Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrParatowch ar gyfer eich dyfodolPlacementsStudent Stories

Grzegorz: Pam dod yn fyfyriwr hyrwyddo?

19 Mai 2020

Fy enw i yw Grzegorz ac rwy’n fyfyriwr PhD ar fy mlwyddyn olaf mewn Microbioleg Fferyllol. Bûm yn Hyrwyddwr Myfyrwyr am bron i ddwy flynedd ac roedd yn brofiad gwerthfawr iawn. Wrth fod yn Hyrwyddwyr Myfyrwyr cefais gyfle i siarad â llawer o fyfyrwyr am faterion cyfredol yn y brifysgol. At hynny, cefais brofiad trwy’r cynllun hefyd o gynllunio a threfnu ymgyrchoedd ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau amrywiol fel rhan o dîm mawr. Felly, wrth fod yn Hyrwyddwr Myfyrwyr cefais ddigon o gyfleoedd i wella sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm a threfnu. 

Rôl Hyrwyddwr Myfyrwyr yw ymgysylltu â myfyrwyr drwy arolygon, gweithdai, grwpiau ffocws ac ati i gael adborth ar yr hyn y mae myfyrwyr yn hoffi am y brifysgol a beth y gellid ei wella. Mae ymgysylltiad â myfyrwyr yn hynod bwysig i’r brifysgol a dadansoddir yr holl adborth a gronnwyd gan Hyrwyddwyr Myfyrwyr a gweithredir arno er mwyn gwneud newidiadau ar gyfer y dyfodol. Roedd gweithio i Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn brofiad gwych. Y tasgau y gwnes i eu mwynhau fwyaf oedd y cyfarfodydd Hyrwyddwyr Myfyrwyr. Roedd hyn gan i ni gael llawer o ryddid ar sut roeddem am hyrwyddo’r gwahanol weithgareddau o amgylch y campws. Cynigiom ddulliau diddorol iawn ac, fel mae’n digwydd, roeddynt yn ddulliau effeithiol iawn o hyrwyddo. Bydd y syniadau hyn yn sicr o osod sylfaen ar gyfer cynlluniau Hyrwyddwyr Myfyrwyr am flynyddoedd i ddod. 

Mae yna nifer o resymau pam y dylech chi fod yn Hyrwyddwr Myfyrwyr. Uchafbwynt y cynllun hwn i mi oedd gweithio mewn grŵp cefnogol ac ymroddedig o bobl a oedd yn llawn syniadau gwych ac yna’n gallu gweithredu’r rheini yn ymarferol. Mae cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn parhau i ddatblygu. Roedd hyn yn amlwg i mi yn ystod fy ail flwyddyn fel Hyrwyddwr Myfyrwyr a chefais foddhad o fod yn rhan o’r datblygiad hwn. Fy nghyngor i ar gyfer Hyrwyddwyr Myfyrwyr y dyfodol fyddai peidio â bod ofn rhannu eich barn a’ch syniadau gan eu bod i gyd yn ddefnyddiol i symud prosiectau Hyrwyddwyr Myfyrwyr ymlaen. Bydd hyn yn rhoi profiad gwych i chi o waith tîm a chyfathrebu a all fod yn fuddiol yn eich gyrfa yn y dyfodol lle gallai cyfarfodydd o’r fath fod yn rhan reolaidd o’ch agenda wythnosol.

Grzegorz, myfyriwr PhD blwyddyn olaf mewn Microbioleg Fferyllol

Diddordeb?

Cyflwynwch gais trwy ‘Eich Cyfrif Gyrfaoedd’ – bydd y ceisiadau’n cau ar Dydd Gwener, 19 Mehefin.

Rydym yn gwrando ar fyfyrwyr ac yn gwerthfawrogi eich barn a’ch sylwadau ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda, a beth allwn ei wneud yn well. Dewch i wybod am y llu o ffyrdd y gallwch rannu eich barn a’ch sylwadau a gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol.

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.