Fy mhrofiad i yn y Wobrwyo Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn Target Jobs – Jack
5 Rhagfyr 2019
Jack Winkles, myfyriwr MA Peirianneg Sifil ac yn rownd derfynol Gwobr ‘Peirianneg ac Adeiladu’ yn dweud wrthym am ei brofiad yn y Wobrwyo Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn.

Roedd Seremoni Wobrwyo Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn Target Jobs yn brofiad gwych. Roedd 14 gwobr, pob un wedi’u noddi gan gwmni gwahanol. Noddwr y wobr Peirianneg ac Adeiladu oedd Laing O’Rourke – cwmni ag enw da rhyngwladol sy’n canolbwyntio ar arloesedd a dylunio arloesol – gyda holl gostau’r wobr wedi’u talu, a lleoliad dros yr haf â thâl ar un o’u prosiectau blaenllaw unrhyw le yn y byd.
Dechreuodd y broses ymgeisio gyda nifer o brofion ar-lein gan gynnwys profion mathemateg, rhesymeg, a phersonoliaeth. Roedd y prawf personoliaeth yn cynnwys dros 100 o gwestiynau yn seiliedig ar sefyllfaoedd ‘bywyd go iawn’ neu ar nodweddion personoliaeth personol, gydag atebion i’w gosod yn nhrefn y mwyaf cywir i’r lleiaf cywir. Roedd y profion hyn mor drylwyr fel bod 90% o’r cystadleuwyr yn cael eu diystyru ar y cam hwn. Roedd y cam nesaf yn cynnwys dau gwestiwn ar ffurf traethawd: y cyntaf oedd “Yn eich barn chi, beth yw’r syniad arloesol pwysicaf sydd ar y gweill ym maes peirianneg ac adeiladu?”, a’r ail “Pe baech chi’n gallu gweithio ar unrhyw brosiect adeiladu blaenorol, pa un byddech chi’n ei ddewis a pham?”. Roedd fy ateb i’r cyntaf yn seiliedig ar ddatblygiad a’r defnydd o goncrit sy’n trwsio ei hun o ganlyniad i’r swm anhygoel o arian ac adnoddau a fydd yn cael ei arbed, a’r ail ar y Burj Khalifa – y nendwr uchaf yn y byd ar hyn o bryd, sy’n 830m o uchder.
Unwaith i’r traethodau gael eu cyflwyno, bu’n rhaid i mi aros tua mis cyn cael y newyddion ffantastig fy mod i drwodd i’r rownd nesaf. Diwrnod asesu oedd y cam hwn ym mhrif swyddfeydd Laing O’Rourke yn Dartford. Roedd 15 – 20 o ymgeiswyr eraill wedi cyrraedd y cam hwn, a oedd yn cynnwys tasg grŵp awr o hyd gyda thua 6 ymgeisydd yn trafod prosiect o’r gorffennol, wedi’i ddilyn gan gyflwyniadau unigol ar pam mai ni oedd yn haeddu bod yn fyfyriwr israddedig y flwyddyn. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ac fe gefais wahoddiad maes o law yn fy ngwahodd i’r seremoni wobrwyo yn Canary Wharf.
Dechreuodd y seremoni am hanner dydd, gyda derbyniad prosecco lle’r oedd gennym gyfle i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiannau a chwrdd ag ymgeiswyr o wobrau eraill. Yma fe wnes i gwrdd ag Alex Stickler – cyn enillydd un o’r gwobrau a chynfyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe wnes i gysylltu ag ef yn flaenorol i ofyn am gyngor ynghylch y diwrnod asesu. Ar ôl y derbyniad, symudon ni i’r byrddau ac, ar ôl croeso byr, gwnaethom fwynhau pryd o fwyd 3 chwrs, cyn i’r gwobrau gael eu cyflwyno gan Rachel Riley. Er mor nerfus oeddwn i wrth i’r gwobrau gael eu cyhoeddi, roedd y diwrnod cyfan yn brofiad gwych ac roedd cyrraedd cam mor bell yn y flwyddyn gyntaf yn gamp dwi’n falch ohoni. Roedd bendant werth gwneud cais ar gyfer y wobr gan ei bod yn cynnig profiad amhrisiadwy ac yn gyfle i ennill gwobrau sy’n newid bywydau.
Jack Winkles, myfyriwr MEng Peirianneg Sifil
Gwneud i 2020 gyfrif i chi!
Mae profiad gwaith yn rhan bwysig o daith eich gyrfa, Mae’n rhoi dealltwriaeth i chi o’r diwydiant o’ch dewis ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i wneud argraff ar ddarpar gyflogwyr.
I gael gwybod mwy am sut gallwn eich helpu, ewch i adran ‘Eich dyfodol’ y fewnrwyd a pharatowch ar gyfer eich profiad gwaith gyda’r Pecyn Profiad Gwaith.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.