Helo bawb, Clare ydw i, myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio Hanes yr Henfyd. Rydw i hefyd yn fentor myfyrwyr.

Mae’r cynllun mentoriaid myfyrwyr yn paru myfyrwyr blwyddyn gyntaf (mentoreion) â mentoriaid o’r un Ysgol academaidd (ceir mentoriaid ym mhob ysgol heblaw am Bensaernïaeth). Neilltuir grŵp bach o fentoreion i bob mentor ac maen nhw’n cwrdd yn rheolaidd i drafod ystod eang o bynciau, fel:
- disgwyliadau’r cwrs a ffyrdd newydd o astudio
- dod o hyd i’r ffordd o gwmpas eich Ysgol
- ymgartrefu yn y neuaddau
- cyllidebu
- cyfleoedd a ffyrdd o gymryd rhan
- a llawer mwy!
Dyma rai o fy awgrymiadau ardderchog ar gyfer wythnos y glas:
👩🎓 Defnyddiwch eich mentor myfyrwyr! Mae’n gynllun gwych ac yn ddefnyddiol iawn. Byddan nhw’n eich helpu i ymgartrefu ym mywyd y Brifysgol ac mae’n lle da i fynd i ofyn unrhyw gwestiynau. Dylech chi fynd i’r cyfarfodydd – byddwch yn falch iawn eich bod wedi mynd iddynt.
💰 Ceisiwch beidio â gwario’n wyllt pan ddaw eich benthyciad i mewn!
✍ Peidiwch â phoeni am y gwaith nes i chi ei gael – nid yw poeni ymlaen llaw yn mynd i helpu.
🙋 Byddwch yn gwneud ffrindiau – mae pawb yn yr un cwch.
🤺 Edrychwch ar y ffeiriau gwirfoddoli a chymdeithasau – mae bob amser yn syniad da ymuno â chymdeithas neu ddwy. Maen nhw’n ffordd wych o gael hwyl a chwrdd â phobl newydd o bob rhan o’r Brifysgol!
📧 Cadwch olwg ar eich negeseuon ebost-dyma’r brif linell gyfathrebu rhyngoch chi a’ch darlithwyr.
📋 Rwy’n gwybod ei fod yn swnio’n syml ond…gwnewch nodiadau mewn darlithoedd. Gwnewch beth bynnag sy’n gwneud i chi deimlo’n gyfforddus – ysgrifennu â llaw neu deipio; chi sy’n dewis. Caiff rhai darlithoedd eu recordio er mwyn i chi allu eu gwylio ryw dro arall, ond nid pob un. Holwch eich darlithydd a yw hyn yn digwydd.
🏙️ Ewch allan i weld y ddinas. Rydyn ni’n lwcus iawn i gael cymaint o’n cwmpas, felly cymerwch beth amser i’w weld. Rwy’n argymell yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Castell (rydych yn gymwys i gael Allwedd i’r Castell fel myfyriwr yma). Cewch ragor o wybodaeth yma: https://www.castell-caerdydd.com/allwedd-y-castell/?force=2
🛌🥗 Mynnwch rywfaint o gwsg a bwytewch eich ffrwythau a’ch llysiau! Cadwch ffliw’r Glas-fyfyrwyr draw fwyta’n dda, cael digon o gwsg a fitaminau.
📚 Edrychwch ar eich rhestrau darllen a’ch llawlyfrau modiwl.
☎ Cadwch mewn cysylltiad â’r cartref.
☑ Cynlluniwch eich amser – gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd ac yn rhoi digon o amser i chi eich hun orffen eich asesiadau. Bydd hefyd yn helpu i’ch cadw ar y trywydd iawn ac i leihau llusgo traed.
⏰ Gosodwch larymau/nodau i helpu i gynllunio eich diwrnodau ac i’ch cadw ar y trywydd iawn. Nid yw hyn yn gweithio i bawb ond dylech ddod o hyd i’r ffordd sydd orau i chi fel eich bod yn cyrraedd eich nodau dyddiol/wythnosol.
💰 Os ydych chi’n poeni am arian – cofrestrwch gyda’r Siop Swyddi er mwyn cael gwaith trwy’r Undeb. Mae’n ffordd wych o gael gwaith achlysurol. Ewch ymlaen i cardiffstudents.com ac edrychwch ar y Siop Swyddi.
Diolch am ddarllen! Rwy’n edrych ymlaen at eich croesawu i gyd i Gaerdydd gyda’n tîm mentora anhygoel. Dymuniadau gorau i chi eleni!
Clare, Mentor Myfyrwyr
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.