More, Student Mentors, Student Stories

Sophie: “pam y dewisais bod yn fentor i fyfyrwyr”

“Shwmae, Sophie ydw i, ac roeddwn i’n Fentor Myfyrwyr yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol.

Rhoddodd y cynllun lawer iawn o foddhad i mi am fy mod yn gallu helpu myfyrwyr y flwyddyn gyntaf wrth iddyn nhw ddechrau eu bywydau yn y brifysgol. Yn fy nghyfarfodydd, bues i’n trafod llety a geirdaon ymhlith pynciau eraill. Rwy’n credu bod y rhain yn bynciau defnyddiol i fyfyrwyr newydd achos ces i amser caled fy hun gyda’r rhain yn fy mlwyddyn gyntaf.

Roedd gen i fentor myfyrwyr pan ddechreuais i yn y brifysgol, ac roedd hyn yn ddefnyddiol iawn, felly dyna pam penderfynais i ymuno â’r cynllun.

Yn fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol, roeddwn i’n Ymgynghorydd Mentora ac yn arwain grŵp o Fentoriaid o’r ail flwyddyn. Ar gyfer y dystysgrif hon, cynhaliais i ddau gyfarfod i helpu fy Mentoriaid gydag unrhyw broblemau oedd yn codi iddyn nhw ar y cynllun. Fodd bynnag, ym mhob cyfarfod ces i ymateb cadarnhaol, a gwelais i fod fy Mentoriaid wir yn mwynhau’r cynllun.

Manteision y cynllun oedd gallu defnyddio’r sgiliau yr ydw i wedi’u dysgu yn yr ysgol a’r coleg wrth helpu myfyrwyr prifysgol i ymsefydlu yn eu bywyd newydd yn y brifysgol. Byddwn yn argymell i bawb gymryd rhan yn y cynllun, oherwydd roedd yn brofiad gwerth chweil i mi fydd yn fy helpu gyda’m gyrfa yn y dyfodol.”

Rydym yn recriwtio Mentoriaid Myfyrwyr gwirfoddol newydd nawr!

Helpwch lasfyfyrwyr yn eich ysgol, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael tystysgrif! Chwiliwch am “Mentor Myfyrwyr” ar y fewnrwyd i gael gafael ar ddisgrifiad o’r rôl a’r ffurflen gais ar-lein a chyflwyno cais erbyn dydd Gwener 6 Mawrth. Mae’r holl fentoriaid myfyrwyr yn cael hyfforddiant llawn, goruchwyliaeth a chefnogaeth – rydym yma i’ch helpu yn eich rôl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig fydd yn dychwelyd i’r campws ym mis Medi 2020.

Sophie,
Ysgol Hanes,
Archaeoleg a Chrefydd

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.