Careers Advice, Placements, Preparing for your future, Recruiters

Sut y Cawsom Swydd yn Escentual (A Sut Brofiad Yw Gweithio Yma!)

Pan mae meysydd technoleg, cadwyni cyflenwi, dylunio a golygu yn gwrthdaro, cewch gymysgedd amrywiol iawn o bobl ac amrywiaeth eang o dalentau’n gweithio dan un to. Dynna’n union beth sy’n gwneud Escentual mor wych. Mae ein tîm aml-dalentog yn weithgar, yn gydweithredol ac yn arloesol – ac mae’n digwydd bod yn gyfrifol am un o safleoedd e-fasnach enwocaf y wlad ym maes harddwch!

Er ein bod yn arbenigo mewn gwerthu colur, gofal croen, persawr a gofal corff o frandiau mwyaf moethus y byd, nid oes angen i chi ymddiddori’n frwd ym maes harddwch i fod yn rhan o Dîm Escentual; mae ein talent wedi cael ei lywio gan bob math o lwybrau addysg, profiadau gwaith a phrofiadau bywyd. Rydym wedi astudio popeth o gyfrifiadureg a chyfrifeg hyd at astudiaethau newyddiaduriaeth a busnes – a’r peth gorau yw os oes gennych ddiddordeb mewn maes penodol ac rydych yn unigolyn angerddol sy’n gallu gweithio’n annibynnol, mae cyfle i ddysgu a thyfu ym mhob math o feysydd y busnes.

Felly, sut ydych yn cael swydd mewn lle fel Escentual? Dyma ragor o wybodaeth am sut brofiad yw tyfu a dysgu gyda’r e-fanwerthwr sy’n tyfu’n gyflym, yn uniongyrchol o enau rhai o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd bellach yn rhan ganolog o’r tîm.

Sut brofiad yw gweithio yn Escentual… pan rydych yn datblygu yn y cwmni

Alan Dowell, Uwch-Reolwr, (BSc Cyfrifiadureg gyda Meta-hewristeg).

Astudiais Gyfrifiadureg heb syniad clir o beth roeddwn am ei wneud. Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n canfod hyn wrth i mi fynd ymlaen, ond nid dyna ddigwyddodd. Felly, pan orffennais i, cymerais ychydig o amser i ffwrdd a dechreuais rôl ran-amser yn warws Escentual er mwyn parhau i dalu rhent.

Gwnaeth fy swydd fyfyriwr flaenorol mewn archfarchnad, lle byddwn i’n dirprwyo ar gyfer rheolwyr adrannau, roi dealltwriaeth greiddiol i mi o weithrediadau. Pan wnaethant fy rôl ran-amser yn warws Escentual yn un barhaol ar ôl ychydig o amser, ceisiais i ddysgu cymaint ag y gallwn i am y busnes. Nid wyf erioed wedi bod yn fodlon ar wybod ‘sut’ yn unig, rwyf bob amser wedi eisiau gwybod ‘pam’; felly byddwn i’n herio fy hun i ddysgu/newid rhywbeth bach bob 3 mis, yna rhywbeth mawr bob 6 mis.

Wrth i amser fynd yn ei flaen dysgais bopeth am holl feysydd ac adrannau gwahanol busnes E-Fasnach, ac arweiniodd hyn at y rôl Uwch-Reolwr sydd gen i heddiw. O ganlyniad, erbyn heddiw nid yw fy niwrnod gwaith byth yr un peth gan fy mod yn symud o ddarogan lansiadau harddwch y flwyddyn nesaf a thrafod betas newydd â Google i ystyried algorithmau casglu newydd yn y warws.

O ran cyngor: cyfrannwch, dysgwch y rheswm ‘pam’, datryswch broblemau pobl, gosodwch weithdrefnau newydd a symudwch ymlaen i’r her nesaf. Heriwch eich hun i ddysgu bob amser a pheidiwch byth â bod ofn bod yn anghywir. Os ydych yn anghywir am y rhesymau cywir, byddwch yn dysgu’n gyflymach ac yn gweld gwelliannau mwy dros amser.

