Careers Advice, Placements, Preparing for your future, Work Experience

Ydych chi’n ystyried gyrfa ym myd addysg?

Cwblhaodd Elena Hajilambini – sy’n astudio am radd BA Cerddoriaeth – brofiad gwaith y flwyddyn academaidd ddiwethaf fel rhan o Brosiect Profiad yn y Dosbarth. Aeth hi i adran gerdd Ysgol Gyfun Radur. Mae hi’n rhoi gwybod i ni am ei phrofiad yma:

Fy mhrofiad

Ers blynyddoedd, rydw i wedi gwybod mai athrawes rydw i am fod yn y dyfodol ond doeddwn i ddim yn gwybod, er mwyn cwblhau fy TAR, y byddai’n rhaid i mi gael profiad yn yr ystafell ddosbarth ymlaen llaw. Gan fy mod i ym mlwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd BA, teimlais y byddai’n gyfle da cael ychydig o brofiad proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig am y bydden nhw’n gallu gwneud i hynny weithio o amgylch fy nghwrs gradd.

Mwynheais bob un munud o’m lleoliad gwaith. Dyna oedd uchafbwynt yr wythnos i mi bob wythnos roeddwn i yno. Roedd mor werth chweil gweithio gyda’r myfyrwyr a gwybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth.

Roedd adegau pan oeddwn wedi bod yn gweithio gydag un myfyriwr yn ystod gwers, a phan fyddai’n dod ataf a diolch i mi ar ddiwedd y wers neu’n dweud fy mod wedi ei helpu, byddai’n uchafbwynt fy niwrnod. At hynny, cefais fod gweithio gyda’r staff yn dra gwobrwyol. Roedd yn hyfryd gwybod fy mod yn help yn hytrach na rhywbeth arall iddyn nhw feddwl amdano, ac roeddent yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwybod bod fy ngwaith caled yn talu ffordd. Mae’n wych gan ei fod wedi cadarnhau’r dewis gyrfa y gwnes i flynyddoedd yn ôl a dangos ei fod o fewn cyrraedd.

Y rôl

Bues i’n arsylwi ar lawer o’r hyn roedd yr athrawon dosbarth yn ei wneud a helpu i arwain tasgau yn y dosbarth. Yn ei hanfod, fy rôl oedd bod yn ffigur awdurdodol arall yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi’r athro a symud ychydig o’r pwysau – mae cadw llygad ar bawb ar yr un pryd yn anoddach nag y mae’n edrych. Weithiau roeddwn yn cael y ddyletswydd o weithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac arnynt angen sylw un i un, a byddai wedi bod yn anodd i’r athro dosbarth gyflawni hynny gyda 30 o fyfyrwyr eraill yn yr ystafell.

Sgiliau newydd

Roeddwn wedi gorfod mynd ati ar fy liwt fy hun i gael agwedd gadarn yn y gwersi, er mwyn cadw llygad ar yr holl fyfyrwyr. Uwchlaw popeth, credaf fy mod wedi datblygu fy sgiliau rhyngbersonol. Cefais fy nghrin fel aelod o staff gan y myfyrwyr yn ogystal â’r athrawon dosbarth, ac roedd hynny’n hwb mawr i’m hyder o wybod eu bod yn gallu fy ngweld mewn rôl o’r fath. Roedd wedi fy ngalluogi i weithio ar fy sgiliau cymdeithasol a gweithio ar wahaniaethu rhwng y modd rwy’n cyfathrebu â staff, o’i gymharu â’r modd rwy’n cyfathrebu â’r myfyrwyr.

Byddwn i bendant yn argymell cwblhau lleoliad gwaith drwy’r Prosiect Profiad yn yr Ystafell Ddosbarth. Mae wedi rhoi lefel arall o brofiad i mi nad oeddwn yn meddwl y byddwn yn ei gael nes fy nghwrs TAR, heb sôn am fy natblygiad personol yn y cyfnod hwnnw.

Roedd y tîm CEP yn anhygoel. Sefydlodd Amy gysylltiad â’r ysgol yn rhyfeddol o gyflym, a byddai’n galw heibio i’m gweld o bryd i’w gilydd i gael gwybod sut oedd y lleoliad yn dod yn ei flaen. Os oeddwn yn gwybod bod rhywbeth wedi newid, neu os oedd unrhyw beth yn mynd o’i le, gallwn fynd yn syth ati hi a byddai’n gallu unioni’r sefyllfa. Roedd y profiad hyd yn oed yn well o wybod bod pobl yn fy nghefnogi o bob cyfeiriad.

Cyfleoedd

Elena Hajilambi, Cerddoriaeth ail flwyddyn

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.