Cyllid am ofod desg am hyd at chwe mis gyda YMLAEN!
31 Ionawr 2020
Chwilio am gyfle i ddatblygu eich gwaith creadigol gyda’r nod o ddechrau busnes?
Mae Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd yn cynnig gofod desg a mentora i fyfyrwyr a graddedigion mewn un o dri gofod cydweithio cyffrous. Hefyd, byddwch yn cael cefnogaeth strwythuredig gan Fentor Busnes a thaliad, naill ai i’w fuddsoddi yn y fenter neu i dalu am gostau personol.
Bydd lleoliadau YMLAEN yn cael eu strwythuro gyda nodau a cherrig milltir gyda’n Mentor Busnes. Oherwydd hyn, bydd myfyrwyr yn gymwys i ymgymryd ag YMLAEN mewn dwy ffordd:
- Myfyrwyr neu raddedigion sy’n cymryd rhan ym Mhecyn Cefnogi Mentrau Newydd y Tîm Menter a Dechrau Busnes:
Bydd y profiad yn cael ei strwythuro o gwmpas eu cynnydd drwy’r pecyn.
- Myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad modiwl:
Caiff y profiad ei strwythuro yn ôl gofynion a dysgu’r modiwl.
Mae modd cyflwyno cais bellach. I wneud cais, llenwch y ffurflen atodedig gan egluro sut byddech yn manteisio ar y cyfle hwn mewn 300 o eiriau, a’i hanfon ynghyd â’ch CV at enterprise@caerdydd.ac.uk erbyn hanner nos dydd Gwener 28 Chwefror 2020. Cynhelir y cyfweliadau ddydd Mercher 11 Mawrth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Menter drwy ebostio enterprise@caerdydd.ac.uk.
- Rhagor o wybodaeth am Tramshed Studios yma.
- Rhagor o wybodaeth am Welsh ICE yma.
- Rhagor o wybodaeth am Rabble Studio yma.
- Ymunwch â chymuned Caerdydd Creadigol yma.
Cychwynnodd YMLAEN fel partneriaeth rhwng y Tîm Menter a Dechrau Busnes, Caerdydd Creadigol a Rabble Studios.
Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.