Skip to main content

Cefnogi eich astudiaethHyrwyddwyr MyfyrwyrNew Students

Gweithio ar y cyflwyniad digidol i fyfyrwyr

22 Medi 2020
Ella

Fy enw i yw Ella a dwi’n Hyrwyddwr Myfyrwyr yn y Brifysgol.

Fel y gwyddoch, ym mis Mawrth 2020, gweithredodd Prifysgol Caerdydd yn gyflym i wneud ei hastudiaethau’n rhithwir o ganlyniad i COVID-19. Gyda hyn, dechreuodd yr Hyrwyddwyr Myfyrwyr weithio o bell ac ar-lein. Dros yr haf, mae’r rhan fwyaf o ‘ngwaith i fel Hyrwyddwr Myfyrwyr wedi canolbwyntio ar weithio gyda staff i helpu i lywio addysg ddigidol ar gyfer myfyrwyr. Wrth i ni nesáu at flwyddyn academaidd a fydd yn wahanol i’r un arall, roedd hi’n bwysig i Hyrwyddwyr Myfyrwyr a staff ddefnyddio’r amser hwn i gydweithredu – er mwyn creu ac addasu amgylchedd dysgu ar-lein Caerdydd.

Dechreuodd fy ngwaith ar y prosiect parhaus hwn drwy adolygu bylchau yn y Sesiwn Sefydlu Dysgu Canolog presennol. Ochr yn ochr â’r gwerthusiad hwn, treuliais amser yn edrych ar Sesiynau Sefydlu Digidol Prifysgolion eraill ac yn ystyried a fyddai rhai o’u nodweddion yn ddefnyddiol i’w defnyddio ar-lein yng Nghaerdydd. Gan ddefnyddio’r adnoddau hyn, gofynnom gwestiynau; Beth ddylai myfyriwr gael gwybod mewn Sesiwn Sefydlu Ar-lein? Pa mor hygyrch yw’r adnodd hwn? Ble mae’r wybodaeth bwysig? Yn bwysicaf oll, efallai, gwnaethom wedyn ystyried sut y gallem gyd-destunoli ein hymchwil i’w defnyddio yn Sesiwn Sefydlu Ddigidol Caerdydd.

Gwnaethom gyflwyno ein hymchwil i staff, a wnaeth wedyn ddatblygu’r Sesiwn Sefydlu Dysgu Canolog newydd.

Ynghyd â rhoi adborth cyffredinol ar y newidiadau i’r Sesiwn Sefydlu Dysgu Canolog, fe wnes i hefyd helpu i greu fideos sgrinlediad esboniadol i fyfyrwyr. I wneud hyn, creais sgriptiau ar feysydd penodol o Dysgu Canolog – byrddau trafod, gwe-lywio, hygyrchedd symudol. Nesaf, recordiais y rhain gan ddefnyddio meddalwedd recordio sgrîn a’u hanfon i staff i’w cynnwys yn y Sesiwn Sefydlu Dysgu Canolog.

Wrth i fis Medi nesáu, mae’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn parhau i weithio gyda staff i wneud newidiadau terfynol i’r Sesiwn Sefydlu Dysgu Canolog er mwyn sicrhau bod dysgu ar-lein yn gallu rhedeg yn esmwyth ac yn llwyddiannus i fyfyrwyr. Dwi’n meddwl y bydd gwaith yr Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cael effaith gadarnhaol ar bob myfyriwr yn y flwyddyn academaidd nesaf, a all fod yn hyderus bod anghenion myfyrwyr yn cael eu bodloni!

Darganfyddwch mwy am y cyflwyniad hwn i ddysgu ar-lein a digidol ym Mhrifysgol Caerdydd