Skip to main content

Cyngor ar gyfer byw yng Nghaerdydd a'r DUMore

Felly, rydych yn chwilio am dŷ?

2 Rhagfyr 2020
Ysgrifennwyd gan Hannah, intern Cyngor ac Arian

P’un ai eich tŷ cyntaf neu eich trydydd un yw e, mae’n bwysig eich bod yn dod o hyd i’r un iawn i chi (gyda’r bobl iawn).

Gall chwilio am dŷ fod yn ddifyr, ond peri straen weithiau – yn aml rydych yn teimlo eich bod yn rasio yn erbyn grwpiau eraill o fyfyrwyr i gael y tŷ gorau am y pris isaf. Ar ben hynny, mae llofnodi am dŷ yn ymrwymiad ariannol sylweddol. Rwyf wedi creu rhestr wirio o beth i’w wneud a’i osgoi i’ch helpu gyda’r broses!

Nid yw byth yn werth brysio

Dyma’r sefyllfa ystrydebol – ym mis Tachwedd eich blwyddyn gyntaf, rydych wedi cwrdd â grŵp gwych o bobl ac yn sydyn rydych yn chwilio am dŷ allai ffitio 10 ohonoch chi. Nid ydych chi eisiau colli’r cwch a bod heb opsiynau eraill am lety, ond dim ond am fater o fisoedd rydych wedi bod yng Nghaerdydd, ac yn ddealladwy, mae’n teimlo’n rhy fuan i wneud penderfyniadau ar gyfer yr haf nesaf.

Byddwn i’n cynghori aros! Mae rhuthro i mewn i dŷ gyda phobl nad ydych yn eu nabod ers amser hir, mewn ardal nad ydych yn gwbl gyfarwydd â hi yn rysáit am drychineb posibl! Mae cannoedd o letyau ar gael i fyfyrwyr o gwmpas campws y brifysgol, a hyd yn oed os arhoswch chi tan fis Mai, fe ddewch chi o hyd i rywbeth!

Peidiwch â gadael i’r pwysau amser effeithio arnoch, a chofiwch fod landlordiaid ac asiantaethau tai eisiau i chi lofnodi cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag ymrwymo i gontract oni bai eich bod 100% yn siŵr, fel arall byddwch yn talu rhent am flwyddyn gyfan am rywle nad ydych yn fodlon arno.

Tynnwch luniau

Diwrnod mudo tŷ! Ar ôl i chi ddyrannu ystafelloedd (penderfynwch ar ystafelloedd yn deg a chyn i chi symud i mewn), gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu lluniau cyn i chi symud unrhyw beth o’ch eiddo i mewn. Gallai hyn gynnwys y waliau, y ddesg, y llawr, unrhyw ddodrefn arall – ym mhob ystafell o’r tŷ. Gellir defnyddio’r lluniau hyn i ddangos cyflwr y tŷ pan symudoch chi i mewn gyntaf, ac osgoi wynebu costau am ddifrod na achosoch chi. Felly, os gallwch brofi bod y difrod yno cyn i chi symud i mewn, byddwch yn arbed arian rhag cael ei dynnu o’ch blaendal!

Biliau

Mae wastad yn peri straen cyfrifo biliau, felly mae’n werth chweil neilltuo amser i ddod o hyd i’r fargen orau. Hefyd, rwy’n argymell rhannu’r swydd hon ymhlith eich cyd-letywyr fel eich bod i gyd ar yr un dudalen ac wedi cyfrannu.

Mae Virgin Media wastad â bargeinion da am Wi-Fi i fyfyrwyr, ac yn aml byddant yn rhoi arian i chi atgyfeirio ffrind atynt. Dylech chi osgoi rhai cwmnïau sydd ag enw drwg am godi crocbris ar fyfyrwyr, felly mae’n bwysig gwneud ymchwil. Gweler https://rateyourlandlordcardiff.com/ am gyngor gan fyfyrwyr o’r gorffennol a’r presennol i gael gwybod pa asiantaethau tai, landlordiaid a chwmnïau biliau sy’n dda neu sydd i’w hosgoi yng Nghaerdydd.

Trafferthion beunyddiol ag arian

Gan ddibynnu ar faint eich tŷ, yn aml mae’n werth agor cyfrif banc newydd i’w rannu ymhlith y tenantiaid i gyd, fel gallan nhw dalu eu rhent, eu biliau ac unrhyw dreuliau eraill yn fisol. Yna, o hyn, gellir gwneud taliadau rheolaidd i’r asiantaeth tai a’r cwmnïau biliau mewn un trafodiad.

O’r cyfrif hwn, gall aelwydydd brynu darpariaethau cyffredin i’r tŷ, fel papur tŷ bach, llaeth, unrhyw gynhyrchion glanhau ac ati. Er bod hyn yn gwneud bywyd ychydig yn haws, gwnewch yn siŵr bod pob cyd-letywr yn cytuno i’r pethau sy’n cael eu prynu!

Am gael rhagor o awgrymiadau?

Cadwch lygad ar y blogiau, fideos ac awgrymiadau diweddaraf drwy ein dilyn ni ar Facebook.

Cysylltwch â ni yng Nghyllid a Chyngor Myfyrwyr

Mae’r Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yma i’ch helpu. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill.

Ffôn: +44 (0)29 2251 8888 opsiwn 5

Ebost: studentfundingandadvice@caerdydd.ac.uk.

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy nodi eich sylwadau yn y bar sylwadau isod, a gofynnwch eich cwestiynau os oes unrhyw beth pellach yr hoffech ei wybod.