Dafydd yn dweud wrthym am ei leoliad gwaith fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Digital Farming a sut mae wedi ei helpu i fod yn fwy cyflogadwy

Beth yn enw eich lleoliad a beth mae’n cynnwys?
Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Digital Farming. Roedd y rôl yn cynnwys mesur ac addasu pH ac EC y tanciau dŵr ar gyfer y mefus a’r meicrofwyd gwyrdd, ynghyd â chofnodi data fel tymheredd a lleithder trwy ddefnyddio gwahanol ddyfeisiau technegol. Bûm hefyd yn gwneud tasgau ymchwil desg fel yr astudiaeth am effeithiau dwysedd golau gwahanol ar gynnyrch mefus, cystadleuwyr ar gyfer LED, methodoleg ar gyfer treialon mefus, a gwaith ymchwil arall i Everbearers a Junebearers. Yna gwnes i grynodeb o hyn i gyd a’i gyflwyno trwy adolygiad systematig o lenyddiaeth, sy’n sgìl rydw i wedi’i ddatblygu trwy’r Interniaeth hon.
Un o’r prif brosiectau eraill y bûm yn rhan ohonynt oedd plannu meicrofwyd gwyrdd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru lle cefais fy nghyfweld ar gyfer teledu yn Gymraeg! Rhoddodd hyn gyfle gwych i mi ddatblygu a dangos fy sgiliau cyfathrebu.
Beth wnaeth eich denu at yr interniaeth?
Ro’n i wastad wedi ymddiddori mewn dilyn gyrfa mewn cynaliadwyedd a garddwriaeth. Yn ystod y cyfle hwn cefais brofiad mewn diwydiant yr oeddwn yn angerddol amdano, yn ogystal â dysgu rhywbeth newydd gan mai ychydig iawn o wybodaeth oedd gennyf am hydroponeg a ffermio fertigol ar y pryd. Ar ôl gorffen, roeddwn i eisiau cael swydd hirdymor, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth am y sector hwn a datblygu fy hun yn broffesiynol.

Sut gwnaethoch elwa o’r interniaeth?
Rydw i wedi ennill gwybodaeth mewn sector sy’n tyfu ac erbyn hyn mae gen i sgiliau i’w rhoi ar waith yn y diwydiant hwn fel sut i hau, egino, monitro a chynaeafu cnydau yn ogystal â dadansoddi ac adrodd ar ganlyniadau. Rydw i wedi cael fy hyfforddi i ddefnyddio gwahanol faetholion a chemegau fel Jet5, calsiwm, haearn, pH i fyny ac i lawr ac rwy’n gwybod beth yw eu pwrpas a phryd i’w defnyddio.
Mae fy sgiliau TG wedi gwella’n aruthrol mewn rhaglenni fel Excel a PowerPoint yn ogystal â sgiliau ymchwil ar raglenni fel Google scholar ac rydw i wedi defnyddio rhaglenni fel Mendeley, Timau a Slack am y tro cyntaf. Mae fy sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg wedi gwella’n aruthrol yn ogystal â fy hyder o ganlyniad i gymryd rhan yn yr Interniaeth hon.
Byddwn yn bendant yn argymell y Cynllun Interniaeth Santander gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi gael profiad mewn sector na fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn gallu bod yn rhan ohono. Mae hefyd yn caniatáu ichi ddod yn rhan o rwydwaith graddedigion Santander lle gallwch gwrdd â phobl ddiddorol a all arwain at gyfleoedd gwych.
Dafydd Aron Thomas, Olaf Bsc Daearyddiaeth (Ddynol).
Gwneud i 2020 gyfrif i chi!
Mae profiad gwaith yn rhan bwysig o daith eich gyrfa, Mae’n rhoi dealltwriaeth i chi o’r diwydiant o’ch dewis ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i wneud argraff ar ddarpar gyflogwyr.
I gael gwybod mwy am sut gallwn eich helpu, ewch i adran ‘Eich dyfodol’ y fewnrwyd a pharatowch ar gyfer eich profiad gwaith gyda’r Pecyn Profiad Gwaith.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.