Eleanor o’r tîm Cwnsela Myfyrwyr yn ymateb i gyfyng-gyngor myfyriwr…

Rydw i yn fy mlwyddyn gyntaf a dyma’r tro cyntaf i mi fyw oddi gartref. Mae fy Mam yn gefnogol iawn ac yn hapus fy mod i ym Mhrifysgol Caerdydd, ond mae hi wastad yn gwneud yn siŵr fy mod i’n iawn achos mae hi’n poeni am sut rwy’n ymdopi a ble rydw i, ac eisiau gwybod mod i’n ddiogel. Mae hi’n cael trafferth gadael i mi fynd. 🤔
Dwi eisiau cael fy rhyddid a mwynhau fy mywyd fel myfyriwr ond rwy’n teimlo dylwn i gadw i’m llety bob amser fel ei bod hi’n gofidio lai. Sut alla i ei hesmwytho fy mod i’n gyfrifol, yn gallu gofalu amdana fy hun ac yn ddiogel ar nosweithiau allan?
Gall fod yn heriol i lawer o rieni pan mae eu plant yn gadael y nyth ac yn mynd i’r brifysgol, yn enwedig os yw’r brifysgol honno’n bell ffordd o gartref ac mewn dinas anghyfarwydd. Ni allwch reoli’r hyn y mae eich Mam yn ei feddwl neu sut mae hi’n teimlo a hi sy’n gyfrifol am reoli ei gorbryder – bydd yn llesol os gallwch dderbyn mai dyma sut mae hi ar hyn o bryd, a’i hawl hi yw teimlo felly. Hefyd, nid oes modd rheoli sut mae hi’n teimlo. Mae’n swnio fel bydd hi’n pryderu am eich diogelwch a’ch lles ni waeth beth fyddoch chi’n ei wneud. Bydd angen i’r ddwy ohonoch dderbyn y bydd hi’n cymryd amser i ddod i arfer â symud i’r brifysgol a’r newid i ddeinameg eich perthynas. Efallai bydd angen rhywfaint o amynedd a thrugaredd yn hyn o beth. Yn y cyfamser, gallwch fod yn ymwybodol o’i gofidiau hi wrth fachu ar eich rhyddid ar yr un pryd.
Edrychwch dros gyngor ac awgrymiadau’r Brifysgol ynghylch gofalu am eich hun pan rydych yn y brifysgol, cofrestrwch gyda meddyg teulu lleol a darllenwch am gadw’n ddiogel yn y Ddinas. Lawrlwythwch ap SafeZone, fel bod gennych ffordd gyflym a hawdd o roi gwybod i Wasanaethau Diogelwch y brifysgol os oes angen cymorth arnoch, a chofiwch fod y gwasanaethau Cwnsela, Iechyd a Lles yn y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr yma i’ch helpu os ydych yn profi problemau yn ystod eich amser yn y Brifysgol, ni waeth pa mor fawr neu fach fo’r mater. Edrychwch dros ba gefnogaeth sydd ar gael yn ystod eich amser yn y brifysgol.
Ar ôl i chi wneud hyn, rhannwch yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu a pha gamau rydych yn eu cymryd i gadw eich hun yn ddiogel â’ch Mam. Efallai byddai o les i chi ystyried beth wnewch chi i ofalu am eich iechyd meddyliol a’ch lles tra eich bod chi yma, a rhannwch y syniadau hynny â hi.
Efallai ei bod hi’n hen bryd derbyn yr anesmwythder allech chi brofi wrth amlinellu rhai ffiniau gyda hi. Trafodwch eich angen am ychydig mwy o ryddid ac ymddiriedaeth â hi, ac ystyriwch awgrymu eich bod yn cytuno ar amserlen o alwadau ffôn/gwe-gam bob wythnos a mynnwch y bydd pob sgwrs a gwiriad yn digwydd ar yr adegau hynny a gynllunnir ymlaen llaw, oni bai bod angen brys. Gobeithio, bydd hyn yn tawelu ei meddwl ac yn cynnig rhywfaint o’r cyswllt sydd ei angen arni wrth gynnig y rhyddid sydd ei eisiau arnoch chi.
Dymuniadau gorau,
Eleanor, Cwnsela Myfyrwyr
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.