Gwneud eich hun yn gyflogadwy: awgrymiadau defnyddiol gan fyfyriwr ôl-raddedig
20 Mawrth 2020
Mae pwysau cyson ar fyfyrwyr prifysgol i fod yn fwy na’u gradd. Mae ennill graddau da yn bwysig, ond mae’n rhaid i fyfyrwyr hefyd gymryd camau tuag at wella eu cyflogadwyedd. Mae hyn yn ein paratoi ni at fywyd ar ôl graddio, pan fyddwn yn cystadlu â’n cymheiriaid mewn marchnadoedd swyddi gorlawn – bydd gan nifer ohonynt yr un cymwysterau â ni. Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau ein bod yn wahanol.

Wrth i mi nesáu at ddiwedd fy mlwyddyn olaf, a dechrau chwilio am swydd, rwy’n falch fy mod i wedi cymryd camau i wneud fy hun yn fwy cyflogadwy. Dyma rai o fy awgrymiadau defnyddiol i’ch paratoi chi at fywyd ar ôl y brifysgol:
- Nid yw byth yn rhy gynnar na byth yn rhy hwyr
Gall taith eich gyrfa ddechrau ar unrhyw adeg – yn y pen draw, bydd gan bob myfyriwr ddull gwahanol o fynd ati. A chithau’n fyfyriwr yn y flwyddyn gyntaf, gallwch ddechrau edrych ar eich opsiynau o ran gyrfa, a darganfod y cymorth y gall Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd ei gynnig i chi. Rhaid cyfaddef, ni wnes i roi gormod o bwyslais ar fy nghynlluniau o ran gyrfa fel myfyriwr israddedig yn y flwyddyn gyntaf. Yn y blynyddoedd ar ôl hynny, sylweddolais fod ymgysylltu’n gynnar yn wir yn gallu helpu gyda’ch cyflogadwyedd; er enghraifft, mae gennych fwy o amser i ddatblygu eich CV drwy gyfleoedd profiad gwaith perthnasol.
Fodd bynnag, os ydych yn eich blwyddyn olaf ac nid ydych yn teimlo’n barod – peidiwch â mynd i banig! Mabwysiadwch ddull rhagweithiol nawr a chwrdd ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd; maen nhw yno i roi cyngor i bob myfyriwr, ni waeth pa gam ydyw ar daith ei yrfa.
2. Defnyddiwch y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i helpu bob myfyriwr i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol. Ni ddylai unrhyw fyfyriwr anwybyddu’r cyfle i gael cymorth gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol; gall eu hadnoddau fod yn amhrisiadwy wrth wella eich cyflogadwyedd. Gallant edrych dros CVs a ffurflenni cais; eich helpu i baratoi at gyfweliadau a rhoi cyngor ynghylch dod o hyd i brofiad gwaith a swyddi i raddedigion.
Gall rhai myfyrwyr hefyd fod â diddordeb mewn gweithio tuag at Wobr Caerdydd. Mae’r wobr gyflogadwyedd hon yn galluogi myfyrwyr i gael cydnabyddiaeth am brofiad gwaith, mentora, cymdeithasau, gwirfoddoli a gwaith rhan-amser yn ogystal â datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol. Mae’n wych cael Gwobr Caerdydd ar eich CV oherwydd ei bod yn cydnabod eich gweithgareddau allgyrsiol, gan eich gwneud chi’n fwy unigryw na’ch cyfoedion. Cewch ragor o wybodaeth yma.
3. Ewch i ffeiriau gyrfaoedd
Mae’n bwysig dod o hyd i gyfleoedd newydd a all wella eich cyflogadwyedd mewn modd rhagweithiol. Un o fy mhrif argymhellion fyddai mynd i ffeiriau gyrfaoedd. Maen nhw’n ffordd wych o ddod o hyd i nifer o gyflogwyr, a fydd yn cynnig ystod eang o rolau gwahanol. Mae’n gyfle y dylai holl fyfyrwyr fanteisio arno – mae’n rhaid bod rhywbeth yno at ddant pawb. Mae cwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb yn gyfle ardderchog oherwydd y gallwch ofyn cwestiynau, a chael argraff bersonol ar sefydliad sydd o ddiddordeb i chi. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal nifer o ffeiriau gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Cewch awgrymiadau defnyddiol ynghylch paratoi ar gyfer ffair gyrfaoedd yma.
