“Rydw i mewn perygl o roi’r gorau i’r Brifysgol gan fy mod i’n anhapus.’
19 Tachwedd 2019

Eleanor o’r tîm Cwnsela Myfyrwyr yn ymateb i gyfyng-gyngor myfyriwr…
“Rydw i’n ei chael hi’n anodd ymgartrefu yn ôl yn y Brifysgol ar ôl yr haf. Rwy’n gweld gofynion yr ail flwyddyn yn heriol iawn yn barod, a dwi ddim yn mwynhau’r gwaith ar hyn o bryd. Fel arfer, rwy’n gwneud yn dda iawn, ond wnes i ddim yn dda yn arholiadau’r haf ac mae hynny wedi fy nigalonni. Rwy’n cael amser caled gyda’m lefelau egni hefyd, achos mae’n rhaid i mi weithio ar benwythnosau, a pan rwy’n cael amser hamdden, rwy’n methu ymlacio. Rwy’n poeni’n fawr y gallwn roi’r gorau i’r brifysgol yn gyfan gwbl os eith hyn ymlaen, ond mae’r syniad hwnnw’n codi cryn fraw arna i.”
Rwy’n cael ymdeimlad go iawn o’r straen sydd arnoch yma, ac nid ydw i’n credu mai chi yw’r unig un sy’n ei chael hi’n anodd dychwelyd i’r Brifysgol ar ôl egwyl yr haf, heb unrhyw bryderon ychwanegol hyd yn oed.
Fe wnaethoch ddweud nad ydych yn mwynhau eich astudiaethau ‘ar hyn o bryd’, sy’n awgrymu eich bod yn eu mwynhau fel arfer, ac efallai mai cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys y baich mwy o waith, sy’n eich rhwystro rhag ymgymryd yn llawn â’r gwaith a manteisio arno’n llawn.
Go wir, gall hi fod yn heriol pan rydym yn wynebu rhwystrau neu raddau is na’r hyn rydym yn gyfarwydd â nhw. Mae gofynion a disgwyliadau’r Brifysgol yn her newydd, felly gall cymharu sut perfformioch chi yn yr ysgol uwchradd neu’r coleg â’ch perfformiad yn y Brifysgol fod yn annefnyddiol iawn. Efallai bydd hyn yn eich synnu, ond mwy i’r Brifysgol na llwyddiant academaidd yn unig – mae hi hefyd yn cynnig y lle a’r cyfle i ddysgu sut i astudio mewn ffordd newydd (sy’n cynnwys llai o amserlen reolaidd a mwy o astudio hunan-dywysedig) a hefyd, sut i reoli a llywio eich ffordd drwy rwystrau bywyd oddi cartref a’r system ysgol yr ydych yn gyfarwydd â hi – gyda chefnogaeth staff y Brifysgol a’ch ffrindiau newydd o’ch cwmpas chi. Rydych yn gorfod dysgu sut i astudio a rheoli eich amser mewn ffordd wahanol iawn. Felly, mae’r ffaith i chi basio eich blwyddyn gyntaf yn newyddion gwych a gallwch chi deimlo’n falch o’r cyflawniad hwnnw. Cofiwch ein bod yn aml yn dysgu llawer yn sgîl ein rhwystrau, ein hanawsterau a’n methiannau. Un dyfyniad defnyddiol iawn i mi, gan Truman Capote, yw ‘Methiant yw’r saws sy’n rhoi blas i lwyddiant.’
Os ydych yn pryderu am eich astudiaethau, efallai dylech ystyried dod i ddosbarthiadau sgiliau astudio neu greu grwpiau astudio gyda ffrindiau o’ch carfan.
Ymddengys fel pe basech yn cael ychydig mwy o amser rhydd, gallech chi reoli eich lles cyffredinol yn fwy effeithiol, a threulio ychydig mwy o amser ar hunan-ofal. Yn ddelfrydol, ni fyddai’n rhaid i chi weithio cymaint y tu allan i’r Brifysgol – felly ystyriwch drefnu apwyntiad gyda Chyngor ac Arian, all eich helpu i gyllidebu ac ystyried unrhyw ffrydiau cyllid eraill allai fod yn berthnasol i chi a’ch amgylchiadau.
Fodd bynnag, gellir ymarfer hunan-ofal yn ystod y cyfnodau prysuraf – ond mewn ffyrdd llai. Er enghraifft, ailosod eich safbwynt neu weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar. Edrychwch dros ein tudalennau hunan-gymorth ar y fewnrwyd am ffyrdd y gallwch ymgysylltu ag ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn eich bywyd beunyddiol. Datganiadau cadarnhaol (sy’n cyfrannu at feithrin yr hyn rwy’n hoffi ei alw ein cefnogwr mewnol), hunan-dosturi (siarad yn garedig â’n hunan, gydag amynedd a dealltwriaeth mewn ffordd y byddech â ffrind da pe basent yn cael amser caled) ymestyn a byrbrydau maethlon.
Mae’n swnio fel bod llawer o hunan-amheuaeth gennych ar hyn o bryd, a llawer o bryderon ynghylch y dyfodol hefyd efallai. Gellir dweud mai alergedd i ansicrwydd yw pryder, ac wrth gwrs mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ansicr ar yr adeg hon yn eu graddau. Efallai bydd trafod pethau â’ch ffrindiau, eich tiwtor personol a/neu ystyried eich meddyliau a’ch teimladau gyda Chwnselydd, Ymarferydd Lles yn helpu i roi eglurder a sicrwydd i chi, ynghyd â chipolwg pellach ar sut i reoli hyn i gyd.
Dymuniadau gorau,
Eleanor, Cwnsela Myfyrwyr
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.