Llwyddiant diweddar ar gyfer un o raddedigion Prifysgol Caerdydd sy’n amlygu manteision cydweithio rhwng addysg uwch a’r diwydiant
30 Ebrill 2020

Roedd Roula Khir Allah, un o raddedigion diweddar LLM Cyfraith Masnach Gydwladol, wedi digalonni ar ôl methu â chael swydd Paragyfreithiol, er iddi wneud cais am sawl swydd. Roedd hi ar fin rhoi’r ffidl yn y to. Cafodd gyfarfod gyda’i Chynghorydd Gyrfaoedd, Helen McNally a roddodd arweiniad iddi ynghylch gwella ei CV a’i llythyr eglurhaol, ac awgrymodd y dylai gael mwy o brofiad gwaith. Fe wnaeth Helen ei chyfeirio at David Keane, Swyddog Prosiectau o’r Tîm Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol. Nod y tîm hwn yw helpu myfyrwyr a graddedigion i ymgysylltu â sefydliadau er mwyn eu gwneud yn fwy eu cyflogadwy. Roedd David eisoes wedi bod mewn cysylltiad â DAS Law ynghylch trefnu profiad gwaith ym maes Cyngor Cyfreithiol a chyda cefnogaeth gwych Nicole Rogers, Uwch Gyswllt gyda DAS Law, wedi trefnu lleoliadau gwaith amhrisiadwy i 12 myfyriwr. Cysylltodd â Nicole ynghylch sefyllfa Roula ac roedd hi’n falch i gynnig cyfle wythnos o hyd i Roula yn eu swyddfa yn Bedwas.
O ganlyniad i hynny, cafodd Roula ei hannog i wneud cais am swyddi addas ac mae hi wedi cael swydd contract Paragyfreithiwr gyda thâl. Dyma enghraifft wych o gydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a DAS Law a’r canlyniadau da sy’n gallu deillio o hynny.
Dywedodd Roula wrthym:
“Rydw i’n argymell yn gryf y dylai pobl drefnu lleoliad gwaith drwy dîm Profiad Gwaith Cysylltiadau ar gyfer y Dyfodol. Maen nhw’n hynod garedig iawn a chyfeillgar; ac yn rhoi help llaw ichi agor drysau at y sector gyfreithiol sy’n hynod gystadleuol.”
Roedd adborth DAS Law yn canmol yr interniaid i’r cymylau, gyda Nicole Rogers yn dweud:
“Mae ein hinterniaid i gyd hyd yma wedi creu cryn argraff ac wedi ymgysylltu’n dda â’n hadran. Serch hynny, fe wnaeth Roula argraff arbennig oherwydd ei hangerdd a’i brwdfrydedd gwirioneddol dros y gyfraith a’n cwmni. Gwnaeth Roula bob ymdrech bosib i ddod i adnabod aelodau o’r tîm ac fe ofynnodd am gopïau o’n canllawiau hyfforddi i ddarllen gartref; roedd yr awch i ddysgu yn creu argraff dda. Ar lefel fwy personol, roeddwn i’n gwybod yn syth y byddai Roula yn gweddu i’r dim i’n hadran ac roedd hi’n bleser gwirioneddol gennyf rhoi cyfweliad iddi a chynnig swydd iddi yn y pen draw.”
Ychwanegodd Jonathan Thomas, Rheolwr Adran gyda DAS Law;
“Rydym wrth ein bodd bod Roula wedi dewis dilyn gyrfa gyfreithiol gyda DAS ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ei sgiliau a’i hyder dros y blynyddoedd nesaf. Mae DAS wedi cynnig cyflogaeth sy’n datblygu sgiliau myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ers bron i 30 mlynedd ac mae croesawu Roula i deulu DAS yn ennyn balchder mawr i ni.”
Nododd David Keane:
“Mae Roula wedi arddangos gwydnwch sy’n nodwedd i raddedigion y mae galw mawr amdano ac mae hi wedi elwa ar ei dyfalbarhad. Mae cefnogaeth barhaus DAS ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd wedi bod yn hwb aruthrol ac rydym yn gobeithio y gallwn barhau i adeiladu ar y bartneriaeth ragorol hon.”
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.