
Mae Martina Bonassera yn ysgrifennu am ei lleoliad dros yr haf, sydd wedi rhoi profiad gwaith hanfodol iddi, cyflog a dechrau da ar ddatblygu ei phortffolio, i gyd wrth weithio o bell dramor yn ystod pandemig y coronafeirws.
“Rwy’n credu fod y dywediad yn wir: “Yn y tywyllwch mae dod o hyd i’r golau.”“
“Martina Bonassera ydw i ac rwy’n fyfyriwr Biocemeg 20 oed ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ddechrau pandemig COVID-19 roeddwn yn gofidio ac yn amau am yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Fel fi, efallai fod llawer o fyfyrwyr eraill wedi teimlo fel hyn: heb ddigon o gyfeiriad ac yn poeni am y dyfodol.
Yn ystod y cyfnod enbyd hwn y rhoddodd FRAME U.K (Cronfa ar gyfer Amnewid Anifeiliaid mewn Arbrofion Meddygol) gyfle i mi gynhyrchu fy adroddiad cyntaf un a fydd yn cael ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn ATLA (Alternatives to Laboratory Animals). Cefais gyflog 10 wythnos (£250 yr wythnos) i ariannu fy ngwaith a chefais oruchwyliaeth trwy weithio o bell gyda Dr BéruBé, arbenigwr mewn Strategaethau Amnewid Anifeiliaid (3Rs) a phennaeth “Grŵp Ymchwil yr Ysgyfaint a Gronynnau” ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae fy mhrosiect yn bwriadu dadansoddi NTS (Crynodebau Annhechnegol) yn feirniadol, a ysgrifennwyd ar gyfer lleygwyr y mae’n rhaid i ymchwilwyr eu defnyddio i gefnogi eu harbrofion ar anifeiliaid. Yn benodol, roedd gen i ddiddordeb mewn ymchwilio i NTS yn ymwneud â “chlefydau ysgyfaint ac anadlol” gan fod y pwnc hwn yn berthnasol iawn yn ddiweddar gyda dyfodiad COVID-19 a’r newid yn yr hinsawdd. Yn benodol, mae’r astudiaeth hon yn bwriadu penderfynu a oedd y diffyg dulliau amgen yn cyfiawnhau defnyddio modelau ymchwil anifeiliaid ac os na, i ganfod ffactorau a allai fod wedi dylanwadu ar ddewis o’r fath.
Cyn ymgymryd â’r prosiect hwn, roeddwn i’n arfer meddwl bod y 3Rs yn anelu at osgoi dioddefaint diangen i anifeiliaid labordy. Rydw i bellach wedi dysgu ei fod hefyd yn ymwneud ag arfer gwyddonol da. Mewn gwirionedd, gall gorddibynnu ar ddefnyddio anifeiliaid i ragfynegi ymddygiad cyffuriau mewn bodau dynol arwain at wallau arbrofol sylweddol ynghyd â gwastraffu amser ac arian.
Credaf y byddai llawer o israddedigion BIOSI Prifysgol Caerdydd yn elwa o brofiadau fel yr un a gynigiodd FRAME a Dr BéruBé i mi. Felly, rwy’n eu hannog i gymryd rhan a cheisio cael cyfleoedd o’r fath a fydd yn eu cynorthwyo i lunio eu gyrfa yn y dyfodol fel gwyddonwyr ymchwil.”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn lleoliad dros yr haf?
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd lleoliad dros yr haf â thâl gydag academyddion yng Nghaerdydd, cysylltwch â CESISummerPlacements@caerdydd.ac.uk neu chwiliwch am brofiad gwaith ar y fewnrwyd.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cydfyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.