Skip to main content

MoreStudent MentorsStudent Stories

Llongyfarchiadau i Fentoriaid Myfyrwyr ac Ymgynghorwyr Mentora eleni!

3 Mehefin 2019

Mae Ann Mc Manus, Rheolwr Mentora, yn cydnabod cyfraniad a chyflawniadau Mentoriaid ac Ymgynghorwyr Myfyrwyr eleni, ac yn diolch iddynt am sicrhau ei bod hi’n flwyddyn lwyddiannus arall…

Rwyf fi a’r tîm yn hynod falch o’n mentoriaid ac ymgynghorwyr myfyrwyr eleni, sy’n gweithio’n galed, yn ymrwymedig ac yn broffesiynol. Roedd digwyddiad dathlu eleni’n llwyddiant mawr arall, a dyma’r enillwyr…

Prif Fentor y Flwyddyn

Robert Mundy, yr Ysgol Peirianneg

Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: Tommy Gill

Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: Isabel Marin Gamero

Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol: Lucy Ghent

Cyfraniad Rhagorol at y Cynllun Mentora Myfyrwyr

Vicky Lord, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Mentoriaid Myfyrwyr y flwyddyn a Chymeradwyaeth Uchel

Y Biowyddorau: Emily Moyes, Oliver Rowley, Ffion Boxall, Danielle Ellis

Busnes: Chantelle Hunt, Mared Jones, Sioned Murphy

Cemeg: Eftychia Kleniati, Mariana Viegas de Almeida

Cyfrifiadureg: Anastasia Ugaste, Jorge Correa Merlino, Josh Whyte, Iryna Bernyk

Deintyddiaeth: Gabriella Webb, Charlotte King, Karina Syarova

Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr: Francis Matthew, Philippa Smith, Jessica Ackers

Peirianneg: Camille Pope, Jack Page, Hasan Hussaini, Joseph Conroy

Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: Kate Bruce, Bethany Scott, Alice Langer, Scarlett Wells

Daearyddiaeth a Chynllunio: Aoife McCarthy, Antonia Raven, Caitlin Kilgannon, Hana Undy

Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: Clare Parry, Firial Benamer, Morgan Bahia

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: Luisa de la Concha Montes, Yeonsu Cho

Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: Geneva Virasami, Isla Cheung

Mathemateg: Thomas Gardner, Hannah Jonathan, Katie Phillips

Fferylliaeth: Charlotte Hambly, Nazneen Bamji, Kaitlin Boyle

Ffiseg a Seryddiaeth: George Gill, Paradeisa O’Dowd Phanis, Libby Raybould, Holly Davies, Calum Dear

Seicoleg: Emily Murphy, Jas Johnson, Megan Thomas

Gwyddorau Cymdeithasol: Alice Abrey, Callum McCarthy, Chloe Plummer

Cerddoriaeth: Sophie McLaughlin

Cyfle i wella eich sgiliau cyflogadwyedd

Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Vicky (Lord), a enillodd y Cyfraniad Rhagorol at y Cynllun Mentora Myfyrwyr. Mae hi wedi bod yn rhan o’r cynllun am y tair blynedd diwethaf, ac roedd hi’n Fentor y Flwyddyn ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg ddwy flynedd yn ôl. Mae hi hefyd wedi bod yn ymgynghorydd mentora am y ddwy flynedd diwethaf. 

Roedd yn wych cael Vicky’n siarad, ac roedd hi’n siaradwr cyhoeddus huawdl a phrofiadol, a ddisgrifiodd ei diffyg hyder drwy gydol yr ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd ac yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.  Gwnaeth Vicky gydnabod sut roedd dod yn fentor wedi rhoi pwrpas go iawn iddi yn y Brifysgol a’r cyfle i ymgysylltu â chronfa ehangach o fyfyrwyr. Siaradodd am ei phrofiadau personol o fod yn fentor, sut roedd wedi magu ei hyder a’i hunan-gred, a sut mae hi wedi ffynnu drwy helpu mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora yn ei hysgol.

