Skip to main content

Academic Study SkillsCefnogi eich astudiaethHyrwyddwyr MyfyrwyrNew Students

Fy ngwaith gyda staff i helpu i lunio ein haddysg ddigidol

22 Medi 2020
Clarissa, MSc yn yr Amgylchedd a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Fy enw i yw Clarissa a dwi’n astudio MSc yn yr Amgylchedd a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Dwi wedi bod yn hyrwyddwr ymgysylltu â myfyrwyr ers mis Hydref diwethaf ac, ers diwedd mis Mawrth (dechrau’r cyfnod cloi), dwi wedi bod yn gwneud y rôl hon o bell. Mae’r cyfleoedd hyn o bell wedi fy ngalluogi i chwarae mwy o ran yn gwella adnoddau dysgu digidol i fyfyrwyr.

Un o’r prif heriau y mae’r brifysgol yn eu hwynebu, fel y bydd llawer o brifysgolion eraill, yw addasu i addysgu o bell a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr i’w galluogi i ffynnu’n academaidd heb fawr o addysg wyneb-yn-wyneb. Mae staff yn y brifysgol wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau bod y broses bontio hon i ddysgu o bell yn digwydd mor esmwyth â phosib ac fel rhan o’r pontio bu’n rhaid diweddaru adnoddau digidol presennol a chreu rhai newydd i baratoi myfyrwyr presennol a newydd.

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn rhan o’r gwaith o adolygu’r Modiwl Sefydlu Dysgu Canolog drwy gynnig adborth ar gynnwys, cyflwyniad a defnydd i sicrhau bod y modiwl yn barod i roi gwybodaeth allweddol i fyfyrwyr, yn arbennig myfyrwyr blwyddyn gyntaf.

Dwi hefyd wedi bod yn rhoi adborth ar gynnwys newydd fel ‘sesiwn sefydlu ar ddysgu ar-lein a digidol ym Mhrifysgol Caerdydd’ ynghyd â chynnig awgrymiadau ar rywfaint o’r cynnwys, gan gynnwys awgrymiadau ar ddysgu o bell a geirdaon tiwtor personol.

A minnau’n fyfyriwr fy hun, dwi’n gobeithio y bydd fy awgrymiadau’n ddefnyddiol a pherthnasol i fyfyrwyr ac yn gwneud iddyn nhw deimlo nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae dysgu o bell yn her newydd i bawb ond gyda chefnogaeth ddigonol gall yr her hon hefyd ddod ag ymdeimlad mawr o gyflawniad i’r rheini sy’n ei goresgyn.

Darganfyddwch mwy am y cyflwyniad hwn i ddysgu ar-lein a digidol ym Mhrifysgol Caerdydd