Ewch ati i gynllunio!
A’r tymor arholi’n agosáu’n gyflym, mae cynllunio mor bwysig. Pan ydw i’n dweud cynllunio, rwy’n golygu cynllunio pob dim. Mae eisoes digon o straen i fywyd, ac mae pwysau ychwanegol arholiadau ac adolygu dros y Nadolig yn gallu bod yn feichus. Ond rwy’n addo i chi, os ydych chi’n trefnu, amserlennu ac yn neilltuo eich amser yn briodol, gallwch chi wneud eich holl waith adolygu yn ogystal â mwynhau’r Nadolig hefyd.
Felly, fy nghyngor cyntaf fyddai llunio amserlen o nawr hyd at eich arholiadau (nid yw byth yn rhy gynnar dechrau). Ystyriwch eich arholiadau a’u dyddiadau, a lluniwch amserlen adolygu’n unol â hyn. Trefnwch gyfnodau adolygu, egwyliau ac amser hamdden yn eich amserlen. Drwy wneud hyn, gallwch chi gadw ar ben eich gwaith adolygu a neilltuo amser hamdden i’ch hunan heb deimlo’n euog. Mae hyn yn allweddol i’ch helpu i leddfu gorbryder ynghylch arholiadau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o orffwys, bwyd da, ac ymarfer corff hefyd, achos bydd hyn yn eich helpu i barhau â’ch adolygu a bod yn y sefyllfa orau i fynd i’r afael â nhw.
Meddyliwch! Ble a sut ydych chi’n gweithio orau?
Mae pawb yn adolygu mewn ffyrdd gwahanol. Yn bersonol, rwy’n gweithio’n well gartref, heb ffrindiau’n tarfu arna i, a gyda chyflenwad diddiwedd o goffi. Gall astudio ar lefel y brifysgol ymddangos yn heriol. Fodd bynnag, mae’n fwy syml na rydych yn ei gredu:
- Rhowch drefn ar eich nodiadau
- Edrychwch dros hen bapurau arholiad
- Siaradwch â’ch darlithwyr am unrhyw beth nad ydych chi’n sicr ohono
- Pennwch amcanion bob wythnos: rhestrwch eich amcanion dysgu i’ch helpu i lywio eich adolygu
- Ysgrifennwch eich nodiadau: bydd hyn yn eich galluogi i brosesu’r wybodaeth
- Crynhowch eich nodiadau ymhellach ar ffurf naill ai pwyntiau bwled neu gardiau fflach. Bydd hyn yn eich helpu i amsugno’r wybodaeth yn gyflym ac yn rhwydd.
- Profwch eich hun i weld beth rydych chi’n ei wybod. Bydd hyn yn amlygu i chi beth sydd angen mwy o waith
Cofiwch y gefnogaeth!
Cofiwch fod y Brifysgol yn cynnig cymaint o gefnogaeth. Felly, manteisiwch ar hynny! Roedd mynd i sesiynau sgiliau astudio’n ddefnyddiol iawn i mi, a galluogodd hyn i mi ddeal sut i adolygu’n effeithiol. Hefyd, gwnaeth y sesiynau sgiliau astudio fy helpu i drefnu fy amser yn effeithlon a lleddfu fy ngorbryder. Peidiwch â bod ofn siarad â thiwtoriaid. Ond yn bwysicach, rhannwch nodiadau â’ch ffrindiau a’ch cydfyfyrwyr. Bydd hyn yn lleihau eich baich gwaith ac yn eich helpu i weld a ydych ar y trywydd iawn ai peidio.
Diwrnod yr arholiad
Ar ddiwrnod yr arholiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lle rydych chi’n gorfod mynd a’ch bod wedi cael digon o orffwys y noson gynt. Byddwn i’n awgrymu cyrraedd lleoliad yr arholiad hanner awr cyn yr amser dechrau. Mae hyn wastad wedi helpu i dawelu fy nerfau. Gallwch chi naill ai fflicio drwy eich cardiau fflach neu gael paned o goffi a siarad â’ch ffrindiau. Fel arall, eisteddwch yn dawel.
Cofiwch, ni waeth beth sydd o’ch blaen chi, cymerwch eich amser, anadlu a chynllunio. Os ydych chi wedi paratoi, byddwch chi’n rhagori ar eich disgwyliadau bob tro. Does dim angen mynd i banig.
Dymuniadau gorau,
Tess

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.