2018 – ynghyd â llawer o’r garfan y gwnes i gwblhau SDIP gyda nhw’r llynedd – ac rydw i wedi gweithio yn Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol a Chyllid a Thollau EM yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Rydw i wedi mynd i gynadleddau rhyngwladol, dysgu sgiliau nad oeddwn i erioed yn eu hystyried yn bosibl i mi, ac wrth gwrs, rydw i wedi sefyll o flaen y drws.

A hyn i gyd dim ond oherwydd i mi daflu’r botel honno i’r môr, a chofrestru ar gyfer rhestr ebost gan y Brifysgol…

Gwnaeth Caerdydd a Llwybr Carlam Talent Gynnar fy ngyrfa bresennol yn bosibl. Roedd gen i nifer o ddarlithwyr oedd yn cynnig cefnogaeth wych, gwasanaeth gyrfaoedd oedd yn hela am interniaethau i hwyluso bywydau ei graddedigion, a chyflogwr oedd yn chwilio am ffyrdd i fod yn fwy cynhwysol – ac yn bwysicach, sy’n parhau i wneud hynny.

Nid yw symudedd cymdeithasol yn rhywbeth sy’n cael ei drafod ddigon dw i’n credu, ac yn aml mae pobl yn anghyffyrddus wrth drafod ‘dosbarth’. Fel y dywedodd Bernadette Kelly, Hyrwyddwr Symudedd Cymdeithasol yn gynharach eleni, ‘ystyrir y Gwasanaeth Sifil, a’r Gwasanaeth Sifil Hŷn yn arbennig, yn elitaidd ac ‘nid o’n plaid ni’ gan lawer o bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is’.

Mae Llwybrau Carlam, fodd bynnag, yn herio’r monolog mewnol hwn, ac rwy’n falch o weithio i sefydliad sydd am newid hyn, ac mae SDIP yn gam enfawr i’r cyfeiriad cywir.

Beth ydw i’n dyheu i rywun fod wedi dweud wrthyf?

Wrth edrych yn ôl, dyma’r tri phrif beth yr ydw i’n dyheu i rywun fod wedi dweud wrtha i:

1. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen o’ch blaen, ewch i chwilio amdani.

2. Beth rydych chi’n ei wneud ohoni yw Caerdydd – mae eich darlithwyr a’r holl wasanaethau a ddarperir gan Gaerdydd yno i’ch cefnogi. Manteisiwch arnyn nhw cymaint â phosibl.

3. Ewch i gymaint o ddigwyddiadau â phosibl o’r adeg gynharaf bosibl a allai eich helpu i gael syniad o’r hyn rydych chi eisiau ei wneud a sut i’w gyrraedd.

I’r diben hwnnw, os ydych yn credu y gallai unrhyw rai o’r rhaglenni a gynhelir gan y Llwybr Carlam a Thalent Gynnar fod yn addas i chi (EDIP, SDIP neu’r Llwybr Carlam), dewch i ddweud helo wrth ein tîm allgymorth! Byddwn ni’n wasgaredig ar draws y campws ar y diwrnodau canlynol:

Daliwch ati, cadwch eich cymhelliant ac yn bwysicaf siŵr o fod, cofiwch y gall Hoffi Coffi ddatrys popeth mwy neu lai.

Dymuniadau gorau,

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.