O interniaeth i yrfa – fy mhrofiad i yn Diverse Cymru.
3 Rhagfyr 2019
Mae Georgia Marks, myfyriwr blwyddyn olaf ym myd y gyfraith, yn dweud wrthym sut y llwyddodd i sicrhau swydd ar ôl ei phrofiad o brofiad gwaith yn Diverse Cymru.

Beth oedd enw eich interniaeth a beth oedd yn ei gynnwys?

Roedd fy interniaeth yn golygu ennill dealltwriaeth o sut mae polisi ac ymchwil yn y trydydd sector yn gweithio, a chwblheais ystod o dasgau yn ystod fy lleoliad. Astudiais ddogfen ymgynghori ynghylch adeiladau hygyrch ac amlygu problemau o ran hygyrchedd a chydraddoldeb. Wedi hynny, trafodais fy nghasgliadau gyda fy ngoruchwyliwr, a chyfrannodd y wybodaeth a roddais iddi tuag at yr ymateb terfynol ynghylch yr ymgynghoriad. At hynny, dadansoddais ddata ansoddol o ddigwyddiad ynghylch iechyd corfforol, gan grynhoi’r prif faterion ac ysgrifennu astudiaethau achos. Bydd yr ymchwil hon yn werthfawr ar gyfer sesiwn briffio ynghylch y pwnc yn y dyfodol. At hynny, cefais gyfleoedd gan y sefydliad i ddatblygu ymhellach yn broffesiynol a chefais hyfforddiant mewnol gan y sefydliad ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc a herio rhagfarn.
Beth wnaeth eich denu at yr interniaeth?
Yn ddiweddar, roeddwn wedi gorffen interniaeth polisi gyda sefydliad gwahanol a gwyddwn o’r cyfnod hwnnw mai dyna’r math o faes oeddwn am gael rhagor o brofiad ohono. Felly, pan welais fod cyfle ym meysydd polisi ac ymchwil, roeddwn yn meddwl ei bod yn werth cyflwyno cais. At hynny, fel myfyriwr Cyfraith Hawliau Dynol, roedd Diverse Cymru yn apelio’n fawr ataf fel sefydliad sy’n hyrwyddo cydraddoldeb i bawb. Teimlais y byddai ennill profiad gyda’r sefydliad yn ategu fy astudiaethau academaidd i’r dim.
Sut wnaethhoch elwa o’r interniaeth?
Yn sgîl cwblhau lleoliad gwaith, fe wnes i adeiladu ar y sgiliau dadansoddi a ddysgais ar fy nghwrs gradd ac ennill rhagor o brofiad ym meysydd polisi ac ymchwil. Gallwn weld sut gellir defnyddio fy ngradd Meistr yn ymarferol i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb mewn cymdeithas. Roedd cynyddu fy nealltwriaeth o ran blaenoriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn hanfodol ar gyfer fy natblygiad proffesiynol. Ychydig fisoedd ar ôl cwblhau fy interniaeth, sylwais fod Diverse Cymru eisiau llenwi swydd ymchwilydd a meddyliais, beth am fynd amdani? Roeddwn yn llwyddiannus, ac erbyn hyn rwy’n ymchwilydd i Diverse Cymru! Ni allwn fod wedi llwyddo i wneud hynny heb fy lleoliad gwaith.
Disgrifiwch eich profiad o weithio gyda diverse cymru?
Mwynheais fy mhrofiad o weithio gyda Diverse Cymru yn fawr. Roedd y tîm polisi, ymchwil ac ymgysylltu i gyd yn gyfeillgar dros ben ac yn hapus i helpu gyda phethau nad oeddwn yn sicr ohonynt. At hynny, gwelais fod y sefydliad yn gyffredinol yn lle gwych i weithio. Llwyddais i ddysgu rhagor am y sefydliad yn ei gyfanrwydd drwy gwrdd ag adrannau eraill a siarad â nhw am eu gwaith. At ei gilydd, roedd fy mhrofiad yn un cadarnhaol dros ben.
Fyddech chi’n argymell cwblhau interniaeth drwy gyraoedd a chyflogadwyedd?
Byddwn yn argymell cwblhau interniaeth drwy’r tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Mae’r prosesau gwneud cais yn gymharol rwydd, ac maen nhw’n rhoi gwybod i chi bob amser am ganlyniad eich cais, er mwyn i chi allu datblygu eich hun ymhellach.
Georgia Marks, LLM Cyfraith Hawliau Dynol.
Gwneud i 2020 gyfrif i chi!
Mae profiad gwaith yn rhan bwysig o daith eich gyrfa, Mae’n rhoi dealltwriaeth i chi o’r diwydiant o’ch dewis ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i wneud argraff ar ddarpar gyflogwyr.
I gael gwybod mwy am sut gallwn eich helpu, ewch i adran ‘Eich dyfodol’ y fewnrwyd a pharatowch ar gyfer eich profiad gwaith gyda’r Pecyn Profiad Gwaith.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.