Ffion: “pam y dewisais bod yn fentor i fyfyrwyr”
12 Chwefror 2020
“Helo bawb, fy enw i yw Ffion, ac rwy’n fyfyrwraig meistr integredig yn fy mhedwaredd flwyddyn yn Ysgol y Biowyddorau, a hefyd Ymgynghorydd Mentora ar gyfer Mentoriaid Myfyrwyr y Biowyddorau. Rwyf wedi bod yn rhan o’r Cynllun Mentora Myfyrwyr am rai blynyddoedd nawr, ac roeddwn yn rhan o’r garfan gyntaf o Fentoriaid Myfyrwyr y Biowyddorau.
Os ydych yn darllen hyn, mae’n debyg eich bod yn ystyried ymgeisio i fod yn Fentor Myfyrwyr neu Ymgynghorydd Mentora, ac rwy’n eich annog i wneud hynny. Ni fyddwch yn ei ddifaru! Fe gyfaddefaf imi fod ag amheuon ynghylch ymgeisio i fod yn Fentor Myfyrwyr. Y pryd hynny, roeddwn yn nesu at ddiwedd fy ail flwyddyn, ac roedd gen i bryderon ynghylch cydbwyso cyfrifoldebau bod yn Fentor Myfyrwyr a gwaith cwrs y drydedd flwyddyn, arholiadau, fy nhraethawd hir, a phopeth arall. Roeddwn yn cymudo, ac yn dal i wneud, felly roedd hynny’n agwedd arall a oedd yn peri pryder i mi. Ychydig a wyddwn taw y pethau hyn roeddwn yn pryderu amdanyn nhw fyddai rhai o’r agweddau mwyaf gwerthfawr a defnyddiol ar y cynllun!
Fel y gallwch fod wedi dyfalu, rhoddais fy mhryderon i’r neilltu a mynd amdani! Ac rwy’n hynod falch imi wneud hynny. Deuthum yn rhan o gymuned gyfeillgar a chynnes sy’n fy nghefnogi gyda phopeth; fe wnes i gwrdd â phobl newydd, ac yn bwysicaf oll, cefais helpu myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf wrth imi ddatblygu’r sgiliau i sicrhau bod fy CV yn gadael argraff.
Mae mentoriaid myfyrwyr yn hynod bwysig. Fel y byddwch siŵr o fod yn cofio, pan ddechreuoch chi fel myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, roedd popeth yn newydd ac yn frawychus braidd, ac efallai nad oeddech yn nabod unrhyw un yn eich darlithoedd (yn enwedig oes oeddech yn cymudo!), ac efallai nad y darlithwyr oedd y bobl gyntaf y byddech chi am ofyn “cwestiynau twp” iddyn nhw. Dyna ble mae’r Mentor Myfyrwyr yn dod i’r amlwg! Nid oes y fath beth â chwestiynau twp i ni. Rydyn ni yma i lywio cyd-fyfyrwyr trwy eu blwyddyn gyntaf, gan gynnig cyngor ynghylch bywyd yn y brifysgol, a darparu grŵp ‘craidd’ fel bod wastad gennych bobl i siarad â nhw. Yn fy mhrofiad i, rwy’n gwybod bod y ffaith bod gennych bobl i siarad â nhw yn gwneud gwahaniaeth mawr i sut rydych yn teimlo yn y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol, yn bell o gysuron y cartref a ffrindiau ysgol. Mae’n hyfryd i mi weld bod fy nghyn-fentoreion yn ffrindiau agos o hyd, hyd yn oed flynyddoedd wedyn. Mae bod yn Ymgynghorydd Mentora yr un mor werthfawr, am y byddwch yn darparu rhwydwaith o gyngor a chefnogaeth i’ch Mentoriaid Myfyrwyr yn eu rôl.
Mae’r agwedd datblygu sgiliau yn wobr anferthol am gymryd rhan yn y cynllun. Gallwch wneud rhestr mor hir â’ch braich o’r sgiliau y gwnewch chi eu datblygu. Fy hoff rai i yw arwain a threfnu. I fod yn Fentor Myfyrwyr neu Ymgynghorydd Mentora rydych yn arwain grŵp bychan o bobl, cynllunio sesiynau yn ôl amrywiol amserlenni, creu a chyflwyno cynnwys, a chydbwyso popeth gyda’ch gradd. Mae hyn yn haws nag y mae’n swnio, am taw dim ond cwpwl o oriau yr wythnos y mae’n rhaid eu hymrwymo, ond mae’n gofyn ichi reoli eich amser yn effeithiol. Mae cyflogwyr wrth eu boddau â hynny. Ac mae’n rhoi rhywbeth diddorol ichi siarad amdano yn ystod cyfweliadau.
Felly, yn fras, os ydych yn ystyried ymgeisio – ewch amdani! Mae’n beth gwych i fod yn rhan ohonoJ”
Rydym yn recriwtio Mentoriaid Myfyrwyr gwirfoddol newydd nawr!
Helpwch lasfyfyrwyr yn eich ysgol, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael tystysgrif! Chwiliwch am “Mentor Myfyrwyr” ar y fewnrwyd i gael gafael ar ddisgrifiad o’r rôl a’r ffurflen gais ar-lein a chyflwyno cais erbyn dydd Gwener 6 Mawrth. Mae’r holl fentoriaid myfyrwyr yn cael hyfforddiant llawn, goruchwyliaeth a chefnogaeth – rydym yma i’ch helpu yn eich rôl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig fydd yn dychwelyd i’r campws ym mis Medi 2020.

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.