More, Preparing for your future, Work Experience

Dilynwch yng nghamre gweithwyr allweddol: Darganfyddwch yrfa mewn Addysgu

Bu cynnydd yn y ceisiadau am hyfforddiant athrawon ers pandemig y coronafeirws yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysgol (NFER). Mae’n amlwg bod diddordeb wedi tyfu yn y proffesiwn ‘gweithiwr allweddol’ gwerth chweil hwn.

Pam mae addysgu wedi dod yn fwy poblogaidd?

• Mae’r pandemig wedi cynyddu apêl gyrfaoedd gyda mwy o bwrpas cymdeithasol.

• Mae pryderon am y farchnad swyddi bresennol – efallai bod pobl yn edrych ar addysgu fel llwybr gyrfa mwy diogel yn ystod yr amseroedd economaidd ansefydlog hyn.

Ydych chi wedi meddwl am fynd ar drywydd addysgu? Efallai y gallwn eich helpu i benderfynu a yw’r proffesiwn hwn yn addas i chi.

Yn ogystal â bod yn opsiwn gyrfa sefydlog, gadewch inni edrych ar rai rhesymau eraill dros ystyried addysgu:

•        Gwneud gwahaniaeth mewn bywydau pobl ifanc

•         Llwyth gwaith amrywiol – nid oes yr un diwrnod yr un peth

•         Am gariad eich pwnc ac i ysbrydoli pobl eraill

•         Er mwyn gweithio gyda phobl ifainc

•         Mae’n her ond yn werth chweil

Fe wnaethon ni ofyn i rai athrawon am yr hyn maen nhw’n ei garu fwyaf am eu swyddi:

“Rydych yn gwybod eich bod yn helpu i lywio bywyd person ifanc, ac mae hynny’n gyfrifoldeb enfawr ond yn fraint hefyd.”

Dywed Sian McAuliffe, Athro Ysgol Gynradd

“Yn fy marn i, does dim teimlad gwell na’r teimlad pan fydd myfyriwr yn dechrau deall neu’n cyflawni rhywbeth nad oedd yn meddwl y gallai neu y byddai’n gallu ei wneud. Gweld myfyrwyr yn tyfu ac yn datblygu o ran hyder a gwybod eich bod wedi chwarae rhan yn hynny, pa bynnag mor fach, yw un o’r rhannau mwyaf gwerth chweil y swydd.”

Dywed Ceri Gartland, Dirprwy Bennaeth, Whitchurch High School, Cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd

Hannah Brown


“I mi, mae’n ymwneud â rhannu fy angerdd a fy mrwdfrydedd dros y pwnc, ac rwy’n dwlu ar y rhyngweithio a’r cyswllt rwy’n eu cael gyda’r myfyrwyr bob dydd. Hefyd, dydych chi byth yn syllu ar y cloc mewn ysgol!”

Dywed Hannah Brown, Athrawes Uwchradd Ieithoedd Modern Tramor a chyn-fyfyriwr Ffrangeg ac Addysg o Brifysgol Caerdydd

A yw hynny’n eich ysbrydoli? Ydych chi’n awyddus i ddarganfod mwy am yr hyn y gall gyrfa mewn addysgu ei gynnig? Efallai y bydd yr adnodd ar-lein isod a’r digwyddiad sydd ar ddod yn fuan yn berffaith i chi:


Llwybr Darganfod Addysgu

Mae’r Llwybr hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn addysgu ac addysg.

  • Edrychwch ar lwybr gyrfa’r gweithiwr allweddol hwn
  • Datblygwch eich sgiliau a pharatoi ar gyfer gwneud cais i’r proffesiwn gwerth chweil a chyffrous hwn.
  • Cwblhau sesiynau rhyngweithiol ar-lein a chreu gwers fideo fach.

Gwyliwch y fideo byr hwn am y Llwybr:

Edrychwch ar y Llwybr Darganfod Addysgu nawr ar eich Cyfrif Gyrfaoedd.

Gyrfaoedd Gweithwyr Allweddol: Sefydlogrwydd Addysgu ar adegau ansicr

Digwyddiad Panel Ar-lein a Sesiwn Holi ac Ateb Fyw – Dydd Iau 4 Mawrth 2021 rhwng 17:00 – 18:30

Mae’r digwyddiad rhithwir hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am sut mae’r sector addysgu wedi addasu ac esblygu yn ystod pandemig y Coronafeirws, a chlywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol addysgu a hyfforddeion ynghylch beth all gyrfa mewn addysgu ei gynnig a’r gwobrau a’r heriau sydd ynghlwm wrth y proffesiwn poblogaidd a chyffrous hwn.

Dolen archebu

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.