Clementin Caredigrwydd
21 Mai 2020
Caiff caredigrwydd ei ddehongli a’i weithredu mewn ffyrdd gwahanol: mae rhai mathau’n digwydd fel rhan o arferion a ddatblygwyd ac mae mathau eraill yn gofyn i chi gymryd camau ychwanegol er mwyn cael boddhad parhaus nad yw’n diflannu byth, megis sefydliadau elusennol. Mae rhai o’r arferion yn cynnwys gwenu ar bobl, helpu person mewn angen neu efallai coginio rhywbeth ar hap a allai newid safbwynt person o bosibl neu hyd yn oed lleddfu rhywfaint o’r straen y gallent fod wedi’i ddatblygu yn gynharach yn eu diwrnod. Fodd bynnag, gall hyn hefyd gael effaith hirdymor. Mae pethau bychain bob amser yn bwysig, ac mae angen i ni ddechrau gyda chamau bach, effeithiol nad ydynt ond yn helpu’r derbynnydd ond y gweithredwr hefyd, sef chi eich hun.
Mae plannu hedyn o ‘hapusrwydd ar gyfer eraill’ o fewn ni ein hunain yn tyfu gwreiddiau eang o onestrwydd, cariad, ffyddlondeb, agosatrwydd, urddas ac ymroddiad. Bydd dyfrio’r cryfderau hyn gyda negeseuon cadarnhaol parhaus, perthnasau da ac iach ynghyd ag agwedd barchus yn cynhyrchu clementin aeddfed, llawn sudd ac iddo arogl braf, sy’n drosiad ar gyfer y fersiwn garedig ohonoch chi eich hun. Pam ddylwn i fod mor garedig â chlementin meddech chi? O ran ei natur, mae clementin yn fath o ffrwyth sy’n hoffi rhannu. Pryd roedd y tro diwethaf i rywun rannu un â chi neu i chi rannu un â rhywun arall? Mae’r ffrwyth hwn yn un hael, hwylus ac mae’n gadael arogl ac effaith hyfryd ar bob person mae’n cyffwrdd â nhw. Yn union fel person caredig: annwyl, meddal ac mae ei weithredoedd da yn aromatig ac yn denu’r da mewn pobl. Maent am i eraill gael beth yr hoffent gael eu hunain ac nid oes ganddynt yr hadau chwerw o genfigen, niwed na negyddoldeb.
Beth ydw i’n ei gael am fy ngweithred dda? Mae clementin yn hael ond nid yw’n disgwyl unrhyw beth yn ôl. Mewn gwirionedd, heb i chi sylweddoli rydych yn creu maes magnetig o’ch cwmpas sy’n denu’r ewyllys da sydd yn eraill yn anuniongyrchol a lle nad yw’r canlyniadau’n amrywio. Pam ddylwn i fod yn garedig? Mae bod yn garedig yn ddatblygiad personol: mae angen cryfder meddyliol, derbyniad, empathi a realaeth. “Rwy’n gryf, ac roeddwn am ddangos i eraill eu bod nhw’n gallu bod yn gryf hefyd”, “Roeddwn i am greu’r darlun mai tra bod bywyd yn anodd, mae dal yn hael ac mae gweithredoedd da yn bodoli o hyd”, “Roedden i am roi gobaith i berson oedd wedi’i lethu er mwyn ei atgoffa bod cyfleoedd yn bodoli o hyd a gellir paratoi llwybrau at lwyddiant”. Yn bersonol, rwy’n hoffi rhoi pan rwy’n teimlo’n isel. Mae gwybod fy mod wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol ac wedi codi calon rhywun yn dyfrio gwreiddiau fy nghlementin ac yn fy ngwobrwyo gyda boddhad a hapusrwydd.
Mae byd da yn dibynnu ar bob unigolyn yn plannu, maethu a rhannu cnydau cadarnhaol dynol ryw. Rydym yn byw er mwyn dathlu hapusrwydd ein gilydd ac annog pobl sydd â photensial, sydd wedi cilio oherwydd diffyg hyder, i dyfu. Gallwn i gyd yn sicr fod mor garedig â chlementin.
Rand, Residence Life Assistant