Sut brofiad yw gweithio yn Escentual… pan rydych yn eich swydd gyntaf

Bethan Daley, Ysgrifennwr Copi, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg

Astudiais Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roeddwn yn ddigon lwcus cael swydd yn Escentual wythnos ar ôl i mi gyflwyno fy nhraethodau olaf. Ysgrifennwr Copi ydw i, felly yn lle ysgrifennu am Chaucer neu Shakespeare, erbyn hyn rwy’n ysgrifennu am yr holl gynhyrchion harddwch sydd ar fin ymddangos ar dudalen ‘What’s New’ Escentual. Mae’n brysur dros ben ac nid oes unrhyw ddeuddydd yr un peth. Rwy’n teimlo’n angerddol dros ysgrifennu, a phrin y galla i gredu o hyd fy mod yn gallu gwneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau fel bywoliaeth.

Os ydych yn mwynhau ysgrifennu fel fi ac am roi cynnig ar weithio yn niwydiant manwerthu harddwch ar-lein, rwyf wir yn argymell creu blog neu hyd yn oed ymuno â chymdeithas ysgrifennu. Nid yn unig y bydd yn dangos eich angerdd, ond bydd yn eich helpu i fireinio eich sgiliau ysgrifennu a gallwch hefyd fod yn sicr y bydd yn eich gwneud i ragori fel ymgeisydd ym marn cyflogwyr!

Sut brofiad yw gweithio yn Escentual… pan rydych newydd raddio

Alex Mumford, Datblygwr, BSc (Anrh) Cyfrifiadureg

Astudiais ym Mhrifysgol Caerdydd ac enillais radd 2:1 mewn Cyfrifiadureg Yna, dechreuais weithio yma gyda help swyddog lleoliad gwaith Catherine Teehan o adran gyrfaoedd a chyflogadwyedd Cyfrifiadureg, gan ei bod yn adnabod Rakesh (Prif Weithredwr Escentual) a chymeradwyodd fi i gael cyfweliad gan fy mod i’n addas ar gyfer yr hyn roedd yn chwilio amdano.

Ar hyn o bryd rwy’n nodi gofynion ac yn ymchwilio i’r technolegau gorau i’w defnyddio ar gyfer rhaglen fusnes newydd, gyda’r nod o helpu timau gwahanol i gydweithio a rheoli lansiadau cynhyrchion yn ogystal â chynnal a gwella effeithlonrwydd systemau cyfredol yn y busnes. Fy hoff beth am weithio yn Escentual yw’r cydbwysedd rhwng amgylchedd cyfeillgar a phroffesiynol, yn ogystal â’r anogaeth i weithio ar eich liwt eich hun wrth gael cyngor ac arweiniad lle y bo’n briodol.

Fy mhrif gyngor i fyfyrwyr fyddai defnyddio’r adnoddau mae’r brifysgol yn eu cynnig i chi, fel lleoliadau gwaith a chymorth gyda chael rolau i raddedigion. Maen nhw yno i helpu ac mae’n hawdd i fyfyrwyr Cyfrifiadureg siarad â Catherine yn benodol. Ar wahân i hynny, sicrhewch eich bod yn gwneud hen ddigon o ymchwil i’r cwmnïau rydych yn gwneud cais iddynt achos bydd yn eich helpu i fod yn frwdfrydig am weithio i’r cwmni (ac yn dangos hynny) cyn dechrau yno, sydd yn naturiol yn edrych yn dda mewn cyfweliad.

