Clare: “pam y dewisais bod yn fentor i fyfyrwyr”
13 Chwefror 2020
“Helo bawb, Clare ydw i, myfyrwraig trydedd flwyddyn sy’n astudio Hanes yr Henfyd. Rwyf wedi bod ynghlwm wrth y cynllun mentora ers fy niwrnod cyntaf un yn y Brifysgol – o gael fy mentora yn y flwyddyn gyntaf, i fod yn fentor yn fy ail flwyddyn, i fod yn ymgynghorydd mentora nawr yn fy mlwyddyn olaf.
Mae mentoriaid yn darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf , all fod yn anghyffyrddus wrth fynd i siarad ag aelodau staff. Fel myfyriwr sydd wedi bod yn y fath sefyllfa, rwy’n gwybod y gall mentor rhoi’r cymorth sydd ei angen arnom oll fel myfyrwyr, cymorth sy’n gallu bod yn anodd i’w ffindo. Chi sy’n penderfynu sut rydych yn rhedeg eich sesiynau a pha mor reolaidd y cânt eu cynnal, yn ogystal â’r materion a fydd yn cael eu trin a’u trafod. Gallwch reoli eich amser eich hunan i ffitio o amgylch eich astudiaethau. Bydd gennych restr wirio i’w chyflawni fel mentor er mwyn derbyn eich gwobr wych!
Cewch eich cefnogi o’r dechrau i’r diwedd fel mentor, felly ni fyddwch chi byth ar eich pen eich hunan, ac mae wastad rywun i siarad â nhw a gofyn cwestiynau iddynt. Cewch eich hyfforddi ar gyfer eich rôl; cewch gylchlythyrau wythnosol yn ogystal â mynediad at adnoddau cyn-fentoriaid a’r Ganolfan Sgiliau ar Ddysgu Canolog. Mae gan bob mentor ymgynghorydd mentora, fel finnau, o’ch ysgol academaidd sydd eisoes wedi bod yn fentor. Byddant yn eich helpu pan fydd angen a chwrdd â chi i wirio bod popeth yn iawn. Cewch hefyd Swyddog Prosiect, aelod staff o’r Ganolfan Sgiliau, sy’n wych ac yn hynod gefnogol.
Wrth ichi fynd trwy eich gradd, cewch eich atgoffa o hyd am adeiladu eich CV, ac mae mentora yn gyfle anhygoel i wneud hyn gan ei fod yn arddangos cynifer o sgiliau gwerthfawr. Mentora yw’r peth perffaith i roi sglein ar eich CV – byddwn innau’n gwybod: cefais interniaeth haf oherwydd fy rôl fel mentor. Fel mentor byddwch yn ennill y sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys arweinyddiaeth, trefnu, rheoli amser, cyfathrebu a datrys problemau – er ,enghraifft, pan na fydd pethau yn mynd fel dylent, neu pan fydd eich man cyfarfod yn brysur, neu pan fydd pobl yn methu â mynychu cyfarfod, neu pan gewch gwestiwn neilltuol o anodd, i restru ond ychydig.
Mae mentora’n ychwanegu mwy na bach o ddisgleirdeb ar bapur: mae hefyd yn eich helpu chi fel person. Trwy fod yn fentor ac ymgynghorydd mentora, rwy’n fwy hyderus, trefnus a chydymdeimladol. Gallaf ddweud yn gwbl ddiffuant bod cymryd rhan wedi fy ngwneud yn berson cryfach, yn berson gwell. Mae gwybod fy mod yn helpu pobl eraill trwy wirfoddoli fy amser yn peri cymaint o hapusrwydd yn y rôl, gan ei gwneud yn fwy arbennig byth.
Byddwn yn annog pawb i ymgeisio i fod yn fentor heb oedi. Trwy fod yn fentor, gallwch helpu pobl yn eich ysgol academaidd a oedd yn union yr un sefyllfa â chi – dyma gyfle ichi sicrhau bod y rheiny sy’n dod ar eich ôl yn cael yr holl wybodaeth y byddech chi wedi dymuno ei chael. Mae bod yn fentor yn dipyn o hwyl, a chewch gymaint o foddhad. Mae’n fuddiol i chi ac i’r rheiny rydych chi’n eu helpu – sefyllfa ddeublyg fuddiol! Pa well?”
Rydym yn recriwtio Mentoriaid Myfyrwyr gwirfoddol newydd nawr!
Helpwch lasfyfyrwyr yn eich ysgol, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a chael tystysgrif! Chwiliwch am “Mentor Myfyrwyr” ar y fewnrwyd i gael gafael ar ddisgrifiad o’r rôl a’r ffurflen gais ar-lein a chyflwyno cais erbyn dydd Gwener 6 Mawrth. Mae’r holl fentoriaid myfyrwyr yn cael hyfforddiant llawn, goruchwyliaeth a chefnogaeth – rydym yma i’ch helpu yn eich rôl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig fydd yn dychwelyd i’r campws ym mis Medi 2020.

Eich adborth a’ch cymorth os gwelwch yn dda
Oedd y blog yma’n ddefnyddiol? Helpwch ni drwy roi sylwadau yn y bar isod, a nodi unrhyw gwestiynau yno hefyd.
Er mwyn ein helpu ni i helpu mwy o’ch cyd-fyfyrwyr, ail-drydarwch neu rhannwch y blog hwn drwy ddefnyddio’r botymau rhannu.
Mae gan y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yma, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Eich Bywyd fel Myfyriwr, gyda Chefnogaeth.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr ym 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o fanylion am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor a chysylltiadau, chwiliwch am ‘cefnogaeth a gwasanaethau’ ar Fewnrwyd y Brifysgol.