Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrParatowch ar gyfer eich dyfodolStudent StoriesWork Experience

Clarissa: Pam dod yn fyfyriwr hyrwyddo?

29 Ebrill 2020
Clarissa Le Neindre-Hubbard, PGT Daearyddiaeth a Chynllunio

“Roedd dau reswm imi gael fy ysgogi i ddod yn hyrwyddwr myfyrwyr. Yn gyntaf, fel myfyriwr MSc, roeddwn i eisiau dod o hyd i rôl hyblyg a fyddai’n ffitio o amgylch fy astudiaethau. Yn ail, a’r hyn y denodd fi fwyaf at y rôl benodol hon, fel person sy’n hoffi cymdeithasu, roedd gennyf i ddiddordeb mawr mewn ymgysylltu â llawer o wahanol fyfyrwyr ac aelodau staff.

Mae wedi bod yn rôl mor gyffrous ac amrywiol lle rwy’n teimlo fy mod i wedi ennill nifer amryw o sgiliau. Mae’n debyg fy mod i wedi gweld y newid mwyaf yn fy hyder. Cyn dechrau’r rôl hon, roedd y syniad o geisio argyhoeddi myfyrwyr i lenwi ein harolygon neu siarad o flaen darlithfa orlawn yn teimlo’n eithaf brawychus! Fodd bynnag, wrth i bob shifft basio, roeddwn i’n teimlo fy mod yn magu mwy o hyder ac erbyn hyn, rwy’n hoffi’r cyfle i wneud rhywbeth newydd.

Rwyf hefyd wedi dod yn llawer mwy cyfforddus gyda siarad cyhoeddus. Mae o’n sgil mor bwysig i nifer o broffesiynau, a hyd yn oed rhai disgyblaethau gradd, ac felly mae bod yn fyfyriwr hyrwyddo wedi cynnig cyfle perffaith i ymarfer! Fe wnes i ddarganfod bod newid fy nerfau i gyffro ac ymarfer yr hyn roeddwn i’n mynd i’w ddweud yn gwneud i mi deimlo’n llawer mwy cartrefol wrth gyflwyno cyflwyniadau neu siarad o flaen cynulleidfa fawr.

Ar ben hynny, rwyf wedi datblygu sgiliau annisgwyl. Mae cymryd rhan mewn grwpiau ffocws lle rwyf wedi cynnig adborth ar wasanaethau addysg wedi fy helpu gwella fy meddwl beirniadol. Mae cymryd rhan mewn dylunio deunydd hyrwyddo i ddenu myfyrwyr wedi rhyddhau dawn greadigol nad oeddwn yn gwybod fy mod yn meddu! Mae cymryd rhan yn y broses o ddewis ceisiadau staff am gyllid addysg wedi gwneud i mi deimlo’n rhan uniongyrchol o brojectau dyfodol y Brifysgol.

Byddwn yn 100% argymell rôl myfyriwr hyrwyddo i unrhyw fyfyriwr sy’n chwilio am swydd ran-amser y gallant ei ffitio o amgylch eu hastudiaethau. Mae hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill sgiliau hanfodol ar gyfer eu datblygiad personol a phroffesiynol. Mae’r amrywiaeth y mae’r rôl swydd hon yn ei gynnig yn golygu nad yw un shifft yr un peth!”

Clarissa Le Neindre-Hubbard, PGT Daearyddiaeth a Chynllunio

Diddordeb?

Cyflwynwch gais trwy ‘Eich Cyfrif Gyrfaoedd’ – bydd y ceisiadau’n cau ar Dydd Mercher, 3 Mehefin.

Rydym yn gwrando ar fyfyrwyr ac yn gwerthfawrogi eich barn a’ch sylwadau ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda, a beth allwn ei wneud yn well. Dewch i wybod am y llu o ffyrdd y gallwch rannu eich barn a’ch sylwadau a gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol.

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda

Oedd y blog yma’n ddefnyddiol?  Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.

Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.

Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac ArianGyrfaoedd a ChyflogadwyeddCwnsela, Iechyd a LlesAnabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.

Share this: