More, Student Mentors, Student Stories

Kaiya: “pam y dewisais bod yn fentor i fyfyrwyr”

“Er mwyn llwyddo yn y farchnad swyddi ar ôl graddio, mae’n bwysig llwyddo yn eich gradd yn ogystal â datblygu eich sgiliau drwy gyfleoedd i gael profiad gwaith. Mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio’n benodol am sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm, arwain a rheoli amser. Mae’r cynllun Mentora Myfyrwyr yn gyfle gwych i ddatblygu’r fath sgiliau a chael profiad gwaith gwerthfawr mewn ffordd hyblyg a gwerth chweil.

Nid yn unig mae’r Cynllun Mentora’n cynnig sgiliau fydd yn eich helpu i gael swydd ar ôl graddio, mae’n cynnig y cyfle i ddangos cynnydd a datblygiad gyrfaol hefyd. Dechreuais i’r cynllun yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol, lle ces i hyfforddiant i fod yn Fentor Myfyrwyr a ches i fy ngrŵp o fentoreion fy hun o’r flwyddyn gyntaf. Es i ymlaen i gyflawni’r Dystysgrif Mentora Uwch, a defnyddiais i fy mhrofiad i gael fy swydd bresennol fel Prif Ymgynghorydd Mentora i Ysgol y Biowyddorau. Yn y swydd bresennol, rydw i bellach yn goruchwylio fy ngrŵp fy hun o Fentoriaid Myfyrwyr ac rwy’n cyfathrebu’n rheolaidd â’r Tîm Mentora.

Mae’r Cynllun Mentora hefyd yn cynnig y cyfle i chi helpu myfyrwyr y flwyddyn gyntaf drwy gynnig y gefnogaeth a’r cyngor allai fod eu hangen arnynt wrth ymsefydlu yn y brifysgol. Profiad gwerth chweil yw cael y cyfle i helpu myfyrwyr i deimlo’n fwy cyfforddus yn y brifysgol, gan gynnig rhwydwaith cefnogi amgen ar wahân i diwtoriaid a darlithwyr.

O gyflwyno cais i fod yn Fentor Myfyrwyr tan adael y Cynllun Mentora, mae’r Tîm Mentora’n cynnig cefnogaeth ddiddiwedd a’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch i deimlo’n hyderus yn eich rôl. Os ydych yn awyddus i wneud mwy na’r hyn a ddisgwylir gennych yn unig yn rhan o’ch gradd, ac rydych am helpu pobl eraill, gallai’r Cynllun Mentora fod yn iawn i chi!

Rydw i wir wedi mwynhau fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn rhan o’r Tîm Mentora, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd y mae wedi’u rhoi i fi.”

Rydym yn recriwtio Mentoriaid Myfyrwyr gwirfoddol newydd nawr!

Helpwch lasfyfyrwyr yn eich ysgol, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael tystysgrif! Chwiliwch am “Mentor Myfyrwyr” ar y fewnrwyd i gael gafael ar ddisgrifiad o’r rôl a’r ffurflen gais ar-lein a chyflwyno cais erbyn dydd Gwener 6 Mawrth. Mae’r holl fentoriaid myfyrwyr yn cael hyfforddiant llawn, goruchwyliaeth a chefnogaeth – rydym yma i’ch helpu yn eich rôl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig fydd yn dychwelyd i’r campws ym mis Medi 2020.

Kaiya,
Myfyriwr Gwyddorau Biofeddygol y 3edd flwyddyn (Ffisioleg), Ysgol y Biowyddorau

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.