Mae Lowri Pitcher yn dweud wrthym am ei mewnwelediad ar y Campws gyda’r tîm Bywyd Preswyl yma yn y Brifysgol.


Beth yw eich interniaeth?
Roedd yr interniaeth yn cynnwys cysylltu â chwmnïau lleol i drefnu talebau/nwyddau rhad ac am ddim ar gyfer myfyrwyr sy’n symud i breswylfeydd eleni. Yn ystod yr wythnosau olaf bûm yn cyfieithu nifer o erthyglau’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Disgrifiwch
Beth wnaeth eich denu at yr Interniaeth?
Roeddwn yn awyddus i gael profiad gwaith gweinyddol, yn enwedig cael y cyfle i weithio gartref. Mae gen i radd cyfieithu felly roedd y cyfle posib i wneud cyfieithiadau mewn amgylchedd gwaith go iawn yn apelio.
Gan eich bod wedi gorfod gwneud rhan o’r lleoliad hwn o bell, sut ydych chi wedi ymdopi â gweithio gartref? Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwneud lleoliad o bell?
Roedd y tîm Bywyd Preswyl yn hynod groesawgar, a chawsom sesiynau gwirio dyddiol a chyfarfodydd tîm wythnosol. Roeddwn i’n teimlo y gallwn ofyn unrhyw gwestiynau neu gysylltu â rhywun o’r tîm pryd bynnag y bo angen. Roedd hi’n rhwydd cadw’n frwdfrydig gartref gan fy mod wedi arfer gweithio’n annibynnol. Yr unig elfen negyddol oedd y byddai wedi bod yn fwy effeithiol i mi ymweld â’r cwmnïau lleol er mwyn cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Gallai hyn fod wedi arwain at gael mwy o dalebau/cytundebau.
Disgrifiwch eich profiad o weithio mewn adran ym Mhrifysgol Caerdydd
Roedd y tîm yn hynod groesawgar a chyfeillgar. Roeddwn i’n teimlo fel aelod o’r tîm er nad oeddwn i wedi cwrdd ag unrhyw un wyneb yn wyneb. Roedd y tîm yn ystyriol iawn pan oedd yn rhaid i mi gyfnewid diwrnod neu ddau ac roeddent yn awyddus iawn i hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
Sut gwnaethoch chi elwa o’r interniaeth?
Cefais gipolwg ar fyd gweithio o bell, ynghyd â digon o brofiad gweinyddol/ cysylltiadau cyhoeddus/ ymholiadau cwsmeriaid. Mae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella trwy gysylltu â nifer o gynrychiolwyr cwmnïau a llwyddais i sicrhau cytundebau gyda chwmnïau amrywiol (gan gynnwys rhoddion am ddim, gwobrau a thalebau).
A fyddech chi’n argymell cwblhau interniaeth drwy adran Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol Tîm Profiad Gwaith?
Byddwn, o’r cychwyn cyntaf, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael cefnogaeth dda iawn ac roeddwn i’n gwybod y gallwn ofyn am gymorth pe bai angen. Cysylltwyd â mi trwy ebost a ffôn a chefais yr holl wybodaeth yr oeddwn yn ei hystyried yn angenrheidiol.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.