Skip to main content

Paratowch ar gyfer eich dyfodolRecruiters

Sut beth yw gweithio gartref go iawn? (o’i gymharu â bywyd prifysgol)

28 Ebrill 2020

Graddedigion Daearyddiaeth mae Harriet yn rhoi cipolwg i ni o’i phrofiad o weithio gartref yn y Gwasanaeth Sifil

Oherwydd COVID-19, mae fy ngwaith fel Ymgynghorydd Polisi Llwybr Carlam ar drafodaethau gyda’r UE wedi mynd o fod yn brysur iawn ac adweithiol, i weithio ar strategaethau a pharatoadau hirdymor. Yn dilyn canllawiau Iechyd y Cyhoedd, rwy’n gweithio gartref ar hyn o bryd. Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi i dreulio mwy o amser gyda’m rhieni a defnyddio peth amser i wylio rhaglenni teledu.

Mae cymhelliant i weithio’n hirdymor wedi bod yn wendid i mi erioed, ond mae’r sefyllfa bresennol wedi bod o gymorth o ran atgoffa fy hun o’r cymhelliant oedd yn bwysig wrth weithio ar fy nhraethawd hir o gartref dros y gwyliau. Drwy lwc, dwi wedi llwyddo i ailddefnyddio rhai o’r tactegau wnaeth gadw fi i fynd bryd hynny.

Er ei fod yn syml, y prif beth sy’n gweithio i mi yw creu rhestr o bethau i’w gwneud. Fel arfer, dwi’n rhoi tasgau byr ar frig y rhestr fel bod modd i mi ddod o hyd i drefn gynhyrchiol. Dwi hefyd wedi dechrau pennu fy amserlenni fy hun; dwi’n un am wastraffu amser ac yn y brifysgol roeddwn yn arfer dechrau gweithio’n agos iawn at y dyddiad cau. Dwi’n credu’n gryf bod pwysau’n gymhelliant da iawn. Fodd bynnag, roedd gwneud hyn o hyd yn fy mlino, felly dysgais nad yw gadael popeth tan y funud olaf yn fanteisiol yn y tymor hir. Mae creu amserlenni llai a realistig yn helpu hyn.

Dwi hefyd yn dechrau cofio pa mor bwysig yw cymryd egwyl. Pan mae’n teimlo fel bod llwyth o draethodau o’ch blaen, mae’n gallu teimlo’n ddiddiwedd. Rwy’n rhoi egwyliau penodol i fy hun bob dydd, fel nad ydw i’n dechrau syllu ar y sgrîn yn lle gweithio. Yr egwyliau mwyaf cynhyrchiol yn y brifysgol oedd y rhai pan fyddwn i’n mynd am goffi gyda fy ffrindiau – gan wybod nad oedd gan unrhyw un arall syniad am beth oedd y traethawd yn ei ddweud. Gwnaeth i mi deimlo’n well ac mae’r un peth yn wir nawr. Mae colli’r elfen gymdeithasol o waith wedi bod yn anodd iawn. Felly, er ei bod hi’n teimlo fel gwastraff amser ar y dechrau, mae cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a chydweithwyr wedi bod yn fuddiol tu hwnt. Dwi wedi gweld bod yr un gwersi a ddysgais yn y brifysgol yn parhau i weithio i mi. Rydw i wastad yn gweithio’n well ar ôl rhannu a thrafod fy mhroblemau, a chanfod ffordd i’w datrys.

Yn olaf, yr her fwyaf yr ydw i’n ei hwynebu sy’n debyg i’r brifysgol yw ymdopi â byw gyda phobl sydd â threfn ddyddiol wahanol. Yn y brifysgol, roedd yn anodd gorfod dweud ‘na’ i bethau llawer mwy cyffrous na gweithio, ac roedd modd osgoi pethau’n tynnu fy sylw yn llawer haws gyda chlo ar y drws. Fodd bynnag, rwyf yn cael hi’n llawer anoddach ymdopi â rhieni sydd wedi diflasu. Mae’n wych cael cyfle i dreulio mwy o amser gyda fy nheulu, ond gall hyn dynnu fy sylw pan dwi’n canolbwyntio ar waith. Dyna oedd y penderfynais greu man gweithio mewn ystafell ar wahân pan mae angen imi ganolbwyntio.

Hwyrach eich bod wedi clywed droeon y bydd yr hyn yr ydych yn ei wneud nawr yn eich helpu yn y dyfodol, ond mae gweithio gartref wir wedi dangos i mi bod y pethau oedd yn fy nghymell yn y brifysgol yn dal yn wir hyd heddiw.

Harriet Smeeton, BSc Daearyddiaeth (2018)

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.