Roedd yn anrhydedd croesawu tri o gynfyfyrwyr yn ôl a fu’n fentoriaid myfyrwyr yn y gorffennol: Kalika Puri (Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol), Ryan Farr a Jamie Beynon (Ysgol Busnes Caerdydd) a siaradodd yn ysbrydoledig am sut roedd gwirfoddoli gyda’r cynllun wedi rhoi’r sgiliau iddynt gael eu penodi yn eu gyrfaoedd fel graddedigion, yn ogystal â pherfformio’n dda yn y gweithle.

Siaradodd Ryan am sut roedd bod yn fentor wedi’i helpu i ddatblygu yn ogystal â dangos sgiliau allweddol megis trefnu, rheoli amser a chyfathrebu.  Rhannodd ei brofiadau o weithio yn Deloitte UK a sut roedd y sgiliau hyn wedi’i helpu yn y gweithle – nid i gwblhau tasgau’n unig ond hefyd i ddatblygu perthnasoedd gwaith da.

Siaradodd Jamie, sydd hefyd gyda Deloitte UK, am ei rôl fel ymgynghorydd mentora a dweud, er ei fod wedi mwynhau bod yn fentor, gwnaeth ddod yn ymgynghorydd mentora i amrywio ei sgiliau ymhellach.  Gwnaeth hefyd ei alluogi i ddangos i gyflogwyr posibl ei fod yn uchelgeisiol ac yn barod i ymgymryd â heriau a thasgau newydd.  Rhannodd Jamie sut roedd bod yn ymgynghorydd mentora wedi magu ei hyder a sut mae’n defnyddio’r sgiliau a ddatblygodd yn yr amgylchedd gwaith.

Dyfarnwyd y teitl Prif Fentor y Flwyddyn i Kalika i 2017.  Erbyn hyn mae hi’n fferyllydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, a gwnaeth ganmol y mentoriaid a’r ymgynghorwyr am bob peth maen nhw wedi’i gyflawni. Roedd hi hefyd yn awyddus i’w hannog i fanteisio ar y profiadau a’r sgiliau hynny.  Dywedodd Kalika mai un darn o gyngor yr hoffai i’r myfyrwyr ei gael o’r noson fyddai: “Credwch yn eich hun.”

Mae mentoriaid myfyrwyr yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad y myfyriwr

Agorwyd y noson gan Dr Annabel Cartwright, Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth gydag angerdd a hiwmor, a gwnaeth ddiolch a chanmol y mentoriaid myfyrwyr ac ymgynghorwyr ar ran y staff academaidd.

Siaradodd Dr Cartwright am sut y gall y cyfnod pontio i’r brifysgol fod yn frawychus, a chymeradwywyd y mentoriaid am eu hymroddiad, eu creadigrwydd a’u llwyddiant wrth ennyn diddordeb myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn y cynllun a’r brifysgol. Eleni, llwyddodd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth i gadw pob un o’i myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, a chanmolwyd mewnbwn mentoriaid myfyrwyr i’r llwyddiant hwnnw a diolchodd yn fawr iddynt am eu heffaith gadarnhaol ar brofiad y myfyriwr.

Cynllun mentora mewn pob ysgol o 2019

Dechreuodd y cynllun mentora yn 2012 gyda phum ysgol academaidd. Cymerodd 19 o ysgolion ran yn y cynllun eleni, ac o fis Medi 2019, rwy’n gyffrous bod y cynllun wedi’i estyn i sicrhau y bydd pob myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf ym mhob ysgol ar draws y brifysgol yn gallu cael cymorth gan fentor.

“Roedd y cynllun mentora’n wych oherwydd roedd yn gysur imi wybod bod gennyf rywun i fynd ato gyda phroblemau neu gwestiynau, a helpodd hyn imi ymgartrefu yn y brifysgol. Pe na bai’r cynllun ar waith, byddwn wedi’i chael hi’n anodd ymgartrefu yn y brifysgol.


Dyfyniad dienw gan fyfyriwr

Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Mentora Myfyrwyr

Diolch unwaith eto i’n holl fentoriaid myfyrwyr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r myfyrwyr sydd newydd eu recriwtio eleni.

Dymuniadau gorau,
Ann, Rheolwr Cynllun Mentora Myfyrwyr

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.