Skip to main content

Cardiff AwardParatowch ar gyfer eich dyfodol

Dyma Violina Sarma, Enillydd Gwobr Mynd yr Ail Filltir Caerdydd 2019/20

3 Ebrill 2020

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ymuno â Gwobr Caerdydd?

Y syniad o gael cydnabyddiaeth ar gyfer pob un o’m gweithgareddau allgyrsiol wnaeth fy annog i ymuno â Gwobr Caerdydd. Roeddwn i eisiau gwella fy sgiliau cyflogadwyedd, ynghyd â chael profiadau ymarferol. Llwyddais i gyflawni llawer mwy na fy nodau cychwynnol. Fy ngweithgaredd cyntaf ar gyfer y wobr hon oedd Dangosydd Personoliaeth ac roedd yn agoriad llygad mewn sawl ffordd. Amlygodd fy nghryfderau a fy ngwendidau fel ei gilydd. Bydd hyn yn help mawr i mi wrth ysgrifennu ceisiadau am swyddi yn y dyfodol.

A wnaeth Gwobr Caerdydd eich helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd yn eich barn

Do, roedd yn help mawr i mi. Er enghraifft, mewn cais am swydd diweddar y cwestiwn mawr cyntaf oedd “Amlygwch sgiliau, rhinweddau a gwerthoedd penodol sy’n eich gwneud yn wahanol a sut gall yr agweddau hyn gyfrannu at y lwyddiant yr adran yn y dyfodol.” Roeddwn yn gwybod yn union ble i edrych i gael yr ateb h.y. fy nghofnodion myfyrio. Roedd mor hawdd cymryd gwybodaeth o’r cofnodion a llunio ateb cynhwysfawr i’r cwestiwn hwn. Y ffurflen gais yw cam cyntaf i unrhyw broses o wneud cais am swydd, ac mae’n bwysig gwneud argraff gyntaf dda.

Yn eich barn chi, sut rydych wedi elwa o gwblhau Gwobr Caerdydd?

Rwyf wedi magu llawer o hyder yn fy sgiliau cyflogadwyedd. Gyda fy nghofnodion myfyrio, gallaf weld sut mae fy mhrofiadau gwahanol yn gwneud i mi ragori ar ymgeiswyr eraill sy’n chwilio am swyddi. Yfory, os bydd cyfwelydd yn gofyn cwestiynau gwahanol i mi am sgiliau yn seiliedig ar werth rwyf yn gwybod fy mod yn gallu eu hateb gydag enghreifftiau.

Violina yn ei rôl Bywyd Preswyl y defnyddiodd ar gyfer ei Gwobr Caerdydd

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am Wobr Caerdydd?

Fe wnes i fwynhau ysgrifennu fy nghofnodion myfyrio ar gyfer y wobr hon. Rwyf wedi cymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau allgyrsiol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, collais gyfrif arnynt. Ond fe wnaeth y cofnodion hyn fy helpu i fyfyrio ar fy mhrofiadau ym mhob rôl/gweithgaredd. Roeddwn yn gallu gweld sut roeddwn i wedi datblygu gwahanol sgiliau personoliaeth o bob un o’r profiadau hyn. Cymerais ran mewn rhai rolau oherwydd angerdd a hwyl, heb sylweddoli bod pob un o’r gweithgareddau hynny wedi helpu i lywio fy mhersonoliaeth mewn rhyw ffordd.

A fyddech yn argymell y wobr i fyfyrwyr eraill?

Byddwn yn argymell y wobr hon i fyfyrwyr yn fawr. Mae’n gwella eich CV yn sylweddol, drwy ddangos eich bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill y tu allan i raglen eich gradd, ond hefyd, mae’n eich helpu i wella eich sgiliau cyflogadwyedd yn fawr. Mae’r wobr hon yn eich paratoi ar gyfer eich bywyd ar ôl graddio. Mae Ymchwilwyr Ôl-raddedig, fel fi, yn cymryd rhan mewn sawl gweithgaredd allgyrsiol, o drefnu digwyddiadau i addysgu yn y brifysgol. Defnyddiwch yr oriau hynny i fod gam ar y blaen ar LinkedIn drwy’r wobr hon. Mae’n ychwanegiad gwerthfawr i’ch ceisiadau am swyddi gan ei fod yn dangos amrywiaeth o brofiadau.

Unrhyw beth yr hoffech ei ychwanegu?

Ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried swydd academaidd, mae’r wobr hon yn eich helpu i lunio restr fer o’ch dewisiadau wrth chwilio am swyddi perthnasol. Roeddwn i wedi drysu, wrth feddwl am ba fath o swyddi
Rwyf am wneud cais am swyddi ôl-ddoethurol neu ddarlithio. Ar ôl cwblhau’r wobr hon, gallaf weld fy hun yn ffafrio un swydd dros y llall.

Violina Sarma, Ymchwilydd Ôl-raddedig (Astudiaeth Busnes)

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.