Gall myfyrwyr hefyd gwblhau sesiynau sgiliau ar-lein defnyddiol drwy ‘Taith Eich Gyrfa’. Mae pynciau’n cynnwys rhwydweithio effeithiol gyda chyflogwyr, ac mae’r sesiynau’n cyfrif tuag at Wobr Caerdydd!
4. Manteisio i’r eithaf ar brofiad gwaith
Gall profiad gwaith fod yn ddefnyddiol wrth bennu cynlluniau gyrfa yn y dyfodol, a chewch ymdeimlad o ba ddiwydiant sy’n addas i chi. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr am yr hyn yr hoffech ei wneud, byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol. Er enghraifft, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu da a gallu diamheuol i weithio’n dda mewn tîm. Felly, bydd eich profiad gwaith yn rhoi profiad defnyddiol i chi drafod ceisiadau a chyfweliadau yn y dyfodol, gan eich gwahaniaethu rhag ymgeiswyr eraill.
Gall fod yn brofiad llethol gwybod lle i ddechrau o ran dod o hyd i brofiad gwaith. Efallai y byddai’n ddefnyddiol siarad ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn y Brifysgol a gweld pa fath o brofiad gwaith fyddai fwyaf gwerthfawr i chi. Yn bersonol, rwy’n argymell Cynllun Cipolwg Prifysgol Caerdydd. Dyma gyfleoedd hyblyg a rhan-amser y gall myfyrwyr eu cwblhau yn rhan o’u hastudiaethau. Maen nhw’n ffordd wych o gael profiad heb amharu ar eich addysg. Cefais hyd i gyfleoedd i wneud profiad gwaith drwy chwilio am “brofiad gwaith” ar fewnrwyd y myfyrwyr, a gall pob myfyriwr o Gaerdydd wneud yr un fath.
5. Rhwydweithio ar-lein
Mae rhwydweithio ar-lein, yn enwedig drwy LinkedIn, wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth baratoi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Gallwch ddechrau drwy gysylltu â myfyrwyr eraill, cyn ymestyn allan a gwneud cysylltiadau yn y diwydiant rydych am weithio ynddo. Er enghraifft, rwyf wedi cysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyhoeddus i greu rhwydwaith cryf o gysylltiadau yn y diwydiant. Yn y dyfodol, gall y perthnasoedd proffesiynol hyn ddatblygu i fod yn gyfleoedd gwaith. Mae hefyd yn ddefnyddiol gweld yr hyn y mae’r rhai sy’n gweithio yn eich proffesiynol dymunol wedi’i wneud i lwyddo – gall rhoi syniad gwell i chi o’r hyn y mae angen i chi ei wneud i fod yn fwy cyflogadwy.
Byddwn yn argymell i bob myfyriwr ddefnyddio gwefannau am ddim megis LinkedIn, oherwydd gall rhwydweithio eich helpu i ddatblygu eich gyrfa. Ym marchnad swyddi heddiw, mae dros 80% o weithwyr proffesiynol yn ystyried rhwydweithio’n bwysig i lwyddiant gyrfa.[1] Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau gyda rhwydweithio ar-lein, ystyried mynd i weithdy sgiliau a gynhelir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Gallant eich dysgu sut i ddefnyddio LinkedIn yn effeithiol er mwyn hyrwyddo eich hun a denu cyflogwyr.
Gall cymryd y camau bach hyn wneud gwahaniaeth enfawr wrth eich paratoi i sicrhau eich swydd ddelfrydol ar ôl graddio.

Hannah Clargo
MA Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang
[1] https://www.thebalancecareers.com/top-career-networking-tips-2062604
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.