Fy mhrofiad i yn y Wobrwyo Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn Target Jobs – Alice
5 Rhagfyr 2019

Shwmae, Alice ydw i a dwi’n dod o Rydychen. Ar hyn o bryd, rwy’n fyfyriwr Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol yn fy nhrydedd flwyddyn. Yn gynharach eleni roeddwn yn rownd derfynol Gwobr ‘Gweithredu Cymdeithasol Effeithiol’ yn y Wobrwyo Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn Target Jobs.
Dwi wrth fy modd bod fy ngradd yn addysgu pethau ymarferol am y byd o’m cwmpas i, fel sut mae anghydraddoldebau’n cael eu cynnal a sut gellir cael gwared arnyn nhw. Dyma rywbeth dwi’n gweithio arno yn rhan o’m rôl fel Prif Gynrychiolydd i gainc Caerdydd SolidariTee – ymgyrch a arweinir gan fyfyrwyr sy’n gwerthu crysau T i godi arian dros Gymorth Cyfreithiol i Ffoaduriaid. Mae sefydlu’r gainc hon yng Nghaerdydd wedi bod yn brofiad anhygoel, a phan welais i hysbyseb Target Jobs ar gyfer y Wobr i Fyfyriwr Israddedig Gwaith Cymdeithasol y Flwyddyn, meddyliais i y byddai’n gyfle gwych i ledaenu’r gair am SolidariTee a’r gwaith dw i wedi’i wneud. Gwnaeth y ffaith bod Teach First ac ymgyrch #iwill yn noddi’r wobr fy annog yn gryf i gyflwyno cais amdani, gan fod eu gwaith i leddfu anghydraddoldebau addysgol a chynnwys pobl ifanc mewn gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol yn bethau dwi’n angerddol drostyn nhw.

Ar ôl cael llwyth o ebyst gan Target Jobs ynghylch y gwobrau, ymchwiliais i iddyn nhw ymhellach ac fe wnes i benderfynu cyflwyno cais. Llynedd oedd degfed flwyddyn y gwobrau sydd wedi dod yn ddigwyddiad urddasol diolch i noddwyr pob un o’r 14 gwobrau sy’n cynnig interniaethau a chyfleoedd fel y gwobrau. Roeddwn i’n un o 4542 o fyfyrwyr ar draws y wlad a gyflwynodd gais am y gwobrau, yn un o 552 o fyfyrwyr a gyrhaeddodd y rhestr fer i fynd i ganolfannau asesu, yn un o 133 yn y rownd derfynol, ac yn un o 10 cystadleuydd yn rownd derfynol Gwobr Gweithredu Cymdeithasol Effeithiol.
Roedd y broses ymgeisio yn cynnwys gwneud cais ar-lein lle rhoddais i fy ngraddau a fy manylion i mewn iddo. Fe wnes i hefyd ateb rhai cwestiynau hir ynghylch fy ngwaith elusennol a phwysigrwydd gweithredu cymdeithasol heddiw. Ar ôl cwblhau hyn ac anghofio amdano am sbel, ces i wahoddiad i wneud profion ar-lein oedd yn cynnwys cyfuniad o Brofion Dyfarnu Sefyllfaol, profion Rhesymu Casgliadol a Rhifiadol, profion Personoliaeth Galwedigaethol a rhai cwestiynau pwrpasol a gynhwysodd Teach First ac ymgyrch #iwill er mwyn profi fy ngwybodaeth o’r diwydiant ac fy syniadau ar gyfer y sector. Ar ôl ymarfer rhai profion tebyg drwy Wobr Caerdydd, roeddwn i’n ystyried y cam hwn yn bosibl ond yn heriol – mae hi wastad yn anodd gwybod sut byddech yn ymddwyn mewn sefyllfaoedd damcaniaethol!
Unwaith eto, ar ôl gwneud cam hwn yn y broses ymgeisio, anghofiais i am y gwobrau’n gyfan gwbl tan i mi gael ebost oedd yn gofyn i mi fynd i ganolfan asesu yn Llundain i gael cyfweliad ar sail cymhwysedd a rhoi cyflwyniad 5 munud ar fy maes gweithredu cymdeithasol. Mae’n anodd gwybod beth i’w ddisgwyl am y cyfweliad ond roedd yr adnoddau ar Target Jobs a Thaith Eich Gyrfa yn ddefnyddiol iawn i mi gael syniad gwell o’r hyn a ellir ei ofyn i mi. Yn y diwedd roedd y cyfwelydd yn gyfeillgar iawn ac roedd y profiad o gwrdd ag ymgeiswyr eraill, rhwydweithio â’r noddwyr dros ginio a threulio’r diwrnod yn swyddfa Llundain Teach First yn hwyl ac yn foddhaus! Er fy mod wrth fy modd yn cwrdd ag unigolion tebyg eu meddylfryd sy’n weithgar yn gymdeithasol, roeddwn i’n ei gweld hi’n anodd credu y byddwn i’n cyrraedd y 10 olaf o blith 40 ohonom ni gyda’u holl waith elusennol ac ymgyrchoedd anhygoel. Roeddwn i’n gegrwth pan ges i’r ebost diwethaf oedd yn dweud i mi gyrraedd y rhestr fer am y wobr, ynghyd â gwahoddiad i’r seremoni wobrwyo flynyddol yn Canary Wharf.

