Datblygu addysg ddigidol yn yr iaith Gymraeg
22 Medi 2020
Fy enw i yw Luned Hunter a dwi ar fin dechrau fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Modern.
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf dwi wedi bod yn rhan o’r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr sy’n golygu ‘mod i wedi bod yn rhan o dîm o fyfyrwyr ar draws ysgolion gwahanol sydd wedi gweithio’n agos gyda staff y Brifysgol i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed yn y Brifysgol.
Pan darodd y cyfnod cloi, trodd y rôl hon yn un rhithwir a daeth gweithio ar addysg ddigidol yn agwedd bwysig ar fod yn Hyrwyddwr Myfyrwyr. Yn ystod y cam hwn o’r cynllun, fe wnes i lawer o ymchwil ar sut y gallai’r Brifysgol gynnig addysg ddigidol effeithlon i’w myfyrwyr. Fel Hyrwyddwr Myfyrwyr, byddwn yn cyfathrebu’n ôl ac ymlaen gyda staff ar sut y gallai’r Brifysgol gynnig addysg ddigidol arbennig i’w myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
Rhan bwysig o’m rôl fel Hyrwyddwr Myfyrwyr oedd sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu clywed yn y cynllun hwn hefyd ac, fel rhan o’m gwaith rhithwir fel Hyrwyddwr Myfyrwyr, roedd fy rôl hefyd yn cynnwys cyfieithu rhai agweddau ar addysg ddigidol. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, fe wnes i fwynhau chwarae rhan yn datblygu addysg ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n bwysig iawn bod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a myfyrwyr di-Gymraeg yn gallu defnyddio addysg ddigidol yn hawdd.
Drwy weithio gyda staff ar dasgau fel creu modiwl sefydlu effeithlon ar gyfer Dysgu Canolog, ces i a Hyrwyddwyr Myfyrwyr eraill gyfle i ddweud ein dweud ar yr hyn yr hoffai myfyrwyr ei weld fel rhan o’u haddysg ddigidol. Fel Hyrwyddwyr Myfyrwyr, fe weithion ni’n agos gyda staff i ddatblygu addysg ddigidol, gan gynnig persbectif y myfyriwr a fydd, gobeithio, o fudd i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol.
Darganfyddwch mwy am y cyflwyniad hwn i ddysgu ar-lein a digidol ym Mhrifysgol Caerdydd