Gwerth fy Interniaeth Ar y Campws
6 Mawrth 2020

I mi, roedd ymgymryd ag Interniaeth Ar Gampws mewn ymchwil (a elwir yn gynharach yn CUROP) yn gyfle cyffrous a ganiataodd imi gymryd rhan mewn ymchwil bwysig, ddiddorol a pherthnasol a oedd yn ategu fy astudiaethau.
Cefais gyfle i weithio ar y rhywogaeth grwban Madagascar sydd mewn perygl difrifol o farw allan, y Ploughshare o Fadagascar. Llwyddais i gynhyrchu data genetig a fydd yn cyfrannu at greu rhaglen fridio gaeth sef cronfa ddata genetig ar gyfer adnabod unigolion sydd wedi’u masnachu’n anghyfreithlon. Bydd y data wnes i gynhyrchu yn helpu i alluogi’r rhywogaeth i gael ei amddiffyn yn y dyfodol.
Fel myfyriwr geneteg, roedd fy nghwrs israddedig yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, a ganiataodd y lleoliad haf hwn i mi eu datblygu. Llwyddais i ennill profiad labordy a biowybodegol gwerthfawr, ehangu fy nealltwriaeth o eneteg cadwraeth a datblygu annibyniaeth mewn amgylchedd ymchwil. Dyma’r datblygiad hwn o fy sgiliau ymchwil ymarferol, ynghyd â hyrwyddo rhai egwyddorion biowybodeg craidd yn fy ngalluogi imi fod yn llawer mwy parod ar gyfer fy modiwlau trydedd flwyddyn, yn enwedig y prosiect traethawd hir.
Ar wahân i’r profiad ymchwil ymarferol, mae bod yn bresennol mewn amgylchedd gwaith yn cyflwyno’r cyfle i ddatblygu cysylltiadau ag academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig, yn ogystal â chael dealltwriaeth o lwybr gyrfa ar ôl prifysgol. Mae’r sgiliau a ddatblygais, a’r perthnasoedd a ffurfiwyd yn ystod fy lleoliad ymchwil wedi parhau i fod yn berthnasol iawn ac wedi cyfrannu’n fawr tuag at aros ym Mhrifysgol Caerdydd, gan i mi bellach ddod yn fyfyriwr PhD.
Gan Luke Davies
Diddordeb mewn Interniaethau ar y Campws?
Am fwy o wybodaeth ynglŷn a cyfleoedd brofiad gwaith â thal yn ystod yr haf gydag academyddion yng Nghaerdydd, cysylltwch â CESISummerPlacements@cardiff.ac.uk neu chwiliwch am brofiad gwaith ar yr intranet.
Mae Interniaethau ar y Campws mewn Ymchwil a Dysgu ac Addysgu yn agor ar gyfer yng ngwanwyn 2021.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.