Cynhaliwyd y diwrnod am 12 tan 5pm yn Llundain, a chynhwysodd dderbyniad diodydd, pryd tair saig a seremoni a gyflwynwyd gan Rachel Riley. Roedd hi’n teimlo fel rhywbeth allan o’r Apprentice gyda phawb yn eu siwtiau a’u gwisgoedd, gyda phedwarawd tant yn chwarae i ni. Fodd bynnag, des i’n gyfarwydd â’r amgylchiadau pan ddes i ar draws y 9 ymgeisydd arall am fy ngwobr, yr oeddwn i wedi cwrdd â rhai ohonynt yn y ganolfan asesu, a’r staff a’m cyfwelodd i. Roedd hi’n braf cael y cyfle i siarad mwy â nhw dros ginio a chlywed am waith ysbrydoledig fy nghyd-enwebeion. Wedi’r cinio, aeth Rachel Riley i’r llwyfan a dechreuodd y seremoni wobrwyo’n swyddogol. Traddododd araith ardderchog ynghylch defnyddio ei statws am chwalu rhagfarnau ar sail casineb a rhywedd, ac yna cyflwynodd bob un o’r gwobrau a’r ymgeiswyr olaf ar eu cyfer, cyn croesawu siaradwr gwadd o noddwyr y wobr i ddatgan yr enillwyr.
Er i mi beidio ag ennill y Wobr Gweithredu Cymdeithasol Effeithiol, ces i amser anhygoel wrth ddod i nabod yr ymgeiswyr eraill, clywed am waith holl enillwyr y gwobrau eraill a rhwydweithio gyda chynrychiolwyr Teach First ac ymgyrch #iwill. Roedd hi’n braf gweld cynifer o fyfyrwyr yn gwneud cymaint o bethau gwych ac yn cael cydnabyddiaeth amdanyn nhw mewn digwyddiad mor urddasol a bythgofiadwy, ac rwy’n falch o fod wedi gallu cynrychioli Caerdydd.
I unrhyw un sy’n ystyried cyflwyno cais i unrhyw rai o’r gwobrau, peidiwch ag oedi! Roedd yr holl broses o’r cais i’r ganolfan asesu yn brofiad dysgu enfawr ac roedd hi’n anhygoel cwrdd â myfyrwyr mor angerddol ar hyd y ffordd. Byddwn i’n dweud, peidiwch â phoeni am fod ‘y gorau yn yr ystafell’, achos beth ddysgais i o’r profiad i gyd oedd y gall unrhyw un fod yn anhygoel ac yn ddylanwadol, ond nid yw hynny’n golygu nad ydych chithau. Os unrhyw beth, mae’r gwobrau hyn yn eich galluogi i gwrdd â phobl debyg eu meddylfryd mewn dathliad i fyfyrwyr y DU.
Alice Abrey, myfyriwr 3edd Flwyddyn Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol
Gwneud i 2020 gyfrif i chi!
Mae profiad gwaith yn rhan bwysig o daith eich gyrfa, Mae’n rhoi dealltwriaeth i chi o’r diwydiant o’ch dewis ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnoch i wneud argraff ar ddarpar gyflogwyr.
I gael gwybod mwy am sut gallwn eich helpu, ewch i adran ‘Eich dyfodol’ y fewnrwyd a pharatowch ar gyfer eich profiad gwaith gyda’r Pecyn Profiad Gwaith.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.