
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr fydd cartref newydd ein gwasanaethau cefnogi myfyrwyr pan fydd yn agor yn nes ymlaen eleni. Nawr mae gan fyfyrwyr Prifysgol Caerydd gyfle i ddylanwadu ar wedd a naws yr adeilad drwy gyflwyno eich dyluniadau ar gyfer tri man allweddol ar waliau.
Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn darparu cyfleusterau modern, hyblyg a chynaliadwy gydag atmosffer diogel, croesawgar a chynhwysol i bawb sy’n gweithio, astudio ac ymweld â’r Brifysgol.
Mae’r adeilad wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â myfyrwyr, gydag ymgynghori ac ymgysylltu ar bopeth o’r dyluniadau pensaernïol i’r ffordd yr ymdrinnir ag ymholiadau yn yr adeilad.
Mae tri man mawr yn yr adeilad lle bydd gennych gyfle i arddangos eich dyluniadau. Gallwch gyflwyno gwaith celf ar gyfer unrhyw un o’r lleoliadau, neu bob un ohonynt, a bydd y darnau buddugol yn cael eu dewis gan banel o feirniaid o’r Brifysgol. Bydd yr enillwyr hefyd yn derbyn iPad Air.
Mae’r gystadleuaeth ar agor ar hyn o bryd i fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd yn unig. 31 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Mae rhagor o wybodaeth, telerau ac amodau a’r ddolen i gofrestru i’w gweld ar y fewnrwyd.