Sut brofiad yw gweithio yn Escentual… pan rydych dal yn y brifysgol

Darina Nikolova, Goruchwyliwr Gweithrediadau, BA (Anrh) Econ Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth gyda Ffrangeg

Helo! Fy enw i yw Darina Nikolova ac ar hyn o bryd rwy’n astudio BSc Econ Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth gyda Ffrangeg ac rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn. Dechreuais weithio yn Escentual yn ystod fy mlwyddyn gyntaf (2016) fel un o’r staff dros dro a gyflogwyd drwy’r Siop Swyddi.

Ar fy niwrnod cyntaf, cefais hyfforddiant ar sut i gasglu, sy’n rhan hanfodol o system ddosbarthu’r warws. Dysgais rywbeth gwahanol yn ystod pob sifft.

Roedd yn swydd ymlaciol iawn yn fy marn i, heb straen, gan gynnig y cyfle i chi gydbwyso astudio gradd amser llawn â meithrin sgiliau ar lefel broffesiynol yn wirioneddol. Yn sicr mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill, lle rydych yn gwneud eich gorau a’ch mae’r cwmni hefyd yn rhoi yn ôl i chi. Yn ddiweddar, penodwyd rôl newydd i mi sef Goruchwyliwr Gweithrediadau a diolch i waith caled ac ymrwymiad mae hynny.

Sut brofiad yw gweithio yn Escentual pan rydych wedi… newid gyrfa

Elisabeth Rilatt, Ysgrifennwr Copi, BA (Anrh) Rheoli Lletygarwch a Sefydliadau

Astudiais gwrs Rheoli Lletygarwch a Sefydliadau ym Mhrifysgol Caerdydd amser maith yn ôl cyn i mi ddilyn gyrfa yn gweithio mewn gwerthiannau digwyddiadau gwesty, gwerthiannau telathrebu cyn setlo mewn gyrfa recriwtio lwyddiannus iawn. Yn fy amser sbâr, rwyf yn llunio fy mlog harddwch, ffasiwn a ffordd o fyw fy hun, ac ychydig fisoedd yn ôl mentrais i newid fy ngyrfa gan wneud rhywbeth rwyf wir yn angerddol drosto a dyma bryd dechreuais weithio i Escentual fel ysgrifennwr copi.

Rwyf yn ysgrifennu disgrifiadau o gynhyrchion ar gyfer y wefan ac yn mwynhau dysgu am yr holl gynhyrchion harddwch diweddaraf. Hon wir yw fy swydd ddelfrydol a’r cyngor gorau gallaf ei gynnig i rywun sy’n dechrau ei yrfa yw ei bod hi’n iawn i beidio â ‘gwybod’ beth rydych am ei wneud ar ddechrau eich gyrfa. Weithiau mae angen rhoi cynnig ar bethau newydd a chael profiad er mwyn eich arwain at rywbeth rydych wir yn angerddol drosto.

Sut brofiad yw gweithio yn Escentual… pan rydych yn mynd trwy’r Siop Swyddi

Jan Slawinski, Goruchwyliwr y Warws, BSc (Anrh) Peirianneg Feddalwedd

Rwyf yn gwneud cwrs Peirianneg Feddalwedd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg. Dechreuais weithio yn Escentual yn ystod cyfnod prysur drwy’r Siop Swyddi, a gan roeddwn i’n dychwelyd dro ar ôl tro, gofynnais am gontract ac arhosais. Pan ddechreuodd y cwmni ailstrwythuro’r warws gofynnwyd i mi p’un a fyddai gennyf ddiddordeb yn y swydd oruchwylio, a chytunais i’w derbyn. Byddwn i’n dweud mai’r hyn rwyf yn ei fwynhau fwyaf yw’r tîm rwy’n gweithio gydag ef.

Yn wahanol i sawl lle, mae gan warws Escentual dîm ifanc sy’n cynnwys myfyrwyr prifysgol yn bennaf, ac er y byddai rheoli eich cymheiriaid yn heriol ar adegau, mae’n swydd ddiddorol iawn sy’n dod â boddhad mawr.


Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.