
Mae eich blwyddyn gyntaf yn y brifysgol bob amser yn dod â chymysgedd o emosiynau. Yn bennaf o gyffro i fod yn dechrau pennod arall yn eich bywyd, ond hefyd edrych ymlaen ychydig at beth fydd yn digwydd nesaf.
Ond os ydych yn dechrau yn y brifysgol yn ystod pandemig byd-eang, mae’n debygol y bydd yr emosiynau hynny’n cael eu dwysáu. Ond gallwn eich sicrhau nad ydych ar ben eich hun yn ystod eich wythnosau cyntaf yng Nghaerdydd. Bydd gennych gyd-letywyr, cydfyfyrwyr a bydd llawer o dimau staff y brifysgol yno i’ch helpu i gael y dechreuad gorau i’ch bywyd fel myfyriwr.
O fy mhrofiad i, un o’r pethau sy’n peri pryder fwyaf am fywyd myfyriwr yw rheoli eich arian. Ry’ch chi ar fin cael swm mawr o arian yn eich cyfrif (mae’n siŵr mai dyma’r swm mwyaf erioed mewn un taliad) ac mae disgwyl i chi wneud iddo bara tan y Nadolig o leiaf. Gydag wythnos y glas, prynu pethau hanfodol ar Amazon a danteithion o Lidl yn eich temptio, nawr yw’r amser perffaith i greu cynllun arian!
Ar ôl treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn astudio yng Nghaerdydd, dwi wedi creu rhestr o’r awgrymiadau gorau o ran arbed arian yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol.
Dim Deliveroo
Dysgwch ychydig o sgiliau coginio sylfaenol a pheidiwch â dibynnu ar fwyta allan a bwyd tecawê pob tro – bydd hyn yn arbed llwyth i chi! Gallwch hefyd greu llawer iawn o brydau a’u rhewi ar gyfer rhyw bryd eto.
Byddwch yn gall yn yr archfarchnad
Anghofiwch am Sainsburys a Waitrose. Aldi a Lidl yw’r lle i chi. Ceisiwch siopa bwyd unwaith yr wythnos. Syniad da iawn yw peidio byth â siopa pan rydych chi’n llwglyd er mwyn osgoi prynu pethau diangen. Hefyd ceisiwch siopa’n hwyrach yn y dydd er mwyn cael disgownt ar rai bwydydd – cofiwch, gallwch brynu bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad gwerthu erbyn, a’i rewi ar gyfer rhywbryd eto. Hefyd, ewch i’r adran rewgelloedd er mwyn prynu eitemau fel llysiau a cig yn rhatach.
Manteisiwch ar y gostyngiad i fyfyrwyr
Mae’r cerdyn NUS i fyfyrwyr a’r cerdyn rheilffordd 16-25 wedi arbed cannoedd i mi yn ystod f’amser yn astudio. Hefyd, cofiwch edrych mewn siopau elusen lleol, cymharwch bris taith ar goets â phris tocyn trên, a lawrlwythwch ap ‘Too Good to Go’ i gael gostyngiadau mawr ar fwyd!
Paratowch gyllideb gyda ffrind
Bydd coginio neu brynu eitemau hanfodol y gegin gyda’r bobl yr ydych yn byw gyda nhw’n arbed arian i chi hefyd. Ond gwnewch yn siŵr fod pawb yn gwybod beth yw’r sefyllfa er mwyn osgoi unrhyw anghytuno maes o law!
Cyllidebu
Dyma’r peth pwysicaf i wneud! Mae mor syml â rhestru’r holl arian sy’n dod i mewn (benthyciad myfyriwr, arian gan rieni, gwaith rhan-amser…) a’r arian sy’n mynd allan (rhent, aelodaeth y gampfa, bil ffôn…) a sicrhau bod eich arian yn cael ei wario yn y lleoedd iawn.
Bydd hyn yn gwneud eich sefyllfa ariannol yn llawer mwy eglur i chi. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld cost y mae modd gwaredu arno’n syth, megis talu am wasanaeth tanysgrifio nad ydych yn ei ddefnyddio mwyach, neu brynu ychydig o fwyd bob dydd yn lle cynllunio bwyd wythnosol fydd yn para’n hirach.
Os ydych yn awyddus i gael rhagor o gymorth ynghylch sut i gyllidebu, cewch fanylion ar y Fewnrwyd .
*
Am gael rhagor o awgrymiadau?
Cadwch lygad ar y blogiau, fideos ac awgrymiadau diweddaraf drwy ein dilyn ni ar Twitter a Facebook.
Cysylltwch â Chyngor a Chyllid Myfyrwyr
Mae’r Gwasanaethau
Cefnogi Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yma i’ch helpu. Cysylltwch â
ni os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill. Ffôn: 029 2251 8888
Ebost: studentfundingandadvice@caerdydd.ac.uk.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy nodi eich sylwadau yn y blwch sylwadau isod, a gofynnwch eich cwestiynau os oes unrhyw beth pellach yr hoffech ei wybod.