Mae’n eithaf arferol teimlo ychydig yn nerfus wrth feddwl am wneud arholiad, ond y newyddion da yw, gyda’r awgrymiadau hyn, gallwch ddechrau tymor yr arholiadau yn teimlo’n barod ac mewn rheolaeth. O oedi, i gynllunio, i’ch perfformiad mewn arholiad, dyma rai strategaethau ymarferol i’ch rhoi ar ben ffordd.

Bod yn Drefnus – 5 Awgrym Ardderchog
- Wrth asesu myfyrwyr, rydym eisiau gwybod i ba raddau mae eich gwaith yn dangos eich bod chi wedi bodloni deilliannau dysgu y modiwl, felly ymgyfarwyddwch â’r rhain.
- Mae angen i chi wybod y wybodaeth hanfodol am yr arholiad – ble, pryd a beth sydd i’w ddisgwyl gennych.
- Byddwch yn drefnus. Trefnwch adnoddau electronig a chopi caled a gwnewch yn siŵr bod gennych ofod y gallwch weithio ynddo na fydd yn tynnu eich sylw.
- Mae’n rhaid i chi gofio cynnwys eich nodiadau ac adnoddau eraill, felly dechreuwch grynhoi eich nodiadau fel eu bod yn gryno a bod modd eu cofio’n hawdd.
- Ewch i ddarlithoedd adolygu gan y byddant yn cynnwys gwybodaeth werthfawr, a defnyddiwch hen bapurau arholiad os ydynt ar gael.
Gwneud Amserlen Adolygu – 5 Awgrym Ardderchog
- Rhaid i chi wybod pa bynciau rydych chi’n mynd i’w hadolygu, pa rai rydych yn gwybod y mwyaf amdanynt, a ble mae’r bylchau yn eich gwybodaeth. Dylai hyn ddylanwadu ar faint o amser y dylech ei neilltuo i astudio bob pwnc. Gwnewch restr o’r holl bynciau sydd angen i chi eu hadolygu.
- Rhwystr cyffredin i adolygu llwyddiannus yw oedi. Felly gofynnwch; ydy’r gwaith yn rhy anodd, diflas, llethol? Rhannwch bob pwnc yn ddarnau neu’n dasgau hwylus oherwydd bydd y gwaith yn teimlo’n llai brawychus o ganlyniad.
- Un o’r prif resymau pam mae amserlenni yn methu yw bod pobl yn tanbrisio pa mor hir y bydd yn ei gymryd i wneud pob tasg. Ewch yn ôl at eich rhestr o bynciau eto ac amcangyfrif pa mor hir y bydd yn ei gymryd i chi adolygu pob un o’r pynciau sydd wedi’u rhestru.
- Blaenoriaethwch y gwaith; rhaid i chi wybod yn union beth sydd angen i chi ei wneud, pa mor hir y bydd yn ei gymryd a gwneud yn siŵr nad ydych chi’n gwastraffu amser ar dasgau diangen. (DS: Mae cysgu, bwyta a gorffwys yn hanfodol ac mae angen cynnwys y rhain hefyd!)
- Nawr, ewch ati i lunio amserlen realistig sydd â blaenoriaethau a chynllun, ac sy’n seiliedig ar dasgau ac amser. Rhowch nodau i’ch hun bob dydd a neilltuo amser ar gyfer cymryd egwyl, cysgu ac amser bwyta.

