
Roeddem ni, eich Undeb y Myfyrwyr, yn gyffrous iawn i gael y cyfle i ymweld â’r adeilad a gweld y cynnydd ar Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i wneud yn siŵr bod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn darparu ar eich cyfer ac yn gwella eich profiad fel myfyrwyr. Mae nifer o bethau cyffrous i ddod gyda’r prosiect hwn, a bydd yr adeilad ar agor i bob un ohonoch ei ddefnyddio a’i fwynhau yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Rydyn ni’n cael llawer o gwestiynau am yr ‘Undeb Myfyrwyr newydd’ felly rydyn ni am egluro nad Undeb Myfyrwyr arall yw hwn. Mae hwn yn un o adeiladau mawreddog y Brifysgol a fydd yn eich cefnogi trwy’ch taith yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae cefnogi Iechyd Meddwl a Lles Myfyrwyr yn bwysicach nag erioed, a bydd yr adeilad newydd hwn wrth galon yr holl wasanaethau cymorth a gynigir yn y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn cynnig ystod ehangach o gefnogaeth i helpu myfyrwyr i reoli eu hiechyd meddwl yn yr amgylchedd newydd hwn sy’n benodol at y diben gyda mwy o ystafelloedd ymgynghori cyfrinachol a hygyrch. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr hefyd yn bwynt gwybodaeth allweddol i adrannau eraill yn y Brifysgol, gan gynnwys Gwasanaeth y Dyfodol, a fydd yn dwyn ynghyd ein Timau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a Chyfleoedd Byd-eang fel eich bod yn cael cefnogaeth well i fyd gwaith, lle bynnag y bo hynny. Y gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr fydd eich pwynt cyswllt cyntaf ar y llawr gwaelod. Bydd popeth sydd ei angen arnoch i gefnogi’ch bywyd yn y Brifysgol ac yn eich dyfodol mewn un safle.
Fodd bynnag, nid gwasanaethau cymorth yn unig fydd yn yr adeilad, bydd hefyd yn gartref i ddarlithfa fwyaf y Brifysgol ac yn cynnig mannau newydd i chi astudio ac archwilio. Mae’r golygfeydd yn anhygoel, a gallwch edmygu rhannau o Gaerdydd o’r adeilad os ydych am astudio gyda golygfa o’r ddinas.
Mae myfyrwyr wedi bod yn rhan o’r datblygiad o’r dechrau, er enghraifft, gofynnwyd i chi pa gaffis/bwytai yr hoffech eu cael yn yr adeilad. Roedd Greggs yn ddewis poblogaidd iawn ac yn llwyddiannus! Yn ogystal, fel Swyddogion Sabothol rydym wedi bod yn rhan o Grŵp Llywio Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, sy’n cyfarfod yn fisol ac yn trafod popeth o gyllid, dodrefn a siopau bwyd, i reoli eich ymholiadau gyda thechnoleg newydd. Mae’r Brifysgol hyd yn oed yn cynnig cyfle i chi arddangos eich gwaith celf yn yr adeilad, felly peidiwch â cholli’r cyfle hwn!
Gwnaeth maint a phosibiliadau’r adeilad argraff fawr arnom. Roedd yn gyffrous gweld yr adeilad ei hun yn hytrach na chynlluniau ohono ar bapur. Rydyn ni’n gyffrous iawn i weld Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn agor nes ymlaen eleni!