Dydd Gwener 20 Tachwedd oedd y diwrnod y buom ni’n galaru am ein brodyr, chwiorydd, ffrindiau, dieithriaid ac anwyliaid trawsryweddol sydd wedi marw oherwydd casineb trawsffobig.
Dyma oedd y diwrnod y gwnaethon ni eu cofio, cofio eu cryfder a’u cariad, a dangos ein cefnogaeth i gymuned sydd wir angen ein cariad eleni.
Eleni, llofruddiwyd 350 o bobl drawsryweddol. Eleni, llofruddiwyd person ifanc 15 oed oherwydd eu bod yn drawsryweddol. Eleni, llofruddiwyd 6 y cant yn fwy o bobl drawsryweddol o gymharu â’r llynedd.
Beth allwch chi ei wneud?

Dangos eich cefnogaeth. Gall hyn fod mor syml â rhoi eich rhagenwau dewisol yn eich bywgraffiad Instagram er eich bod yn cis-ryweddol. Gallwch anfon neges destun at ffrind y gwyddoch eu bod yn drawsryweddol neu nad yw’n cydymffurfio’n rhyweddol i ddweud wrthynt eich bod yn meddwl amdanynt. Gallwch addysgu eich hun am hanes pobl drawsryweddol, am eu brwydrau, y rhagfarnau sy’n eu hwynebu, dysgu am wahanol ryweddau, rhagenwau a phrofiadau.
Beth bynnag a wnewch, dangoswch eich cefnogaeth – lle da i ddechrau yw https://www.glaad.org/tdor
Y cyfan y mae’r gymuned drawsryweddol yn gofyn amdano yw diogelwch a chydraddoldeb. Mae digon o gariad gennych, rhowch ef i’r rhai sydd ei angen.
Ac os ydych chi’n drawsryweddol neu nad ydych yn cydymffurfio’n rhyweddol….
Mae gan Brifysgol Caerdydd Dîm Ymateb i Ddatgeliadau cyfrinachol ac anfeirniadol. Maent ar gael i gefnogi unrhyw fyfyriwr sy’n profi trais, cam-drin neu ymddygiad annerbyniol. Maen nhw yno i wrando ni waeth beth fo’ch rhywedd neu’ch rhywioldeb.
Mae gan y Brifysgol gefnogaeth benodedig hefyd i fyfyrwyr traws, myfyrwyr anneuaidd, ac unrhyw fyfyriwr arall sy’n cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Gallant gynnig cefnogaeth ymarferol megis newid manylion ar system y brifysgol (enw, hunaniaeth rhyweddol, teitl, cyfeiriad ebost); rhoi gwybod am newidiadau i staff academaidd; cynnig gwybodaeth am gymorth iechyd meddwl yn y brifysgol ac yn allanol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’w tudalen ar y fewnrwyd neu ebostiwch TransCU@caerdydd.ac.uk.
Fodd bynnag, gallwch hefyd deimlo’n ynysig pan nad ydych yn cydymffurfio â rhywedd, felly mae Man Traws wedi’i sefydlu ar gyfer y rhai sydd am gwrdd â phobl o’r un anian. Ebostiwch TransSpace@caerdydd.ac.uk i gofrestru’ch diddordeb.
Fel person cisryweddol, ni fyddaf byth yn deall yn iawn y boen y mae fy nheulu traws yn ei phrofi ond heddiw byddaf yn eich cefnogi gymaint ag y gallaf. Byddaf yn dysgu rhagor, yn eich cefnogi, yn eich derbyn ac yn anfon cariad atoch. Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae pobl yn eich caru chi.