Adolygu – 10 Awgrym Ardderchog
- Gwnewch amserlen adolygu a’i harddangos, rhowch drefn ar eich man astudio a chadwch eich nodiadau ac adnoddau wrth law. Cadwch at eich amserlen a neilltuwch eich amser ar gyfer adolygu.
- Rhaid i chi gofio eich nodiadau adolygu, felly:
Defnyddiwch eich geiriau eich hun – mae hyn yn helpu gyda dealltwriaeth a chofio
Byddwch yn gryno – geiriau allweddol, pwyntiau bwled, rhestrau, penawdau, cofeiriau
Amlygwch y wybodaeth – posteri, lliwiau, tablau, siartiau, diagramau, mapiau meddwl, cardiau fflach - Astudiwch am gyfnodau byr o amser. Defnyddiwch larymau er mwyn eich atgoffa i gymryd seibiant a dychwelyd at yr adolygu ar ôl i’ch egwyl ddod i ben.
- Rhaid dysgu’r wybodaeth ar gof. Bydd ailadrodd ac ymgysylltu â’r cynnwys yn helpu gyda hyn, felly rhaid: darllen, ailddarllen, arddangos, adrodd, ymarfer, a chwestiynu eich hun wrth i chi ddysgu.
- Ar gyfer traethodau neu atebion hir, rhaid i chi adnabod themâu a theorïau a sut y gellir eu cymhwyso mewn gwahanol sefyllfaoedd, o wahanol safbwyntiau a beth yw’r dystiolaeth o blaid ac yn erbyn pob theori.
- Ar gyfer atebion ffeithiol, rhaid i chi wybod y ffeithiau a sut i’w cymhwyso, felly mae ailadrodd ac arddangos gwybodaeth, a chwblhau cwestiynau ymarfer yn hanfodol.
- Profwch eich hun a gofynnwch gwestiynau wrth adolygu, edrychwch ar yr hyn rydych yn ei ddysgu o wahanol safbwyntiau. Edrychwch ar y darlun ehangach. Defnyddiwch y wybodaeth.
- Defnyddiwch hen bapurau a / neu feddwl am gwestiynau. Mae hyn yn herio eich dealltwriaeth o’r pwnc, yn ffocysu eich meddwl, yn eich cyflwyno i sut y mae papurau arholiad yn edrych a sut y cânt eu geirio.
- Lluniwch atebion enghreifftiol i gwestiynau cyffredin drwy; ysgrifennu ateb o dan amodau arholiad, creu map meddwl, cynllunio neu lunio eich ateb ar lafar. PEIDIWCH â dysgu traethawd cyfan ar gof. Mae’r tebygolrwydd y bydd yr un cwestiwn yn union yn codi yn fach iach ac mae’n rhaid i chi feddwl yn feirniadol wrth astudio. Cofiwch, mae’r arholwr eisiau gweld sut ydych yn cymhwyso’r wybodaeth sydd gennych, nid yr hyn rydych chi’n ei gofio yn unig.
- Cyn yr arholiad, cynlluniwch eich amser. Rhaid i chi wybod:
Hyd yr arholiad
Pa mor hir y byddwch yn treulio yn darllen y papur arholiad ac yn dewis pa gwestiynau i’w hateb
Pa mor hir y byddwch chi’n treulio yn cofnodi syniadau ac yn cynllunio
Ar y diwedd, pa mor hir y byddwch chi’n treulio yn gwirio atebion ac yn prawfddarllen
Nawr, cyfrifwch faint o amser sydd gennych i ateb bob cwestiwn.
Perfformiad yn yr Arholiad – 10 Awgrym Ardderchog
- Cyrhaeddwch yn gynnar
- Amseru: rhaid i chi wybod faint o amser sydd gennych i ateb bob cwestiwn a sawl marc a gaiff ei roi am bob cwestiwn neu adran o gwestiwn.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau a’r cwestiynau yn ofalus. Dewiswch ba gwestiynau y byddwch yn eu hateb. Darllenwch y cwestiwn yna ailddarllenwch y cwestiwn, gan danlinellu geiriau allweddol ac unrhyw gyfarwyddiadau.
- Meddyliwch. Gofynnwch i’ch hun beth mae’r cwestiwn yn ei ofyn mewn gwirionedd. Cofiwch nad yw arholiadau yn profi eich gwybodaeth yn unig ond sut ydych yn cymhwyso’r wybodaeth honno. (DS: Aralleiriwch deitl y traethawd trwy ei droi yn gwestiwn go iawn.)
- Taflu syniadau – Ysgrifennwch eich syniadau ar bapur – prif bwyntiau, cyfeiriadau, ac ati. Cofiwch feddwl yn gritigol, beth yw’r prif themâu, y rhesymeg, a’r dystiolaeth?
- Cynlluniwch eich atebion arholiad – paratowch a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ateb y cwestiwn a ofynnwyd.
- Ysgrifennwch eich traethawd. Strwythur clir – cyflwyniad – prif gorff – casgliad. Atebwch y cwestiwn a osodwyd a defnyddiwch gonfensiynau ysgrifennu academaidd.
- Ar gyfer atebion ffeithiol neu amlddewis, gweithiwch yn gyflym a gwnewch nodyn yn yr ochr o unrhyw gwestiynau rydych chi’n cael trafferth â nhw. Gweithiwch eich ffordd trwy’r papur ac yna ewch yn ôl at unrhyw gwestiynau cymhleth neu rhai heb eu hateb ar y diwedd.
- Pan fydd eich amser wedi dod i ben ar gyfer pob ateb, rhowch y gorau i ysgrifennu a symud ymlaen at y cwestiwn nesaf! Ni fyddwch yn cael cynifer o farciau ar gyfer 2 ateb gwych os oedd angen i chi ateb 3 cwestiwn!
- Gwiriwch eich papur a’i brawfddarllen i wneud yn siŵr bod eich atebion yn llifo’n rhwydd ac yn gwneud synnwyr, eu bod yn ateb y cwestiynau a ofynnwyd ac nad oes gwallau sylfaenol ynddynt.
Dolenni perthnasol:
Dosbarthiadau datblygu sgiliau
Awgrymiadau ynghylch sut i ymdopi â phryder cyn ac yn ystod arholiadau
Gwasanaeth lles galw heibio
Adnoddau hunangymorth
Dymuniadau gorau,
Ann, Rheolwr Sgiliau Astudio Academaidd

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.