Mae SYNIAD yn cael ei lansio unwaith eto eleni i helpu myfyrwyr i fod yn arloeswyr drwy ddatblygu eu syniadau a’u hyder. Hefyd, cewch gyfle i ennill iPad newydd sbon a gwobr ariannol!

Cystadleuaeth SYNIAD
(Yn agored i fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)
Mae SYNIAD 2020 yn gystadleuaeth syniadau sydd wedi’i chynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr rannu syniad a allai greu newid mawr.
Rydym wedi ymuno â Chanolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (http://cast.ac.uk) i wahodd myfyrwyr i rannu syniad fyddai’n gwella un o’r meysydd canlynol:
- Bwyd a Deiet
- Defnydd o ddeunyddiau
- Cludiant a symudedd
- Gwresogi ac oeri
Dyma’ch cyfle i darfu ar y drefn arferol mewn ffordd nad oes unrhyw un arall yn ei wneud ar hyn o bryd. Dychmygwch …… .. efallai mai eich syniad chi fydd y datblygiad PWYSIG nesaf! Mae’n bendant yn werth rhoi cynnig arni!
Gwobrau’r gystadleuaeth
Os nad yw rhannu eich syniad anhygoel yn eich cynhyrfu ddigon am gystadlu yn y gystadleuaeth hon, beth am y cyfle i ennill ipad newydd sbon? Dyma’r wobr a fydd yn cael ei dyfarnu i’r enillydd, ynghyd â £100 o arian parod!
Rhesymau dros gystadlu
Dyma’ch cyfle i:
- Arddangos eich sgiliau
- Lansio syniad busnes newydd sydd ag effaith amgylcheddol
- Ysbrydoli a sbarduno newid
- Cyfle i ennill iPad newydd sbon
Mae datblygu syniadau pwerus a gallu eu rhannu mewn ffordd ysbrydoledig yn sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen ym mhob rhan o gymdeithas, gwaith a busnes.
Dyma oedd profiad Monia Kurnicka. Roedd hi’n un o enillwyr y llynedd:

Roedd cystadleuaeth Syniad yn her ddiddorol i mi. Dyma’r tro cyntaf i mi sefyll o flaen y camera i egluro fy syniad busnes, ond darparwyd yr holl ddeunyddiau gan dîm Menter Prifysgol Caerdydd. Fe wnaeth hyn fy helpu i gyfuno fy syniadau am Foodito a’u rhannu ag eraill mewn ffordd hawdd. Rhoddodd y cyfle i mi fagu hyder i gyflwyno fy syniad mewn ffordd oedd yn hawdd i bawb ei ddeall. Hefyd, enillais ychydig o arian. Defnyddiais i hwn i fynd i’r Uwchgynhadledd Cynaliadwyedd ym Mharis i ddatblygu fy syniad ymhellach.
Cefais lawer o hwyl yn datblygu syniad o’r dechrau hyd at brosiect go iawn. Fe wnaeth yn bendant wella fy nealltwriaeth o entrepreneuriaeth a busnes ar lefel fwy ymarferol.
Rwy’n credu ei bod yn fuddiol iawn i unrhyw un gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae’n gyfle gwych i weithio ar syniad busnes ond hefyd i feddwl am gynaliadwyedd, sy’n hanfodol ym myd busnes ar hyn o bryd.
Parod i wneud cais? Dyma sut…..
- Oes gennych chi syniad?
- Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut i gystadlu yn sdi.click/syniad
- Cyflwynwch eich syniadau mewn fideo 5 munud
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Mawrth, 2021.
I gael cefnogaeth i ffurfioli’ch syniad, cliciwch yma i ddod o hyd i’ch hyrwyddwr menter leol https://businesswales.gov.wales/bigideas/our-support/enterprise-entrepreneurship-college-and-university
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cydfyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.