Medrwch elwa gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch o’ch Ffair Yrfaoedd Rhithwir!

I ddechrau, fel y mwyafrif o bobl, pan glywais y geiriau ‘ffeiriau gyrfaoedd rhithwir’ roeddwn yn rhagweld y byddwn yn eistedd sgrin wrth sgrin gyda darpar gyflogwr, heb wybod beth i’w ddweud ac yn colli fy Wi-Fi neu bydd fy ngliniadur yn torri. Fodd bynnag, po fwyaf y meddyliais am y syniad, y mwyaf y dechreuais hoffi’r cysyniad a hyd yn oed ei ffafrio.
Mae fy mhrofiad o Ffeiriau Gyrfaoedd hyd yma yn cynnwys crwydro’n ddi-nod o amgylch neuadd enfawr yn llawn stondinau cyflogwyr a miloedd o fyfyrwyr yr un mor ddryslyd, yn ceisio cario llwyth o nwyddau rhad ac am ddim a chwysu’n ddibaid. Yn y pen draw roeddwn yn colli amynedd ac yn cynhyrfu cymaint yna’n gadael ar fyrder. Doedd dim byd gwaeth na cherdded i ffair yrfaoedd tra ei bod yn arllwys y glaw, yna gorfod ymlwybro o amgylch yn cario eich cot a’ch ymbarél gwlyb trwm, socian, ac yn eu bwrw’n gyson i mewn i fyrddau a phosteri wrth i chi ymdrechu i godi’ch 15fed beiro.
Mae rhywbeth at ddant pawb yn y Ffair Yrfaoedd Rhithwir!
rhwydweithio a gofyn cwestiynau. Fodd bynnag, i ddechrau roeddent yn eithaf brawychus a dryslyd. Mae Ffair Gyrfaoedd Rhithwir ar y llaw arall yn cynnig cyfle i bob myfyriwr ofyn cwestiynau uniongyrchol i gyflogwyr a derbyn atebion un i un os ydynt eisiau. Os nad yw hyn yn apelio atynt, mae cyfle i fyfyrwyr nawr fynd i gyflwyniad, neu sesiwn Holi ac Ateb a gwrando ar gwestiynau pobl eraill yn dawel gyda’u camera i ffwrdd! Nid oes cymaint o bwysau i baratoi cwestiynau ymlaen llaw neu i fynd i siarad yn uniongyrchol â chyflogwr i gael eich atebion. Mae’r amgylchedd ar-lein hwn, yn fy marn i, yn llawer mwy cynhwysol ac addysgiadol i’r holl fyfyrwyr, waeth pa mor hyderus ydyn nhw neu ar ba gam yn nhaith eu gyrfa. Mae Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithwir yn fuddiol i’r rheini na fyddent efallai’n teimlo mor hyderus yn mynd at gyflogwyr mewn neuadd brysur sy’n llawn myfyrwyr eraill neu’r rhai nad oes ganddynt yr amser i sefyll o gwmpas yn aros i gyflogwyr fod yn rhydd i sgwrsio. P’un a ydych am wrando ar gyflwyniadau gan gyflogwyr a sesiynau Holi ac Ateb i weld a yw eu proffesiwn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud, neu a ydych am ofyn cwestiynau i gyflogwr rydych yn awyddus i weithio gydag ef ar sut i ragori yn eu proses ymgeisio ar-lein, gall ffeiriau gyrfaoedd rhithwir gynnig popeth sydd ei angen arnoch chi a mwy! Heb sôn, ni fyddwch yn chwysu yn y broses.
Gall cyflogwyr o bob rhan o’r wlad (neu ymhellach) fod yn bresennol!
Mae Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithwir hefyd yn cynnig rhywbeth arall sydd, yn fy marn i, yn eu gwneud llawer yn well na ffair nodweddiadol. Gall cyflogwyr o bob rhan o’r wlad (neu ymhellach) fod yn bresennol! Yn flaenorol, roedd yr amrywiaeth o gyflogwyr a oedd yn bresennol yn dibynnu ar eu gallu i deithio, gan olygu bod y mwyafrif o gyflogwyr yn lleol. Nawr gall unrhyw gyflogwr o bob cwr o’r wlad fod yn bresennol. Mae hyn yn fantais fawr i fyfyrwyr gan ystyried nad yw’r mwyafrif ohonynt yn dod o dref y Brifysgol yn wreiddiol ac nad ydynt i gyd am aros yno ar ôl graddio. Nawr, mae Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithiol yn lle i rwydweithio o bosibl gyda chyflogwyr o unrhyw le yn y DU ac mae myfyrwyr yn gallu dod i gysylltiad rhithwir ag ystod eang o gyflogwyr na fyddent wedi gallu cwrdd â nhw o’r blaen. Mae hyn ar yr un pryd yn ehangu eich ymwybyddiaeth fasnachol a’ch rhagolygon gyrfa, oherwydd po fwyaf o gyflogwyr rydych chi’n eu hadnabod yn eich diwydiant, y mwyaf o siawns sydd gennych chi o ddod o hyd i leoliad gwaith.

