Exam and assessment tips, Exam tips, Health and Wellbeing, Mental health, More, Student Stories, Supporting your study

‘Mae fy mhryder yn fy mharlysu mewn arholiadau – rwy’n poeni y byddaf yn methu!’

“Rwyf yn fy 2il flwyddyn a dwi wedi sylwi nad wyf yn ymdopi ag arholiadau yn dda iawn. Rwy’n ymdopi’n iawn â fy ngwaith cwrs yn ôl pob golwg, ond mae fy meddwl yn mynd yn wag pan fyddaf o dan bwysau mewn ystafell arholiad! Rydw i eisoes wedi gorfod ailsefyll rhai arholiadau ac rwy’n poeni y bydd yn rhaid i mi ailsefyll y flwyddyn gyfan os nad yw pethau’n gwella. Rwy’n poeni beth mae pobl yn ei feddwl ohona i. Rwy’n teimlo fel methiant ac nad y Brifysgol yw’r lle i mi. Mae’n arbennig o rwystredig am fy mod yn gweithio’n galed wrth baratoi ar gyfer yr arholiadau ac yn teimlo fy mod i’n gwybod y gwaith yn dda – ond mae’r straen yn mynd yn fy llethu.”

Eleanor o’r tîm Cwnsela Myfyrwyr yn ymateb i gyfyng-gyngor myfyriwr…

Nid yw pawb yn ymateb yn dda mewn arholiadau, ac mae arholiadau yn adlewyrchu sgiliau rhai pobl yn well na’i gilydd, felly gellid eu hystyried yn annheg. Ond yn anffodus, arholiadau a gwaith cwrs yw’r dull mwyaf cyfleus a chywir o hyd o asesu cynnydd.

O’r iaith rydych chi wedi’i defnyddio yma, rydw i wedi sylwi ar dri arfer meddwl penodol sy’n gwneud dim lles i chi.

Hunan-siarad beirniadol, darllen-meddyliau (gwneud rhagdybiaethau am yr hyn y mae pobl eraill yn ei feddwl neu’n ei deimlo yn eich cylch) a gwneud sefyllfa yn llawer gwaeth nag y mae mewn gwirionedd. Ceisiwch sylwi ar yr adeg rydych yn gwneud hyn a heriwch eich hun. Chwiliwch am eithriadau neu dystiolaeth sy’n herio’r syniadau hyn. Chwiliwch am ‘herio meddyliau negyddol’ am ragor o fanylion neu ewch i’n tudalennau hunan-gymorth ar y fewnrwyd.

Un o’r problemau mwyaf sy’n gysylltiedig â meddyliau pryderus yw bod pryder yn aml yn gallu creu mwy o bryder. Hynny yw, po fwyaf yr ydym yn poeni am bryder yn ein llethu, y mwyaf tebygol y bydd yn digwydd. Dyma pryd y gall derbyn ychydig o dosturi fod o ddefnydd. Efallai byddai’n fwy defnyddiol derbyn y byddwch yn bryderus ac yn teimlo’n anghysurus ar ddiwrnod yr arholiadau, ac er nad yw hynny’n ddymunol – mae’n naturiol ac mae’n iawn teimlo felly. Diffoddwch y switsh brwydro.

Mae’r hyn rydych chi’n ei ddisgrifio yma yn swnio’n debyg i ofn llwyfan, felly gadewch i ni ei alw’n ofn arholiad. Efallai bod gennych geg sych, gwddf tynn, dwylo chwyslyd, sigledig neu oer, cyfradd curiad calon cyflym, cyfog, ac efallai y byddwch chi’n dechrau crynu ychydig. Rydych yn teimlo’n nerfus ac yn anghyfforddus yn ôl pob tebyg a gallai eich meddwl fynd yn hollol wag. Mae ofn arholiad yn effeithio ar bawb mewn gwahanol ffyrdd. Efallai na fydd gan rai pobl fawr o bryder, os o gwbl, wrth eistedd mewn ystafell arholiad, ond gallai fod yn brofiad eithaf anodd i eraill. Dyma rai strategaethau ar gyfer delio â’r broblem gyffredin iawn hon y gellir ymdopi â hi!

Ychydig cyn yr arholiad:

  • Gwnewch rywbeth i ymlacio. Darllenwch hoff gerdd neu gwrandewch ar hoff gân.
  • Gwnewch ymarfer corff! Bydd mynd am dro cyflym yn cael ocsigen i’ch ymennydd ac yn eich atal rhag cynhyrfu.
  • Osgoi bwydydd a diodydd â chaffein fel siocled, diodydd pefriog a choffi. Ni fyddant yn rhoi gwir egni i chi, ond byddant yn cyflymu curiad eich calon ac yn dwysau eich pryder.
  • Yfwch lymeidiau bach o ddŵr ar dymheredd ystafell
  • Peidiwch â gorfodi eich hun i fwyta os nad ydych eisiau bwyd.
  • Tynhewch eich cyhyrau am ddeg eiliad, yna rhyddhewch a chanolbwyntiwch ar y teimlad o ymlacio. Dechreuwch gyda’ch traed a gweithio’ch ffordd i fyny at eich ysgwyddau.
  • Dychmygwch! Dychmygwch ba mor dda bydd yr arholiad, a dychmygwch eich hun yn teimlo’n hamddenol iawn yn ystod yr arholiad – hapus, parod, hyderus a digynnwrf!

Yn ystod yr Arholiad

Os ydych yn sylwi bod eich teimladau o banig yn dechrau eich llethu, cofiwch yr acronym STOPP a gwneud y canlynol:

STOP, peidiwch â gwneud unrhyw beth ar frys. Cymerwch saib.

Tawelu nerfau – sylwch ar eich anadl wrth iddo fynd i mewn ac allan.

Oedi – sylwch ar beth rydych chi’n ei feddwl. Pa eiriau sy’n dod i’ch meddwl? A ydyn nhw’n ddisgrifiadau neu’n werthusiadau, yn ddefnyddiol neu’n ddi-fudd?

Pwyllo. Rhowch bethau mewn persbectif. Pa gyngor fuaswn i’n ei roi i rywun arall? Pa ystyr ydw i’n ei roi i’r digwyddiad hwn i mi ymateb fel hyn?

Prosesu’r hyn sy’n gweithio.

Pethau eraill y gallwch eu gwneud gan gynnwys y canlynol.

  • Codi hwyl! Dweud ‘Galla’ i wneud hyn’ neu ‘Dwi’n deall hwn’ yn eich pen er enghraifft.
  • Anadlwch! Peidiwch â bod ofn cymryd saib a meddwl cyn gwneud penderfyniad.
  • O bryd i’w gilydd, cofiwch ymestyn ac ystwytho’ch gwddf – eistedd i fyny yn syth, edrych i’r nenfwd, cymryd ychydig o anadliadau dwfn, annog eich hun gyda geiriau calonogol a bwrw ymlaen.

Dymuniadau gorau,
Eleanor, Cwnsela Myfyrwyr

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.