Enillydd Gwobr ‘Tu Hwnt I’r Gofyn Gwobr Caerdydd’ Emilia Jansson yn rhannu sut mae cwblhau Gwobr Caerdydd wedi gwneud iddi deimlo’n fwy cyflogadwy.

Fi yw’r math o berson sy’n diflasu’n gyflym, ac felly rwy’n llenwi fy holl amser sbâr ag amrywiaeth o weithgareddau. Penderfynais ymgymryd â Gwobr Caerdydd achos roeddwn i am gael cydnabyddiaeth am yr holl oriau rwy’n eu treulio ar weithgareddau allgyrsiol yn y Brifysgol. Hefyd, mae’r Wobr wedi fy ngalluogi i fyfyrio ar y gweithgareddau hynny a sylweddoli a sôn am yr holl sgiliau gwerthfawr roeddwn i wedi’u datblygu. Nid yw cyflawni’r Wobr yn rhy anodd gan fod y cwbl yn cael ei wneud ar-lein, sy’n ei gwneud hi’n haws gweithio ar beth bynnag sydd ei angen.
Yn rhan o Wobr Caerdydd, gofynnir i chi gofnodi eich holl weithgareddau allgyrsiol. Roedd y myfyrdod o fudd mawr o ran fy ngalluogi i gael trosolwg o bopeth yr oeddwn i wedi’i gyflawni yn ystod fy amser yn y Brifysgol. Er syndod i mi, roeddwn i wedi gwneud cryn dipyn mewn gwirionedd, ac wedi cofnodi dros 800 o oriau! Nid ydw i’n siŵr sut llwyddais i wneud y cyfan yn ogystal â mynd i’r Brifysgol…
Mae Gwobr Caerdydd yn eich helpu i ddatblygu eich hunanymwybyddiaeth. Yn rhan o’r Wobr, byddwch yn gwneud prawf dangosydd personoliaeth i’ch helpu i ddeall tueddiadau eich personoliaeth a sut rydych yn gweithio mewn grŵp. Roedd y canlyniadau’n ddiddorol a dysgais i lawer am fy hun. Ar ben hynny, ces i’r cyfle i osod fy nodau personol fy hun ac roedd yn fuddiol iawn myfyrio arnynt ar ddiwedd y Wobr.
Roedd Gwobr Caerdydd yn ddefnyddiol iawn pan roeddwn i’n gwneud ceisiadau am swyddi. Rydw i yn fy nhrydedd flwyddyn, felly rydw i’n cyflwyno ceisiadau’n barhaus ar gyfer swyddi sydd â’u prosesau recriwtio eu hunain. Helpodd y Wobr i mi baratoi ar gyfer yr holl fathau gwahanol o ymarferion a heriau y byddwn i’n eu hwynebu. Er enghraifft, drwy’r rhaglen gallwch gael adborth ynghylch eich CV, ymarfer llenwi ffurflenni cais, yn ogystal â datblygu eich proffil LinkedIn. Ar gyfer elfen derfynol y Wobr, byddwch yn cwblhau profiad recriwtio. Dewisais wneud y profion seicometrig achos roeddwn i’n teimlo bod angen mwy o ymarfer arna i. Fodd bynnag, roedd cyfleoedd hefyd i fynd i ganolfannau ffug-asesiad a llunio cynllun busnes.
Penderfynais gwblhau’r Wobr achos roeddwn i am ddatblygu fy sgiliau a bod yn fwy cyflogadwy. Fodd bynnag, roeddwn i wrth fy modd yn clywed i mi gael fy enwebu am Wobr ‘Tu Hwnt I’r Gofyn Gwobr Caerdydd’ yn Seremoni Wobrwyo Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr eleni, ac yn fwy fyth pan enillais i! Mae cael cydnabyddiaeth am eich holl waith caled yn teimlo’n dda ac rwy’n argymell bod pob myfyriwr yn cymryd y Wobr o ddifrif ac yn manteisio’n llawn arni.
Roedd Gwobr Caerdydd yn ddefnyddiol iawn ac yn cynnig ffordd strwythuredig o ddeall yr hyn y mae cyflogwyr ei eisiau, yn ogystal â chyfle i fagu’r sgiliau hynny. O ganlyniad i gyflawni’r Wobr, rwy’n teimlo’n fwy cyflogadwy o lawer.
Emilia Jansson
Myfyriwr Newyddiaduraeth, Cyfathrebu a Gwleidyddiaeth
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.