Mae’r Hyrwyddwr Lles, Baz, yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol ar edrych ar ôl eich iechyd meddwl, a sut y gallwch chi gadw llygad ar eich ffrindiau.

“Mae llawer mwy o drafod wedi bod am iechyd meddwl ymysg dynion yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n anhygoel faint o bobl sydd wedi cynnig cefnogaeth i’w gilydd! Mae’n ffaith bod tua 60 o ddynion yr awr yn marw o hunanladdiad ledled y byd ac, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae hunanladdiad yn cynrychioli hanner yr holl farwolaethau treisgar ymysg dynion ledled y byd. Gall ein bywydau bob dydd fod yn anodd ar brydiau a gall fod yn straen ar ein lles ein hunain pan nad oes gennym rywun i droi ato. Y newyddion da yw bod yna bobl sydd yma i helpu.
Cadw’n Ddiogel
Mae digwyddiadau rhithwir Iechyd a Lles yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys gweithdai diogelu rhag hunanladdiad. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i gefnogi eraill a allai fod mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. Mae’r gweithdai tua dwy awr o hyd ac yn cael eu cynnal ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth yma am gymryd rhan yn y sesiynau.
Cefnogi Myfyrwyr
Mae’r Timau Cwnsela a Lles ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd ar gael i helpu myfyrwyr sydd angen cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl. Maent yn darparu adnoddau hunangymorth sy’n rhoi cefnogaeth a strategaethau ymdopi ar sut i reoli gorbryder, hwyliau isel, straen a llawer o anawsterau eraill. Mae yna hefyd weithdai wedi’u recordio ymlaen llaw ar gael ar unrhyw adeg ar amrywiaeth o bynciau. Mae Hyrwyddwyr Lles hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth gan gyfoedion trwy greu cynnwys fel blogiau, fideos a chael presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol y Brifysgol.
Ar ben hyn, mae Cefnogi Myfyrwyr hefyd yn bwriadu adfer y gwasanaeth galw heibio ar gyfer eich lles dyddiol yn rhithiol ar gyfer pob myfyriwr sydd angen cefnogaeth, cyngor iechyd meddwl neu wybodaeth ar sut i gael cymorth cwnsela a lles pellach. Gallwch gysylltu a chofrestru ar gyfer cwnsela ar-lein neu apwyntiadau lles heddiw. Pan fydd adeiladau’n ailagor, gallwch ddod o hyd i Gefnogi Myfyrwyr yn 50 Plas y Parc yn Cathays neu Tŷ Aberteifi ym Mharc y Mynydd Bychan.
Elusen Tashwedd
Mae cymunedau o bob cwr o’r byd yn dod ynghyd i gefnogi cymorth iechyd meddwl yn union fel y gwaith anhygoel a wnaed gyda Tashwedd. O dyfu mwstas i ddringo mynyddoedd, mae’r elusen wedi parhau i gefnogi iechyd meddwl dynion ers 17 mlynedd ac yn rhannu ffyrdd hwyliog a chyffrous o godi arian tuag at ymwybyddiaeth iechyd meddwl. I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn neu os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan eich hun, edrychwch ar Tashwedd!
Pedair ffordd i gadw llygad ar eich ffrindiau
1. Gofyn
Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw beth gwahanol yn ddiweddar? Efallai nad ydyn nhw wedi bod yn ymddwyn yn naturiol? Cysylltwch i ofyn sut ydyn nhw ac a oes unrhyw beth yn eu poeni. Dilynwch eich greddf naturiol oherwydd weithiau rydyn ni’n dweud “Rwy’n iawn” pan nad ydyn ni. Peidiwch â bod ofn gofyn ddwywaith i wneud yn siŵr.
2. Gwrando
Rhowch eich sylw llawn i’ch ffrind a dangoswch eich bod chi’n gwrando. Nid oes angen i chi roi cyngor na theimlo bod yn rhaid i chi gynnig atebion, bydd bod yn barod i wrando yn golygu llawer iddyn nhw. Atgoffwch nhw eich bod chi’n gwrando trwy ofyn cwestiynau dilynol a rhoi sicrwydd cyson.
3. Annog gweithredu
Dylid cynnig syniadau syml a allai wella eu hwyliau a’u lles. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o gael mwy o gwsg, mwy o ymarfer corff neu os oedd rhywbeth a helpodd eich ffrind o’r blaen. Anogwch nhw i siarad ag eraill am sut maen nhw’n teimlo ac os ydyn nhw wedi teimlo’n isel am fwy na phythefnos, awgrymwch help proffesiynol.
4. Cadw mewn Cysylltiad
Gorffennwch y sgwrs trwy awgrymu eich bod yn dal i fyny eto’n fuan. Hyd yn oed os nad ydych yn gallu eu gweld yn bersonol, ffoniwch nhw neu anfonwch neges atynt. Bydd hyn yn eich helpu i weld a ydyn nhw’n gwella o gwbl ac yn dangos eu bod nhw’n bwysig i chi. Os ydych chi’n poeni bod bywyd rhywun mewn perygl ar unwaith, cysylltwch yn uniongyrchol âr gwasanaethau brys.
Cofiwch werth eich bywyd
Yn y cyfnod rhyfedd hwn, mae yna lawer o resymau pam y gallai’r bobl rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw fod yn ofidus. Mae’n bwysig i ni ddeall nad ydym byth ar ein pennau ein hunain ac mae pobl yno pob amser i’n helpu pan fydd ei angen arnom. Peidiwch ag oedi cyn gweithredu os credwch fod gennych ffrind sydd angen cymorth â’u hiechyd meddwl. Anogwch eraill i gysylltu a chofrestru ar gyfer cwnsela ar-lein neu apwyntiadau lles heddiw. Byddwch yn ddiolchgar ac yn garedig wrth eich gilydd a chofiwch fod dyddiau gwell i ddod!”