Skip to main content

Cardiff AwardParatowch ar gyfer eich dyfodolStudent Mentors

Dyma Bethany Lane: Myfyrwyr Cymeradwyaeth Uchel Gwobr Caerdydd

8 Ebrill 2020

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ymuno â Gwobr Caerdydd?

Roeddwn i wedi clywed llawer am Wobr Caerdydd, ac, yn ôl pob golwg, eisoes yn gwneud llawer o bethau a allai gyfrannu ati, fel bod yn Fentor Myfyrwyr. Meddyliais i byddai’n werth mynd yr ail filltir a gweithio tuag ati, achos byddai’n fy ngalluogi i ddysgu mwy am ddatblygu fy sgiliau cyflogadwyedd hefyd.

Pan ddechreuais i’r Wobr, roeddwn i am ddod o hyd i ffordd o fyfyrio ar y rolau a’r profiad gwaith yr oeddwn wedi’u cael ac yn ymgymryd â nhw. Y cofnod myfyrio oedd y lle perffaith ar gyfer hynny, a gyda’r cyfle i fyfyrio ar fy rolau, gallwn i ddatblygu fy sgiliau cyflogadwyedd oherwydd roeddwn i’n gallu gweld yr hyn yr oeddwn yn ei wneud yn dda a’r hyn y gallwn i ei wella.

Hefyd, roeddwn i am wella fy ffordd o gyflwyno ceisiadau am swyddi. Roedd hyn yn cynnwys sut rwy’n ysgrifennu fy CVs a’m llythyrau eglurhaol yn ogystal â sut i fod yn fwy pwyllog ac ateb cwestiynau yn well mewn cyfweliadau. Ni wnaeth yr e-ddysgu gymryd amser maith. Sylwais i ar welliannau ar ôl i mi ei orffen a bydd hyn yn ddefnyddiol i mi ar ôl y brifysgol. Gwnaeth y CV a’r llythyr eglurhaol a ysgrifennais arwain at gael cyfweliadau. Llwyddais i gyflawni fy nodau cychwynnol a bellach rwy’n fwy hyderus gyda’r pethau hyn, diolch i Wobr Caerdydd.

A wnaeth Gwobr Caerdydd eich helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd yn eich barn chi?

Gwnaeth Gwobr Caerdydd fy annog i fyfyrio ar fy mhrofiadau a datblygu fy agwedd at y broses ymgeisio, fel y gallwn wella fy sgiliau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Ers gweithio drwy’r elfennau ar-lein, rydw i wedi gwella fy mhroffil LinkedIn ac wedi gweld y gall fod yn adnodd defnyddiol, nid yn unig i wneud cysylltiadau ond hefyd i ddarganfod gyrfaoedd a phrofiad gwaith weithiau hyd yn oed.

A fyddech yn argymell y wobr i fyfyrwyr eraill?

Byddwn yn argymell y Wobr hon i fyfyrwyr eraill yn fawr. Roedd yn brofiad gwerth chweil, ac roeddwn i’n teimlo’n falch o’i chyflawni.
Mae gen i ambell i awgrym sydd wedi fy helpu:

1) Peidiwch â phryderu! Gallwch gymryd eich amser, hyd yn oed os ydych am ei chyflawni ymhen blwyddyn. Ni ddylai’r modiwlau ar-lein gymryd llawer o amser, ac mae’r tîm yn hynod gefnogol os oes unrhyw broblemau gyda chi.
2) Yn ôl pob tebyg, rydych eisoes yn gwneud rhywbeth all gyfrannu tuag at yr oriau sydd eu hangen ar gyfer y wobr. Oes swydd ran-amser gennych? Wedi gwneud rhywfaint o brofiad gwaith dros yr haf? Neu waith gwirfoddol hyd yn oed? Gall hyn i gyd gyfrif ac mae’r modiwlau a’r tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn ddefnyddiol o ran eich helpu i ddod o hyd i brofiad gwaith hefyd.
3) Mwynhewch y broses a gwnewch beth sy’n gweithio orau i chi! Efallai bydd llenwi cofnod e-ddysgu a chofnod myfyrio’n ymddangos fel llawer o waith, ond drwy wneud tipyn bach bod dydd neu neilltuo diwrnod neu ddau i lenwi rhywfaint ohoni, roeddwn i wedi’i gwblhau cyn i mi sylweddoli. Ar ben hynny, roedd fy rolau’n ddifyr ac yn werth chweil felly gwnaeth hynny fy helpu’n fawr i gyflawni pethau.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am Wobr Caerdydd?

Yr hyn fwynheais i fwyaf am y Wobr oedd gallu ystyried sut mae fy rolau wedi fy natblygu fel person, drwy hybu fy nghyflogadwyedd yn ogystal â’m hunanhyder. Ar ben hynny, rwy’n teimlo bod y wobr wedi fy annog i ddatblyg fy sgiliau ac wedi dangos i mi sut i ddatblygu agweddau nad oeddwn i’n gwybod bod eu hangen arnaf, neu nad oeddwn i’n sicr o sut i wneud hynny, fel ysgrifennu fy CV a’m llythyrau eglurhaol.

Bethany Lane, myfyrwyr blwyddyn derfynol, Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol






Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.