Mae Lily yn dweud wrthym am ei hinterniaeth ar y campws gyda’r ganolfan cynnal addysg a’r arloesedd a sut mae’n helpu i roi hwb i’w chyflogadwyedd.

Beth oeddech chi’n ei wneud ar leoliad?
Mae fy lleoliad yn cynnwys helpu i werthuso data’r Arolwg Cenedlaethol o fyfyrwyr a gwerthuso timau Hyrwyddwyr myfyrwyr, gan gynnwys helpu i strwythuro eu gwaith ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, strwythur hyrwyddiadau eu gweithgarwch a gwerthuso sut mae eu gwaith ei gyfleu

Beth wnaeth eich denu at yr interniaeth?
Rwyf wastad wedi bod gyda diddordeb mewn gweithio i’r Brifysgol ac rwy’n ystyried bod ymgysylltu â myfyrwyr yn rhan bwysig o fywyd prifysgol. Roeddwn i hefyd yn chwilio am gyfle i wella fy CV cyn gwneud ceisiadau am swydd yn y dyfodol. Yn ystod fy ngradd, es i ar leoliad ym maes cadwraeth. Er i mi fwynhau’r flwyddyn dydw i ddim yn bwriadu mynd ar drywydd gyrfa yn y maes, felly roeddwn yn gobeithio y byddai’r interniaeth hon yn fy helpu i nodi meysydd gwaith yr oeddwn yn eu mwynhau ac eisiau eu hystyried.
Disgrifwch eich profiad o weithio ym mhrifysgol caerdydd
Cefais brofiad cadarnhaol dros ben – mae’r staff yn gyfeillgar a chynorthwyol ac wedi rhoi llu o gyfleoedd i mi gael profiad o amrywiaeth o dasgau. Maent yn rhoi adborth defnyddiol ac rwy’n teimlo fel eu bod yn gwerthfawrogi fy ngwaith.
Sut gwnaethoch elwa o’r interniaeth?
Rydw i wedi cael profiad o weithio mewn swyddfa. Fe wnaeth fy nealltwriaeth o Microsoft Outlook ac One Drive wella a chefais gyfleoedd i ddatblygu fy ngallu i weithio’n annibynnol ac mewn tîm. Drwy’r interniaeth, cefais brofiad gwahanol o reoli amser y tu allan i fy myd fel myfyriwr, gan gynnwys trefnu a mynd i gyfarfodydd.
A fyFyddech chi’n argymell cwblhau interniaeth drwy gyraoedd a chyflogadwyedd?
Byddwn – bydd y sgiliau yn gwella fy CV, rwy’n cael amser da ac mae’n fy helpu i nodi meysydd gwaith yr hoffwn eu hystyried.
Lily Ginns, Blwyddyn Olaf, BSc Bioleg
Gwneud i 2020 gyfrif i chi!
Mae profiad gwaith yn rhan bwysig o daith eich gyrfa, Mae’n rhoi dealltwriaeth i chi o’r diwydiant o’ch dewis ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i wneud argraff ar ddarpar gyflogwyr.
I gael gwybod mwy am sut gallwn eich helpu, ewch i adran ‘Eich dyfodol’ y fewnrwyd a pharatowch ar gyfer eich profiad gwaith gyda’r Pecyn Profiad Gwaith.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.