Mae’n haws cael gafael ar wybodaeth!
Mae cyflogwyr mewn Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithwir yn rhoi cyflwyniadau ac yn cynnal sesiynau Holi ac Ateb, yn cynnig awgrymiadau defnyddiol ar gyfer llwyddo yn eu proses ymgeisio a sut i wneud argraff mewn cyfweliadau. Yn fy marn i, mae’n ymddangos bod cyflogwyr yn cynnig llawer mwy i fyfyrwyr yn ystod y Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithiol na chefais i yn y ffeiriau blaenorol. Mae’n ymddangos ei bod yn fwy tebygol y bydd cyflogwyr yn cyflwyno’u hunain ac yn rhoi cyflwyniad llawn gwybodaeth am y cwmni yn ystod Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithiol. Efallai y byddant hefyd yn cynnal sesiwn ar y ffordd orau i wneud argraff yn ystod y broses ymgeisio. Felly, p’un a ydych chi’n gwybod yn union yr hyn y mae’r cyflogwr penodol hwnnw’n hysbys amdano ai peidio, rydych chi wedi cael llawer mwy o wybodaeth gwerthfawr o’r sesiwn rithwir honno na ches i erioed mewn ffair gyrfaoedd gyffredin.
Mae’n hawdd!
Er ei bod yn bwysig sicrhau bod gennych gysylltiad Wi-Fi sefydlog a thocyn rhithwir, mantais fawr Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithiol yw pa mor hawdd yw mewngofnodi i’ch cyfrifiadur yng nghysur eich cartref eich hun (ac efallai yn eich PJs!) a chael yr holl wybodaeth rydych ei angen yn cael ei gyflwyno o’ch blaen. Efallai y bydd angen mwy o baratoi ar gyfer Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithwir gan fod angen gwybod faint o’r gloch mae sesiynau’r cyflogwyr sydd o ddiddordeb i chi a sicrhau eich dolen, cyn meddwl am y cwestiynau yr ydych yn dymuno eu gofyn, ond mi ddylech fod wedi bod yn paratoi ar gyfer Ffair Yrfaoedd cyn-COVID mewn ffordd debyg. Yn fy marn i, unwaith y byddwch chi yng nghanol y Ffair Yrfaoedd Rhithwir, mae’n brofiad llawer haws a llawer mwy hamddenol!
Mae’n rhaid i chi fod yn drefnus i elwa ar Ffair Yrfaoedd Rhithwir, ond ar ôl i chi ddechrau bydd gennych chi gymaint mwy o gyfleoedd i lwyddo ar-lein nag a gawsoch erioed o’r blaen! Mae rhywbeth at ddant pawb mewn Ffair Yrfaoedd Rhithwir a gallwch chi reoli eich profiad a manteisio ar yr hyn rydych eisiau elwa o’r dydd! Yr unig beth negyddol am Ffair Yrfaoedd Rhithwir yw y bydd yn rhaid i chi brynu nifer o beiros ar gyfer y Brifysgol eleni!
Ella James
Myfyriwr Graddedig Almaeneg a Hanes yr Henfyd, 2020.

Mae Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Caerdydd yn cynnal arddangosfeydd (ffeiriau gyrfaoedd rhithwir) trwy gydol tymor yr Hydref. Dysgwch ba gyflogwyr fydd yn bresennol a chadwch eich lle yn y sesiynau byw yn ystod ein Arddangosfa STEM ac Arddangosfa’r Gyfraith. Os gwnaethoch fethu arddangosfa’r Hydref, peidiwch â phoeni, gallwch gael mwy o wybodaeth am gyflogwyr oedd yn bresennol, cyfleoedd gwaith a gwylio sesiynau wedi’u recordio ar Taith eich Gyrfa.
Chwiliwch drwy’r ffeiriau a’r digwyddiadau ar y fewnrwyd i gael rhestr lawn o ddigwyddiadau cyflogwyr ar-lein dros yr ychydig wythnosau nesaf, a chofiwch ymweld â’n bwrdd swyddi i weld swyddi gwag a manylion am gynlluniau a lleoliadau newydd i raddedigion ar gyfer 2021!