Placements, Preparing for your future, Work Experience

Sut arweiniodd fy Interniaeth ar y Campws at PhD

Mae Ryan Coates yn dweud wrthym ni am ei Interniaeth ar y Campws mewn ymchwil, yn gweithio gydag academyddion yn y Brifysgol.

Ryan Cotes, blwyddyn gyntaf o astudio PhD mewn peirianneg enetig planhigion

“Roedd ymgymryd â phrosiect Interniaeth ar y Campws (CUROP) yn rhan allweddol o fy mhenderfyniad i ddilyn gyrfa sy’n canolbwyntio ar ymchwil. Yn ystod fy ngradd israddedig, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n mwynhau sesiynau ymarferol ond anaml roedd y rhain yn adlewyrchu sut beth yw ymchwil mewn gwirionedd. Roedd y prosiectau fel arfer yn fyr (wythnosau yn unig) a bob amser yn cael eu profi ymlaen llaw gan y darlithwyr neu’r arddangoswyr, gan olygu bod bwriad fod y canlyniadau yn arwain gyda rhywfaint o sicrwydd, a diffyg rhyddid. Er fy mod i’n mwynhau’r sesiynau hyn ac yn dysgu sgiliau ymarferol hanfodol, ni wnaethant grynhoi realiti ymchwil.

Am y rheswm hwn, penderfynais wneud lleoliad haf ymchwil ar y campws, a oedd yn cynnwys addasu geneteg planhigion, nad oedd gennyf unrhyw brofiad blaenorol ohono. Y lleoliad oedd y prif ffactor penderfynol imi ymgymryd â gyrfa ymchwil, ac yn y diwedd, dewisais i aros yn yr un maes (peirianneg enetig planhigion). Mae creu planhigion a addaswyd yn enetig yn cymryd gormod o amser ac yn heriol yn dechnegol ar gyfer sesiynau ymarferol israddedig, felly roedd y profiad hwn yn amhrisiadwy wrth lunio diddordebau fy ngyrfa. Mewn gwirionedd, mae fy holl waith ers hynny wedi bod yn yr un maes.

Fe wnaeth y blas hwn o ymchwil fy annog i wneud gradd Meistr, a chael profiad gwerthfawr ac annibyniaeth mewn lleoliad ymchwil. Yn ystod fy nghyfweliad PhD, cyflwynais ddata meintiol o’r prosiect, felly roedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’m holl waith yn arwain ymlaen o’r lleoliad. Ar y cyfan, caniataodd yr Interniaeth ar y Campws (CUROP) i mi ennill profiad ymchwil uniongyrchol realistig, llunio fy niddordeb, a chaniatáu imi ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i ymchwil mewn ffordd nad yw gradd israddedig yn ei ganiatáu.”

Awgrymiadau gan Ryan ar gyfer lleoliad gwaith:

  • Ceisiwch wneud rhywbeth rydych chi’n meddwl yr hoffech chi neud na allwch ei wneud fel arall. Mae’n well defnyddio lleoliad tymor canolig i gael syniad o ddiwydiant yn hytrach nag ymrwymo blwyddyn gyfan mewn Meistr neu PTY!
  • Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau tra’ch bod chi ar eich lleoliad. Bydd y profiad yn llawer mwy gwerthfawr os byddwch chi’n dod allan ohono gyda hyder a dealltwriaeth gadarn o’r gwaith, a dylai cyflwyno’r cyfan yn y sesiwn boster olaf gydgrynhoi’r holl wybodaeth.
  • Os gallwch chi ddysgu sgiliau ychwanegol nad yw’ch gradd israddedig yn ei dysgu i chi yn ystod y lleoliad, yna gwnewch hynny. Mae’n dangos amrywiaeth a gallu i addasu y bydd cyflogwyr yn eu hoffi. Er enghraifft, dysgais ddatblygiad gwe sylfaenol, modelu mathemategol a biowybodeg, yr wyf i gyd wedi’i ddefnyddio wedi hynny.

Diddordeb mewn Interniaethau ar y Campws?

Am fwy o wybodaeth ynglŷn a cyfleoedd brofiad gwaith â thal yn ystod yr haf gydag academyddion yng Nghaerdydd, cysylltwch â CESISummerPlacements@cardiff.ac.uk neu chwiliwch am brofiad gwaith ar yr intranet.

Mae Interniaethau ar y Campws mewn Ymchwil a Dysgu ac Addysgu yn agor ar gyfer ceisiadau yng ngwanwyn 2021.

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.